Bydd y grant marwolaeth a delir os byddwch yn marw ar ôl gohirio budd-daliadau yn dibynnu ar eich dyddiad gadael.
- Gadael â budd-daliadau gohiriedig ar neu cyn 31 Mawrth 2008
Os gadawsoch y cynllun cyn neu ar 31 Mawrth 2008, byddai’r grant marwolaeth yn
3 x gwerth cyfredol eich pensiwn gohiriedig
- Gadael â budd-daliadau gohiriedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008
Os gadawsoch y cynllun ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, byddai’r grant marwolaeth yn
5 x gwerth cyfredol eich pensiwn gohiriedig
Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth
Gallwch ddiweddaru eich Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth eich hun gan ddefnyddio Fy Mhensiwn Ar-lein.
Mae’r LGPS yn caniatáu i chi ddweud i bwy yr hoffech i unrhyw grant marwolaeth gael ei dalu ar eich marwolaeth drwy lenwi Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth.
Mae’r Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth yn caniatáu i chi enwebu un person neu fwy, neu sefydliad, i dderbyn y grant marwolaeth.
Os byddwch yn marw, caiff Cronfa Bensiwn DASA ei harwain gan unrhyw enwebiad ond, mae’n cadw’r disgresiwn llwyr i benderfynu i bwy y dylid talu unrhyw gyfandaliad grant marwolaeth sy’n daladwy yn ôl rheoliadau’r LGPS ac ym mha gyfrannau.
Os hoffech ddiweddaru’ch mynegiant o ddymuniad o ran grant marwolaeth, cliciwch yma i gael y ffurflen briodol.