Bydd eich budd-daliadau pensiwn gohiriedig yn dibynnu ar ddyddiadau’ch aelodaeth.
Mae’ch aelodaeth o’r LGPS yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
O 1 Ebrill 2014, byddwch yn adeiladu pensiwn, wedi’i gyfrifo’n 1/49fed o’r tâl pensiynadwy rydych wedi’i dderbyn ac wedi talu cyfraniadau pensiwn arno, ar gyfer pob blwyddyn o’r cynllun (o 1 Ebrill tan 31 Mawrth).
Eich tâl pensiynadwy yw swm y tâl rydych yn talu’ch cyfraniadau pensiwn arno.
Mae’r pensiwn rydych yn ei gronni bob blwyddyn (1 Ebrill tan 31 Mawrth) yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn a chaiff ei ailbrisio yn unol â’r mynegai cost byw priodol bob mis Ebrill.
Gweler ‘Cyfrifo Eich Budd-daliadau’ ar y dudalen Gweithwyr Presennol.
Os oes gennych aelodaeth o’r LGPS cyn 1 Ebrill 2014
Os ydych wedi bod yn aelod ers cyn 1 Ebrill 2014, bydd eich pensiwn ar gyfer y cyfnod hwn yn seiliedig ar gyfanswm yr aelodaeth yn y cynllun a’ch Tâl Terfynol – y tâl pensiynadwy y byddwch yn ei dderbyn ym mlwyddyn olaf eich gwasanaeth, neu dâl un o’r ddwy flynedd flaenorol os yw’n well. Os caiff eich tâl ei leihau neu ei gyfyngu o fewn 10 mlynedd i ymddeol, mae gennych hefyd yr opsiwn i seilio’ch buddion tâl terfynol ar gyfartaledd tâl unrhyw 3 blynedd olynol yn y 13 blynedd diwethaf (gan orffen ar 31 Mawrth).
Os ydych yn gweithio rhan-amser, bydd aelodaeth y cynllun yn cyfrif o ran ei hyd rhan-amser wrth gyfrifo’ch pensiwn, a chyfrifir eich tâl terfynol ar sail y tâl y byddech wedi’i dderbyn pe baech wedi bod yn gweithio amser llawn.
Ar gyfer aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 mawrth 2014, bydd eich budd gohiriedig yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
Pensiwn Blynyddol – 1/60 eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth.
Os oes gennych aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008, mae eich aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008 yn rhoi pensiwn gohiriedig i chi a chyfandaliad di-dreth awtomatig i chi. Cyfrifir y budd-daliadau gohiriedig fel a ganlyn:
Pensiwn Blynyddol – 1/80 eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth.
Cyfandaliad Awtomatig – 3/80 x eich tâl terfynol x cyfanswm eich aelodaeth
Caiff cyfanswm pob adran eu cyfuno i roi cyfanswm eich budd-dal gohiriedig i chi.
Wrth i chi ymddeol, bydd gennych opsiwn i dderbyn hyd at 25% o werth cyfalaf eich budd-daliadau pensiwn, a fydd yn cynnwys eich cyfandaliad awtomatig yn seiliedig ar eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008, ar yr amod bod hynny o fewn y terfynau a bennwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CTEM). Byddwch yn derbyn cyfandaliad gwerth £12.00 am bob £1.00 o’r pensiwn rydych wedi’i ildio.
Diogelu rhag Chwyddiant
I ddiogelu eu gwerth, bydd eich budd-daliadau gohiriedig yn cynyddu yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) sy’n mesur chwyddiant prisiau. Gellir gweld manylion am y cynnydd pensiynau diweddaraf ar y tudalennau ‘Pensiynwyr’.
Dyddiad Talu
Mae buddion gohiriedig fel arfer yn daladwy ar oedran pensiwn arferol (gyfwerth ag oedran pensiwn y wladwriaeth neu o leiaf 65 oed), oni bai eich bod yn dewis gohirio taliad y tu hwnt i’r oedran hwnnw.
Gall fod modd i chi dderbyn eich budd-daliadau gohiriedig yn gynharach, fel a ganlyn:
- Gallwch ddewis taliad cynnar wrth i chi gyrraedd 55 oed neu’n hwyrach. Bydd y buddion yn destun gostyngiad os caiff eu talu cyn eich oedran pensiwn arferol er mwyn ystyried taliad cynnar, (os gwnaethoch ymuno â’r LGPS cyn 1 Hydref 2006 byddwch yn cael eich diogelu rhag gostyngiad posib yn rhan o’ch budd-daliadau neu’r cyfan ohono).
- Gallwch wneud cais i’ch budd-daliadau gohiriedig gael eu talu’n gynnar am resymau salwch ar unrhyw oedran, heb ostyngiad, os byddwch yn rhy sâl i weithio. Dylech gysylltu â’ch cyn-gyflogwr i drefnu prawf meddygol os yw hyn yn berthnasol i chi.
Cyn i’ch cyn-gyflogwr benderfynu a yw’n fodlon cytuno i gais o’r fath, bydd rhaid iddo gael tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig cymeradwy sy’n datgan eich bod yn analluog, a hynny’n barhaol, i gyflawni’r gwaith roeddech yn ei wneud pan adawsoch yr LGPS a bod gennych lai o debygolrwydd o allu cael gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd i wneud cais am y budd-dal neu erbyn 65 oed, pa un bynnag fydd gynt.
Diffinnir gwaith cyflogedig fel ‘cyflogaeth â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos am o leiaf 12 mis.’
Sylwer; os cymeradwyir rhyddhau eich budd-daliadau LGPS, ni chewch unrhyw ychwanegiad am salwch.