Fel Cadeiryddion pwyllgorau pensiwn yr wyth cronfa bensiwn llywodraeth leol yng Nghymru, pleser o’r
mwyaf yw cyflwyno’r cynnig hwn sy’n cynnwys manylion sefydlu Pŵl Cymru.
Yng Nghymru, roedd ein gwaith o ganfod cyfleoedd i gael arbedion drwy bŵlio buddsoddiadau wedi cychwyn cyn cyhoeddi’r agenda ar gyfer pob Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol y llynedd. Cyn cyhoeddi’r canllawiau ar gyfer y Cronfeydd Pensiwn fis Tachwedd 2015, roeddem ni eisoes wedi datblygu a chytuno ar gynllun busnes manwl sy’n cynnwys caffael, ar y cyd, un darparydd yn unig ar gyfer rheoli goddefol yn ogystal â sefydlu trefniant pŵlio ar gyfer buddsoddi ar y cyd. Yn ddiweddar, rydym wedi gweithredu drwy benodi un rheolwr goddefol ac yn elwa ar arbedion sylweddol a gafwyd ers mis Ebrill 2016.
Yn y ddogfen hon, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i benodi gweithredydd trydydd parti sy’n cael ei reoleiddio i ddarparu cyfres o drefniadau ar y cyd er mwyn elwa o arbedion maint wrth reoli asedau
cronfeydd pensiwn Cymru. Bydd y trefniadau’n cael eu darparu drwy strwythur llywodraethu cadarn a fydd yn dangos atebolrwydd clir yn ôl i gronfeydd unigol.
Mae trafodaethau’n parhau ar fanylion y trefniadau ar gyfer y gwahanol fathau o fuddsoddiadau sydd gan y cronfeydd ond rydym yn amcangyfrif y gellid cael arbedion blynyddol ‐ net o’r holl gostau rhedeg – o tua £10 miliwn y flwyddyn.
Rydym ni’n grŵp cydlynol o gronfeydd gyda phrofiad hir o gydweithio ar draws nifer o feysydd polisi, gan adlewyrchu’r cyd‐destun economaidd, cymdeithasol, rheoleiddiol a gwleidyddol penodol sydd yng Nghymru.
Mae yna ddyhead cryf yng Nghymru i ddal ati gyda hyn ac i wireddu’n llawn y buddion rydym ni’n eu
hamlinellu yn y cynnig hwn.
Y Cynghorydd Graham Hinchley, Cadeirydd, Y Panel Buddsoddi Ymgynghorol, Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg.
Y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd, Pwyllgor Cronfa Bensiwn, Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Y Cynghorydd AlanDiskin, Cadeirydd, Pwyllgor Cronfa Bensiwn, Cronfa Bensiwn Clwyd
Y Cynghorydd Wyn Evans, Cadeirydd, Panel Cronfa Bensiwn, Cronfa Bensiwn Dyfed
Y Cynghorydd Mary Barnett, Cadeirydd, Pwyllgor Pensiynau, Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen)
Y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd, Pwyllgor Pensiynau, Cronfa Bensiwn Gwynedd
Y Cynghorydd A G Thomas, Cadeirydd, Cronfa Bensiwn Powys
Y Cynghorydd Mark Norris, Cadeirydd, Pwyllgor Cronfa Bensiwn, Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf