Mae’r sefyllfa yn Wcráin yn peri tristwch mawr i ni ac rydym yn meddwl am bobl Wcráin.
Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%. Er
hynny, yng ngoleuni’r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi’u gweld a’r sancsiynau
economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu’n gyfunol y dylid
dadfuddsoddi o’r daliannau hyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â’r cwmnïau hyn yn opsiwn
posibl.
Y Cynghorydd Clive Lloyd
Ar gyfer ac ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng
Nghymru