Beth yw’r Dangosfwrdd Pensiwn?
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau, drwy’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn creu Dangosfwrdd Pensiwn y gall holl ddinasyddion y DU ei ddefnyddio am ddim i weld gwybodaeth am eu pensiwn yn ddiogel, ar-lein ac mewn un lle, hyd yn oed os ydynt yn byw tramor.
Mae angen i’r holl gynlluniau pensiwn yn y DU, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) gysylltu â’r ecosystem dangosfwrdd i ddarparu gwybodaeth i aelodau pensiwn mewn ffordd ddiogel. Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan y Rhaglen Dangosfwrdd Pensiynau – gallwch ddarllen amdani ar ei gwefan.
Dolen allanol i’r Rhaglen Dangosfwrdd Pensiynau yw hon, ac nid yw ar gael yn Gymraeg:
Pam mae’r Llywodraeth am sefydlu Dangosfwrdd Pensiwn?
Mae’r nod yn syml – maent am i’r diwydiant pensiynau ddarparu gwybodaeth glir a syml am arbedion pensiwn amryfal unigolyn, gan gynnwys eu pensiwn y wladwriaeth. Maent hefyd am i’r diwydiant helpu dinasyddion i ailgysylltu ag unrhyw botiau pensiwn coll sydd ganddynt.
Pryd y bydd yn cael ei lansio?
Bwriadwyd lansio’r dangosfyrddau fesul cam. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2023 cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog a oedd yn awgrymu y gallant gael eu lansio yn hwyrach yn y dyfodol.
Mae hyn bellach wedi cael ei gadarnhau o fewn rheoliadau newydd, Rheoliadau Dangosfyrddau Pensiwn (Diwygiad) 2023, a ddaeth i rym ym mis Awst 2023. Mae ‘dyddiadau cyflwyno fesul cam’ hefyd wedi cael eu rhyddhau. Mae’n rhaid i gynlluniau’r sector cyhoeddus fel y CPLlL gysylltu erbyn 31 Hydref 2025.
Dolen allanol i’r Datganiad Ysgrifenedig Gan y Gweinidog yw hon ac nid yw ar gael yn Gymraeg:
Oes angen i aelodau’r CPLlL wneud unrhyw beth?
Nac oes. Ar hyn o bryd, cynlluniau, gweinyddwyr a chyflogwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod data aelodau’n gywir ac yn gyfredol wrth i’r diwydiant weithio ar y fframwaith technegol a thechnolegol ar gyfer cyflwyno’r dangosfwrdd.