Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn newid i bensiwn un haen cyfradd safonol ar 6 Ebrill 2016, i’r rhai a fydd yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny. Bydd y gyfradd safonol yn disodli’r trefniant rhengoedd presennol (Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth).
Os ydych yn aelod gweithredol, efallai eich bod yn derbyn ad-daliad cyfraniad Yswiriant Gwladol o 1.4% o’ch tâl, gan ddibynnu ar yr hyn rydych yn ei ennill, gan eich bod wedi “contractio allan” o bensiwn ychwanegol y wladwriaeth. O 6 Ebrill 2016, ni fyddwch yn derbyn yr ad-daliad mwyach gan fod y statws “contractio allan” yn dod i ben; felly byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu’r swm uwch o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Sylwer os ydych yn gymwys am bensiwn newydd y wladwriaeth, efallai NA fyddwch yn derbyn y swm llawn. Digwydd hyn gan eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is oherwydd eich bod wedi’ch “contractio allan” o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth pan fyddwch yn aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Dylid nodi hefyd NA fydd cyflwyno pensiwn newydd y wladwriaeth yn effeithio ar eich buddion LGPS a bydd y buddion hyn yn parhau i fod yn rhan bwysig o’ch incwm ar ôl ymddeol.
Cliciwch yma i gyfeirio at y cylchlythyr a anfonwyd at aelodau LGPS ym mis Rhagfyr 2015 neu’r wefan ganlynol am fwy o wybodaeth:
https://www.gov.uk/new-state-pension/overview