- Beth yw Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC)?
Mae PPC yn gydweithrediad o’r wyth cronfa CPLlL yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn 2017 i gyfuno rheoli buddsoddiadau asedau a darparu gwell gwerth, llywodraethu a pherfformiad i gronfeydd pensiwn Cymru. Mae PPC wedi’i lywodraethu gan Gyd-bwyllgor Llywodraethu sy’n defnyddio model Gweithredwr (a ddarperir gan Waystone Management (UK) Limited) ac a gefnogir gan ymgynghorwyr allanol.
- Beth yw “Addas i’r Dyfodol”?
Deilliodd y fenter “Addas i’r Dyfodol” o ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU a lansiwyd ym mis Tachwedd 2024 fel rhan o adolygiad ehangach o Bensiynau’r DU i gryfhau llywodraethu a modelau gweithredol cronfeydd buddsoddi Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Ei nod yw sicrhau bod yr holl asedau CPLlL yn cael eu rheoli’n llawn a bod cronfeydd yn gweithredu gyda mwy o ymreolaeth ac effeithlonrwydd.
Cyflwynodd PPC Achos Busnes i’r Llywodraeth ddiwedd mis Chwefror 2025, i wneud achos dros barhau fel Cronfa Cymru ac, felly, parhau i wireddu’r manteision y mae’r Gronfa yn eu cynnig i Gymru. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2025.
- Beth oedd Achos Busnes “Addas i’r Dyfodol” PPC yn ei gynnig?
Roedd achos busnes PPC, a gyflwynwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth, yn cynnig y canlynol:
• Cadw cronfa fuddsoddi annibynnol yng Nghymru.
• Adeiladu gallu mewnol i fodloni gofynion llywodraethu a gofynion gweithredol newydd drwy greu Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru.
• Cwblhau’r gwaith o drosglwyddo’r holl asedau i ddod o dan reolaeth y gronfa.
• Gwella tryloywder, atebolrwydd a gwerth am arian
- Beth yw “Prosiect Snowdon”?
Menter fewnol PPC yw Prosiect Snowdon, sy’n cynnwys Swyddogion Adran 151 a Uwch-swyddogion Cronfeydd Pensiwn o’r wyth Cronfa Bensiwn CPLlL yng Nghymru, gyda chefnogaeth ymgynghorwyr PPC, i weithredu’r cynigion yn Achos Busnes PPC.
- Sut y bydd hyn yn effeithio ar aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?
Ni fydd unrhyw newid i’ch buddion pensiwn, gan gynnwys unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a allai fod gennych. Mae’r newidiadau rydyn ni’n eu gweithredu yn ymwneud â sut mae asedau pensiwn yn cael eu rheoli a’u buddsoddi, nid am y buddion rydych chi’n eu derbyn. Y nod yw sicrhau bod eich pensiwn yn cael ei reoli’n fwy effeithlon a chynaliadwy.
- Sut y bydd hyn yn effeithio ar Gyflogwyr?
Gall Cyflogwyr ddisgwyl y canlynol:
• Trefniadau cryf parhaus o ran llywodraethu a goruchwylio buddsoddiadau pensiwn.
• Potensial ar gyfer mwy o effeithlonrwydd cost a chanlyniadau buddsoddi gwell.
• Dim newid i gyfrifoldebau na phrosesau cyfrannu’r cyflogwr.
- A fydd hyn yn newid pwy sy’n gweinyddu’r cronfeydd pensiwn?
Na fydd. Bydd wyth Cronfa Bensiwn Cymru yn aros gyda’r Awdurdodau Gweinyddol ac yn cadw perchnogaeth leol o benderfyniadau strategol, ond byddant yn gweld eu penderfyniadau buddsoddi yn cael eu gweithredu gan Gwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC. Bydd PPC yn parhau i ddefnyddio rheolwyr cronfeydd allanol, ond gyda goruchwyliaeth well ac o bosibl mwy o alluoedd mewnol i fodloni gofynion newydd.
- Beth yw manteision y cynnig hwn?
• Llywodraethu cryfach ac atebolrwydd.
• Gwell perfformiad buddsoddiadau trwy raddfa ac arbenigedd.
• Arbedion cost trwy gyfuno ac effeithlonrwydd gweithredol.
• Alinio â disgwyliadau’r Llywodraeth, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
- Beth yw’r camau nesaf?
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfarwyddyd cadarnhaol i PPC i symud ymlaen a chreu Cwmi Rheoli Buddsoddiadau PPC. Bydd gwaith yn parhau ar gyflymder i sicrhau bod hyn wedi’i gwblhau o fewn amserlenni disgwyliedig y Llywodraeth.
- O ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch ddarllen cyflwyniad llawn Cynllun Busnes PPC a Addas i’r Dyfodol ar wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru neu gysylltu â’ch gweinyddwr cronfa bensiwn leol.

