Mae’n hanfodol bod yr Is-adran Pensiynau’n cael gwybod cyn gynted â phosib am farwolaeth aelod er mwyn osgoi gordalu pensiwn.
Wrth i chi gysylltu â’r Is-adran, byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Enw a chyfeiriad llawn yr ymadawedig
- Dyddiad y farwolaeth
- Cyfeirnod megis rhif Yswiriant Gwladol neu rif pensiwn
- Enw llawn a chyfeiriad y berthynas agosaf a rhif ffôn cyswllt
Yna bydd yr Is-adran yn pennu pa fudd-daliadau sy’n daladwy. Fel arfer, bydd un o’r budd-daliadau canlynol yn daladwy:
- Cyfandaliad grant marwolaeth – i’w dalu os yw’r aelod yn marw o fewn 5 mlynedd ar ôl ymddeol. Mae’r swm i’w dalu’n gyfwerth â phum gwaith eich pensiwn blynyddol, llai swm y pensiwn a dalwyd eisoes i chi hyd at ddyddiad eich marwolaeth.
Os byddwch yn marw, caiff Cronfa Bensiwn DASA ei harwain gan unrhyw enwebiad ond, mae’n cadw’r disgresiwn llwyr i benderfynu i bwy y dylid talu unrhyw gyfandaliad grant marwolaeth sy’n daladwy yn ôl rheoliadau’r LGPS ac ym mha gyfrannau.
Os nad ydych wedi enwi buddiolwr, neu os hoffech ddiweddaru’r manylion sydd wedi’u cofnodi, gallwch lawrlwytho Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth.
- Pensiwn goroeswr, yn daladwy i wraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil cofrestredig.
Pensiwn tymor byr ar gyfradd sy’n gyfwerth â’r pensiwn roeddech yn ei dderbyn neu y byddech wedi’i dderbyn, ond gyda gostyngiad am ymddeoliad cynnar. Os oes plant cymwys dibynnol, caiff y pensiwn hwn ei dalu am 6 mis.
Ar ôl 3 mis/6 mis, telir pensiwn tymor hir am oes sy’n gyfwerth, yn fras, â hanner y pensiwn roeddech yn ei dderbyn neu byddech wedi’i dderbyn ond gyda gostyngiad am ymddeoliad cynnar.
Sylwer:
- Os oeddech wedi priodi ar ôl ymddeol oherwydd salwch, ni fydd y pensiwn gwraig weddw/gŵr gweddw’n cynnwys unrhyw ychwanegiad am salwch a ddyfarnwyd.
- Sylwer nad yw rheoliadau’r LGPS yn caniatáu talu pensiwn i bartner cyd-fyw enwebedig dan gynllun y cynghorwyr.
- Mae pensiynau plant yn daladwy hefyd os oes gennych unrhyw blant sy’n gymwys.
Mae’r swm i’w dalu’n dibynnu ar nifer y plant sydd gennych a thelir cyfrannau cyfartal ar ran pob plentyn cymwys.
Ystyrir bod plentyn yn gymwys os yw’n ddibynnol, yn llwyr neu’n bennaf, arnoch chi ar ddyddiad eich marwolaeth ac os yw’n bodloni’r amodau canlynol:
- mae’n iau na 18 oed
- mae’n 18 oed neu’n hŷn ond yn iau na 23 oed ac mae mewn addysg amser llawn neu’n derbyn hyfforddiant galwedigaethol
- mae’n anabl yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010
Gellir effeithio ar swm y budd-dal sy’n daladwy i blentyn cymwys gan unrhyw enillion mae’n eu derbyn sy’n uwch na lefel benodol yn ystod ei amser ar gwrs hyfforddiant cymeradwy.
Telir y pensiwn cyhyd ag y bydd y plentyn (plant) yn parhau’n gymwys.