Os ydych yn aelod o’r LGPS ac yn gadael cyn bod gennych hawl i’ch buddion LGPS gael eu talu, ar yr amod eich bod wedi bod yn aelod o’r cynllun ers o leiaf ddwy flynedd, neu wedi trosglwyddo hawliau pensiwn i’r LGPS, neu os oes gennych fuddion gohiriedig eisoes yn yr LGPS yng Nghymru a Lloegr, bydd gennych hawl i fuddion gohiriedig yn yr LGPS.
Mae budd gohiriedig yn fudd pensiwn sy’n cael ei gadw yn yr LGPS nes iddo fod yn daladwy neu nes iddo gael ei drosglwyddo o’r gronfa.
Mae’ch budd gohiriedig wedi’i warchod yn erbyn chwyddiant a bydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.