Mae Cyngor Abertawe’n gweithio tuag at uwchraddio’r system Oracle sy’n gyfrifol am brosesau cefn swyddfa sylfaenol e.e. y gyflogres, taliadau i bensiynwyr etc., ac felly rydym yn gweithio tuag at fynd yn fyw ym mis Ebrill 2023 gan ddefnyddio Oracle Fusion, sef swyddogaeth a gynhelir yn y cwmwl a bydd yn cefnogi taith foderneiddio’r cyngor.
Ym mis Mawrth 2023 byddwch yn derbyn eich taliad pensiwn ar 27 Mawrth yn hytrach na 31 Mawrth; mae hyn er mwyn sicrhau nad yw’r holl gynllunio a’r gwaith cysylltiedig sy’n ymwneud â rhoi’r system ar waith yn effeithio ar unrhyw daliadau sy’n ddyledus i’n cwsmeriaid a/neu gynllun y prosiect.
Hoffwn ddiolch i chi am eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth gyda’r mater hwn.