Achos llys gwahaniaethu ar sail oedran a’r LGPS
Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau i holl brif gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yr LGPS, o ganlyniad i ddyfarniad y Llys Apêl yn achos llys McCloud.
Achos am beth yw achos McCloud?
Pan ddiwygiwyd cynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus gan y Llywodraeth yn 2014 a 2015, cyflwynwyd amddiffyniadau i aelodau hŷn. Ym mis Rhagfyr 2018, dyfarnodd y Llys Apêl y gwahaniaethwyd yn erbyn aelodau iau cynlluniau pensiwn Barnwyr a Diffoddwyr Tân gan nad oedd yr amddiffyniadau’n berthnasol iddynt.
Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau i holl brif gynlluniau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys yr LGPS, i gael gwared ar y gwahaniaethu hwn ar sail oedran. Gelwir y dyfarniad hwn yn aml yn ‘ddyfarniad McCloud’ ar ôl un o aelodau Cynllun Pensiwn y Barnwyr a fu’n ymwneud â’r achos.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r LGPS?
Pan newidiodd yr LGPS o gyflog terfynol i gynllun pensiwn enillion gyrfa cyfartalog yn 2014, rhoddwyd amddiffyniad o’r enw’r ‘sail’ i aelodau a oedd o fewn 10 mlynedd o’u Hoedran Pensiwn Arferol (65 oed fel arfer) ar 1 Ebrill 2012. Pan fydd aelod sydd wedi’i amddiffyn yn cymryd ei bensiwn, mae’r buddion sy’n daladwy o dan y cynlluniau enillion gyrfa cyfartalog a chyflog terfynol yn cael eu cymharu, a thelir y swm uwch.
Bydd angen i’r Llywodraeth ddarparu amddiffyniad i aelodau iau sydd gydradd a’r amddiffyniad ‘sail’ a ddarperir i aelodau hŷn er mwyn dileu’r gwahaniaethu. Mae’n ymgynghori ar y newidiadau y mae angen eu gwneud i gyflawni hyn ar hyn o bryd.
A fydd y newidiadau yn berthnasol i fi?
Mae’r Llywodraeth yn bwriadu i’r newidiadau fod yn berthnasol i aelodau a oedd mewn gwasanaeth ar 31 Mawrth 2012 a chanddynt wasanaeth hefyd ar ôl 31 Mawrth 2014 (heb seibiant o fwy na 5 mlynedd).
Os wnaethoch adael cyn 1 Ebrill 2014, fe adeiladoch fuddion yn y cynllun cyflog terfynol yn unig. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich pensiwn.
A fydd fy mhensiwn yn cynyddu?
Mae’n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o aelodau’n gweld cynnydd yn eu pensiwn, a lle ceir cynnydd, mae’n debygol o fod yn fach. Y rheswm am hyn yw y bydd y rhan fwyaf o aelodau wedi adeiladu pensiwn uwch yn y cynllun enillion cyfartalog gyrfa nag y byddent wedi’i wneud dan y cynllun cyflog terfynol.
Pryd bydd y newidiadau’n dod i rym?
Nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyflwyno cyn Ebrill 2022
Beth mae’n rhaid i mi ei wneud?
Does dim angen i chi wneud dim. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau nad oes angen i aelodau sy’n gymwys ar gyfer yr amddiffyniad wneud cais er mwyn i’r newidiadau fod yn berthnasol iddynt.
Rwyf eisoes wedi gadael yr LGPS, a fydd y newidiadau’n berthnasol i fi?
Os ydych yn gymwys ar gyfer amddiffyniad, ac wedi bod yn aelod o’r LGPS ar ôl 31 Mawrth 2014, bydd y newidiadau’n berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych wedi gadael y cynllun.
Rwyf wedi derbyn taliad fy mhensiwn LGPS, a fydd y newidiadau’n berthnasol i fi?
Os ydych yn gymwys ar gyfer amddiffyniad ac yn aelod o’r LGPS ar ôl 31 Mawrth 2014, bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn derbyn eich pensiwn o’r LGPS.