Mae newid wedi’i wneud i reolau’r cynllun fel bod buddion goroeswr sy’n daladwy i ŵr/gwraig neu bartner sifil o’r un rhyw yn gyfartal â’r rheiny a delir i wraig weddw aelod gwrywaidd.
Pam mae’r newid wedi’i wneud?
Mae’r newid wedi’i wneud o ganlyniad i ddyfarniad y Goruchaf Lys (Walker yn erbyn Innopsec) a gafodd fod gan ŵr Mr Walker hawl i’r un buddion a’r rheiny a fyddai wedi cael eu talu pe bai Mr Walker wedi gadael gwraig weddw mewn priodas o’r ddau ryw.
Pam mae hyn yn berthnasol i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?
Mae’r llywodraeth yn credu mai goblygiad y dyfarniad hwn i holl gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yw y dylai partneriaid sifil sy’n goroesi neu wŷr/gwragedd o’r un rhyw sy’n goroesi gael buddion sy’n gyfartal â’r rheiny a fyddai’n cael eu gadael i wraig weddw aelod gwrywaidd.
Pryd mae’r newid yn dod i rym?
Bydd y newid yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad pan gyflwynwyd partneriaethau sifil a phriodasau o’r un rhyw, sef 5 Rhagfyr 2005 yn achos partneriaethau sifil a 13 Mawrth 2014 yn achos priodasau o’r un rhyw.
Mae hyn yn golygu, os yw aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi marw gan adael partner sifil neu ŵr/gwraig o’r un rhyw sy’n goroesi, y bydd angen adolygu’r pensiwn sy’n cael ei dalu i’r goroeswr a thalu unrhyw symiau ychwanegol, lle bo hynny’n berthnasol. Rydym wrthi’n adolygu effaith y newid hwn a byddwn yn cysylltu â phartneriaid sifil a gwŷr/gwragedd o’r un rhyw yr effeithir arnynt maes o law.
Rhoddir ystyriaeth i’r newid yn awtomatig mewn perthynas â buddion goroeswyr a delir i bartneriaid sifil a gwŷr/gwragedd o’r un rhyw yn y dyfodol.