Mae’r ddeddfwriaeth sy’n gweithredu’r terfyn £95,000 ar daliadau ymadael bellach wedi’i chymeradwyo a daw i rym ar 4 Tachwedd 2020. Mae hyn yn golygu y bydd cyfyngiad ar swm y costau ar gyfer ymddeoliad cynnar oherwydd colli swydd.
Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) wedi agor ymgynghoriad sy’n ceisio barn am gynigion i ddiwygio telerau taliadau ymadael ymhellach (gweler isod). Mae’r ymgynghoriad yn cynnig newidiadau i reoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) er mwyn darparu ar gyfer terfyn £95,000 y tâl ymadael. Mae hefyd yn cynnig cyfyngiad ar daliadau diswyddo ac i gostau straen gael eu lleihau gan werth unrhyw dâl colli swydd statudol a wneir.
Ni fydd y diwygiadau a wneir i’r LGPS ar waith pan ddaw’r terfyn £95,000 i rym. Mae Trysorlys ei Mawrhydi a’r MHCLG yn ymwybodol o’r sefyllfa y mae hyn yn rhoi cyflogwyr llywodraeth leol ac awdurdodau gweinyddol yr LGPS ynddi.
Sylwer, yn y cyfnod rhwng 4 Tachwedd a’r dyddiad y diwygir y rheoliadau LGPS:
- dim ond y taliadau ymadael sy’n uwch na’r terfyn £95,000 yr effeithir arnynt
- ni fydd yr arweiniad statudol ar gostau straen safonol yn effeithiol h.y. byddwch yn parhau i gyfrifo costau straen yn lleol
- ni fydd y cynigion yn ymgynghoriad y MHCLG ynghylch lleihau costau diswyddo a lleihau costau straen gan werth unrhyw dâl colli swydd yn berthnasol
Cyhoeddodd y llywodraeth gynlluniau i gyfyngu ar daliadau ymadael yn y sector cyhoeddus am y tro cyntaf yn 2015.
Ymgynghoriad MHCLG ar ddiwygio taliadau ymadael ymhellach
Yn ogystal â’r terfyn £95,000 ar daliadau ymadael, mae MHCLG wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau i’r LGPS a’r Rheoliadau Iawndal Dewisol. Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys y newidiadau a fynnir i’r rheoliadau iawndal a phensiwn i weithredu’r terfyn £95,000 ar gynigion diwygio pellach taliadau ymadael y sector cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi yn 2016.
Pwy sy’n cael ei gwmpasu?
Cwmpesir cyflogwyr pob awdurdod lleol yn y rheoliadau terfyn ac iawndal, felly bydd cyflogwyr yn gweld ystod o gyfyngiadau i fuddion y cynllun diswyddo. Bydd hefyd gyflogwyr y cynllun LGPS nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y rheoliadau iawndal na’r terfyn lle bydd cyflogwyr yn gweld gwahanol ganlyniadau.
Mae rheoliadau Trysorlys ei Mawrhydi yn nodi’r cyrff a gwmpesir gan y terfyn £95,0000 – ‘cyflogwyr wedi’u capio’ – lle bydd rheoliadau iawndal diwygiedig (heb eu cyhoeddi hyd yma) yn nodi’r cyrff sy’n rhan o’r newidiadau diwygio pellach, sef y ‘cyflogwyr diwygiad’. Bydd rhai o gyflogwyr y cynllun yn gyflogwyr wedi’u capio ac yn gyflogwyr diwygiad, ond bydd eraill yn perthyn i’r naill neu’r llall, neu ddim yn perthyn i un ohonynt. Oherwydd amseriad rheoliadau Trysorlys ei Mawrhydi, bydd cyfnod o 4 Tachwedd lle cwmpesir cyflogwyr gan y terfyn ond nid eto gan y rheoliadau iawndal neu bensiwn diwygiedig.
Beth sy’n cael ei gwmpasu gan y rheoliadau diwygio pellach yn ymgynghoriad MHCLG?
Bydd y cyfyngiadau hyn yn cyfyngu ar y taliadau a wneir i weithwyr ‘cyflogwyr diwygiad’, neu mewn perthynas â hwy, yn ogystal â hawl statudol fel a ganlyn:
- Bydd y taliad gwirioneddol a ddefnyddir mewn cyfrifiadau diswyddo yn gyfyngedig i £80,000;
- Bydd uchafswm y taliad diswyddo (gan gynnwys tâl colli swydd statudol) yn gyfyngedig i 3 wythnos o dâl am bob 15 mlynedd o wasanaeth neu 15 mis o dâl, p’un bynnag sydd isaf
- Ni fydd unrhyw daliad diswyddo’n daladwy os yw’r aelod yn derbyn pensiwn yn ddi-oed gyda thaliad gan y cyflogwr i dalu costau rhyddhau pensiwn yn gynnar – costau straen – ac eithrio os bydd y swm diswyddo’n uwch na chost y straen ac os felly, byddai’r swm sydd dros ben yn daladwy
- Bydd y swm sydd ar gael ar gyfer unrhyw gostau straen yn cael ei leihau gan y taliad colli swydd statudol
Beth sy’n cael ei gwmpasu gan y taliad ymadael?
Mae’r taliad ymadael wedi’i osod ar gyfanswm o £95,000 ac ni fydd yn gysylltiedig â mynegai. Mae taliadau ymadael yn cynnwys
- taliadau diswyddo (gan gynnwys taliadau diswyddo statudol)
- taliadau colli swydd
- costau straen pensiwn sy’n deillio pan delir pensiwn LGPS heb ei leihau cyn oedran pensiwn arferol aelod, a
- thaliadau eraill a wneir o ganlyniad i derfynu cyflogaeth.
Mae’r terfyn yn berthnasol i bob taliad ymadael sy’n codi o fewn 28 niwrnod o’i derfynu.
Beth nad yw’n cael ei gynnwys?
Nid yw taliadau sy’n ymwneud â marwolaeth mewn gwasanaeth neu ymddeoliad oherwydd afiechyd, tâl yn lle gwyliau, taliadau sy’n cydymffurfio â gorchymyn a wnaed gan lys neu dribiwnlys a thaliadau yn lle rhybudd nad ydynt yn fwy na chwarter cyflog person yn daliadau ymadael at ddibenion y rheoliadau hyn.
Er bod diswyddo statudol yn daliad ymadael, ni ellir ei leihau. Os eir yn uwch na’r terfyn, rhaid lleihau’r elfennau eraill sy’n cyfrannu at y taliad ymadael er mwyn cyflawni taliad ymadael o £95,000 neu is.
A fydd y terfyn yn cael ei fynegeio?
Cyhoeddwyd cynigion ar gyfer y terfyn am y tro cyntaf yn 2015. Pe bai’r terfyn wedi’i fynegeio gan fynegai prisiau defnyddwyr ers hynny, byddai’n fwy na £110,000. Fodd bynnag, nid oes bwriad mynegeio’r terfyn er mae’r ymateb yn datgan y caiff hyn ei adolygu.
Pryd y daw’r terfyn i rym?
Daw’r terfyn i rym ar 4 Tachwedd 2020. Deëllir na fydd newidiadau MHCLG i reoliadau LGPS ac iawndal yn dod i rym cyn diwedd y flwyddyn galendr.
Cymhwyso’r terfyn a diwygiadau pellach i’r LGPS
Bydd prif effeithiau’r rheoliadau ar aelodau’r LGPS sy’n 55 oed ac yn hŷn sy’n gymwys i dderbyn pensiwn heb ei leihau ar hyn o bryd oherwydd diswyddo neu ymddeoliad effeithlonrwydd, yn ogystal â thaliad diswyddo dan Reoliad Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal Dewisol) (Cymru a Lloegr) 2006.
Unwaith y bydd y terfyn a’r diwygio pellach ar waith ar gyfer aelodau y mae eu cyflogwyr wedi’u capio ac yn amodol ar ddiwygio pellach, bydd effaith y cynigon yn arwyddocaol gan y byddent yn derbyn tâl diswyddo statudol ac un o’r opsiynau canlynol:
- Pensiwn di-oed a leihawyd yn actiwaraidd a gyfrifwyd gan ddefnyddio costau straen wedi’u lleihau gan swm y taliad diswyddo statudol gyda therfyn o £95,000. Yn yr achos hwn, nid oes unrhyw daliad diswyddo’n daladwy; neu
- Bensiwn di-oed wedi’i ostwng yn llawn (dim cost straen i’r cyflogwr), ynghyd â thâl diswyddo statudol a thâl colli swydd sy’n fwy na thâl diswyddo statudol wedi’i gyfyngu i £95,000, neu,
- Bensiwn wedi’i ohirio (dim cost straen i’r cyflogwr), ynghyd â thâl diswyddo statudol a thâl colli swydd sy’n fwy na thâl diswyddo statudol wedi’i gyfyngu i £95,000.
Fodd bynnag, yn y cyfnod rhwng 4 Tachwedd a chyn bod y rheoliadau pensiwn ac iawndal diwygiedig ar waith, yr unig newid fydd cymhwyso’r terfyn i gostau straen.
Llacio’r terfyn
Mae amgylchiadau, a nodir yng nghyfarwyddiadau drafft Trysorlys ei Mawrhydi, lle mae’n rhaid llacio’r terfyn neu lle gellir ei lacio, a hynny gan weinidog neu’r awdurdod. Daw caniatâd am hepgoriad oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau gweithwyr a chyflogwyr
Rhaid i berson sy’n derbyn taliad ymadael hysbysu unrhyw gorff cyhoeddus arall y mae’r rheoliadau yn berthnasol iddo ac sy’n eu cyflogi, am y taliad hwnnw. Rhaid i gyflogwr sicrhau nad yw unrhyw daliad ymadael yn fwy na’r terfyn (oni chaniateir hynny gan y cyfarwyddiadau llacio) a, phan wneir taliad nad yw’n cydymffurfio, ei fod yn adennill unrhyw ordaliad sy’n destun asesiad gwerth am arian.