Os ydych wedi gadael cyflogaeth â budd-daliadau gohiriedig ac yn marw cyn eu derbyn, bydd y budd-daliadau goroeswr i’w talu’n dibynnu ar a oeddech wedi gadael cyflogaeth â hawl i fudd-daliadau gohiriedig cyn neu ar ôl 1 Ebrill 2008.
Pensiwn priod sy’n goroesi
Pryd bynnag y gadawsoch, caiff pensiwn ei dalu i’ch gwraig weddw neu’ch gŵr gweddw fel a ganlyn:
- Gwraig weddw
1/160 x eich tâl terfynol x yr aelodaeth mae’r pensiwn gohiriedig yn seiliedig arni.
Os ydych wedi priodi ar ôl gadael y gyflogaeth, mae pensiwn gŵr gweddw sy’n goroesi’n seiliedig ar aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978.
- Gŵr Gweddw
1/160 x eich tâl terfynol x yr aelodaeth mae’r pensiwn gohiriedig yn seiliedig arni.
Os ydych wedi priodi ar ôl gadael y gyflogaeth, mae pensiwn gŵr gweddw sy’n goroesi’n seiliedig ar aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1988.
- Partner Sifil Cofrestredig sy’n Goroesi
Os yw partner sifil cofrestredig yn eich goroesi, mae cyfanswm y budd-dal goroeswr sy’n daladwy yn dibynnu ar y dyddiad y gadawsoch y gyflogaeth.
Gadael ar neu cyn 31 Mawrth 2008
Cyfrifir pensiwn eich partner sifil cofrestredig sy’n goroesi fel a ganlyn:
1/160 x eich tâl terfynol x eich aelodaeth o 6 Ebrill 1978 hyd eich dyddiad gadael
Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008
Cyfrifir pensiwn eich partner cofrestredig sy’n goroesi fel a ganlyn:
1/160 x eich tâl terfynol x yr aelodaeth mae’r pensiwn gohiriedig yn seiliedig arni.
Os ydych wedi cofrestru ers gadael y gyflogaeth, mae pensiwn y partner sifil cofrestredig sy’n goroesi’n seiliedig ar aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978.
Partner Cyd-fyw sy’n Goroesi
Os ydy’r partner sy’n cydfyw â chi yn dal yn fyw ar ôl eich marwolaeth, mae’r swm o fudd-dal goroeswr sy’n daladwy yn dibynnu ar pryd y gwnaethoch chi adael y gyflogaeth .
- Gadael ar neu cyn 31 Mawrth 2008
Nid yw eich partner sy’n cyd-fyw â chi yn gymwys i dderbyn pensiwn goroeswr.
- Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008
Telir pensiwn goroeswr ar yr amod bod eich partner yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd .
Amodau cymhwyso ar gyfer partner cyd-fyw
Mae pensiwn goroeswr yn cael ei dalu i’r partner cyd-fyw, os yw’r amodau canlynol wedi’u bodoli am gyfnod parhaus o o leiaf 2 flynedd cyn eich marwolaeth:
- Mae’r ddau ohonoch, nawr ac wedi bod, yn rhydd i briodi â’ch gilydd neu lunio partneriaeth sifil â’ch gilydd
- Rydych yn byw gyda’ch gilydd fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil
- Nid oes yr un ohonoch yn byw gyda rhywun arall fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil
- Naill ai mae’ch partner cyd-fyw yn ddibynnol yn ariannol arnoch neu mae’r ddau ohonoch yn rhyngddibynnol yn ariannol ar eich gilydd.
Mae’ch partner yn ddibynnol yn ariannol arnoch os mai chi sy’n ennill yr incwm mwyaf. Ystyr ‘rhyngddibynnol yn ariannol’ yw’ch bod yn dibynnu ar eich arian ar y cyd i gynnal eich safonau byw. Nid yw’n golygu bod yn rhaid i chi gyfrannu’n gyfartal. Er enghraifft, os yw incwm eich partner yn fwy o lawer na’ch un chi, gall ef neu hi fod yn talu’r morgais a’r rhan fwyaf o’r biliau, ac efallai eich bod chi’n talu am y siopa wythnosol. Sylwer, bydd y swm sy’n daladwy i’ch partner cyd-fyw’n llai na’r hyn sy’n daladwy i briod neu bartner sifil cofrestredig os ydych wedi dewis peidio â thalu cyfraniadau ychwanegol o ran unrhyw aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988.
Cyfrifir y pensiwn fel a ganlyn:
1/160 x eich tâl terfynol x aelodaeth o 6 Ebrill 1988 hyd eich dyddiad gadael (ynghyd ag unrhyw aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988 y penderfynoch dalu cyfraniadau ychwanegol ar ei chyfer)