Pan hysbysir yr Is-adran Pensiynau eich bod wedi marw, byddant yn ystyried a allai fod hawl i bensiwn plentyn ac yn darparu’r ffurflenni hawlio perthnasol.
Mae’r swm i’w dalu’n dibynnu ar nifer y plant sydd gennych a thelir cyfrannau cyfartal ar ran pob plentyn cymwys.
Mae plentyn yn gymwys os yw ef/hi’n:
- iau na 18 oed
- 18 oed neu’n hŷn ond yn iau na 23 oed ac mae mewn addysg amser llawn neu’n derbyn hyfforddiant galwedigaethol
- methu cael cyflogaeth oherwydd nam corfforol neu feddyliol a naill ai:
- heb gyrraedd 23 oed; neu
- ystyrir bod y nam yn barhaol gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol ac roedd y plentyn yn ddibynnol ar yr aelod ar ddyddiad y farwolaeth oherwydd y nam corfforol neu feddyliol.
Telir y pensiwn cyhyd ag y bydd y plentyn (plant) yn parhau’n gymwys.