Caiff Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol newydd ei gyflwyno o 1 Ebrill 2014.
Mae gwefan ddynodedig wedi’i chreu i roi gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf i aelodau’r LGPS am y newidiadau i’r cynllun newydd a gallwch weld hyn yn http://www.lgps2014.org
Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi cyhoeddi cylchlythyr sy’n nodi’r prif newidiadau, a’r effaith ar aelodau presennol sy’n rhan o’r LGPS ar 31 Mawrth 2014. Dylai’r cylchlythyr gyrraedd eich cyfeiriad cartref cyn diwedd mis Mawrth; serch hynny, i weld y cylchlythyr ar-lein, cliciwch ar y ddolen ganlynol.
Yn ogystal, ceir rhestr o gwestiynau cyffredin am y cynllun newydd yma –