Bydd y buddion pensiwn gohiriedig y byddwch yn eu derbyn yn dibynnu ar y dyddiad y gadawsoch yr LGPS.
Cynllun 2008 LGPS
Gadael rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014
Os gwnaethoch ymuno â’r LGPS ar 1 Ebrill 2008 neu wedi hynny a gadael cyn 1 Ebrill 2014 bydd eich buddion gohiriedig yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:
Pensiwn Blynyddol – 1/60 eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth.
Wrth i chi ymddeol, bydd gennych opsiwn i dderbyn hyd at 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn, ar yr amod bod hyn o fewn y terfynau a bennir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CTEM). Byddwch yn derbyn cyfandaliad gwerth £12.00 am bob £1.00 o’r pensiwn rydych wedi’i ildio.
Mae gennych aelodaeth o’r LGPS cyn Ebrill 2008 ac ar ôl hynny
Os daethoch yn aelod gohiriedig ar ôl 1 Ebrill 2008 ac mae gennych aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008 hefyd, mae eich aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008 yn darparu pensiwn gohiriedig a chyfandaliad di-dreth awtomatig. Cyfrifir y buddion gohiriedig fel a ganlyn:
Aelodaeth hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2008
Pensiwn Blynyddol – 1/80 eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth.
Cyfandaliad Awtomatig – 3/80 x eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth
Aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014
Pensiwn Blynyddol – 1/60 eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth.
Caiff y 2 gyfanswm eu cyfuno i roi cyfanswm eich buddion gohiriedig.
Wrth i chi ymddeol, bydd gennych opsiwn i dderbyn hyd at 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn, a fydd yn cynnwys eich cyfandaliad awtomatig yn seiliedig ar eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008, ar yr amod bod hynny o fewn y terfynau a bennwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CTEM). Byddwch yn derbyn cyfandaliad gwerth £12.00 am bob £1.00 o’r pensiwn rydych wedi’i ildio.
Diogelu rhag Chwyddiant
I ddiogelu eu gwerth, bydd eich buddion gohiriedig yn cynyddu yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) sy’n mesur chwyddiant prisiau. Gellir gweld manylion am y cynnydd pensiynau diweddaraf ar y tudalennau ‘Pensiynwyr’.
Dyddiad Talu
Caiff buddion gohiriedig eu talu fel arfer pan fyddwch yn 65 oed, oni bai eich bod yn dewis gohirio taliad tan ar ôl yr oedran hwnnw.
Gall fod modd i chi dderbyn eich buddion gohiriedig yn gynharach, fel a ganlyn:
- Gallwch ddewis taliad cynnar wrth i chi gyrraedd 55 oed neu’n hwyrach. Os caiff y buddion eu talu cyn i chi gyrraedd 65 oed, cânt eu lleihau i adlewyrchu taliad cynnar, er y gellid diogelu eich buddion sydd wedi cronni ar neu cyn 31 Mawrth os oeddech wedi ymaelodi â’r LGPS cyn 1 Hydref 2006 ac mae gennych aelodaeth wedi’i diogelu (gweler y dudalen Ymddeoliad Cynnar o dan y pennawd Cyflogeion Presennol).
- Rydych yn cyflwyno cais i’ch cyn-gyflogwr i dderbyn eich buddion gohiriedig rhwng 55 oed a 60 oed gyda’i gydsyniad. Os caniateir hyn, bydd gan eich cyn-gyflogwr ddisgresiwn i hepgor unrhyw ostyngiad am resymau tosturiol.
- Gallwch wneud cais i’ch buddion gohiriedig gael eu talu’n gynnar am resymau salwch ar unrhyw oedran, heb ostyngiad, os byddwch yn rhy sâl i weithio. Dylech gysylltu â’ch cyn-gyflogwr i drefnu prawf meddygol os yw hyn yn berthnasol i chi.
Cyn i’ch cyn-gyflogwr benderfynu a yw’n fodlon cytuno i gais o’r fath, bydd rhaid iddo gael tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig cymeradwy sy’n datgan eich bod yn analluog, a hynny’n barhaol, i gyflawni’r gwaith roeddech yn ei wneud pan adawsoch yr LGPS a bod gennych lai o debygolrwydd o allu cael gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd i wneud cais am y budd neu erbyn 65 oed, pa un bynnag fydd gynt.
Diffinnir gwaith cyflogedig fel ‘cyflogaeth â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos am o leiaf 12 mis.’
Sylwer; os cymeradwyir rhyddhau eich buddion LGPS, ni chewch unrhyw ychwanegiad am salwch.
Cynllun 1997 LGPS
Gadael ar neu cyn 31 Mawrth 2008
Os gadawsoch ar neu cyn 31 Mawrth 2008, byddwch yn derbyn cyfandaliad di-dreth yn awtomatig, ynghyd â phensiwn blynyddol a gyfrifir fel a ganlyn:
Pensiwn Blynyddol – 1/80 x eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth
Cyfandaliad Awtomatig – 3/80 x eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth
Wrth i chi ymddeol, bydd gennych opsiwn i dderbyn hyd at 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn, a fydd yn cynnwys eich cyfandaliad awtomatig yn seiliedig ar eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008, ar yr amod bod hynny o fewn y terfynau a bennwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CTEM). Byddwch yn derbyn cyfandaliad gwerth £12.00 am bob £1.00 o’r pensiwn rydych wedi’i ildio.
Diogelu rhag Chwyddiant
I ddiogelu eu gwerth, bydd eich buddion gohiriedig yn cynyddu yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) sy’n mesur chwyddiant prisiau. Gellir gweld manylion am y cynnydd pensiynau diweddaraf ar y tudalennau ‘Pensiynwyr’.
Dyddiad Talu
Fel arfer, caiff buddion gohiriedig eu talu pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed, oni bai eich bod yn dewis gohirio taliad tan ar ôl yr oedran hwnnw, tan 75 oed fan hwyraf.
Gall fod modd i chi dderbyn eich buddion gohiriedig yn gynharach, fel a ganlyn:
- Gallwch ddewis taliad cynnar wrth i chi gyrraedd 55 oed neu’n hwyrach. Os caiff buddion eu talu cyn i chi gyrraedd 65 oed, cânt eu lleihau i adlewyrchu taliad cynnar, er y gellid diogelu rhai neu’r cyfan o’ch buddion rhag cael eu lleihau os oeddech wedi ymaelodi â’r LGPS cyn 1 Hydref 2006 ac mae’ch aelodaeth wedi’i diogelu (gweler y dudalen Ymddeoliad Cynnar dan y pennawd Cyflogeion Presennol).
- Rydych yn gwneud cais i’ch cyn-gyflogwr i dderbyn eich buddion gohiriedig rhwng 50 oed a 60 oed gyda’i gydsyniad. Os caniateir, bydd gan eich cyn awdurdod cyflogi ddisgresiwn i hepgor unrhyw ostyngiad am daliad cynnar ar sail dosturiol (sylwer os gadawsoch cyn 31 Mawrth 1998 gallwch ond wneud cais i ohirio rhyddhau eich buddion ar sail dosturiol.)
- Gallwch wneud cais i’ch buddion gohiriedig gael eu talu’n gynnar am resymau salwch ar unrhyw oedran, heb ostyngiad, os byddwch yn rhy sâl i weithio. Dylech gysylltu â’ch cyn-gyflogwr i drefnu prawf meddygol os yw hyn yn berthnasol i chi.
Cyn i’ch cyn-gyflogwr benderfynu i gytuno ar gais o’r fath, bydd rhaid gael tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol sy’n datgan eich bod yn analluog, a hynny’n barhaol, i gyflawni’n effeithlon ddyletswyddau eich swydd flaenorol gyda llywodraeth leol oherwydd salwch neu wendid meddwl neu gorfforol.
Sylwer; os cymeradwyir rhyddhau eich buddion LGPS, ni chewch unrhyw ychwanegiad am salwch.