Os ydych yn analluog i weithio oherwydd salwch, a hynny’n barhaol, dylech gysylltu â’ch cyn-gyflogwr LGPS i ganfod a oes modd talu’ch budd-daliadau LGPS ar unwaith.
Gadael ar neu cyn 31 Mawrth 2008
Mae’n rhaid i Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol cymeradwy ardystio eich bod yn analluog, a hynny’n barhaol, i gyflawni dyletswyddau eich swydd flaenorol gyda llywodraeth leol yn effeithiol oherwydd salwch neu wendid meddwl neu gorfforol.
Gadael ar neu cyn 31 Mawrth 2014
Mae’n rhaid i Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol ardystio eich bod yn analluog, a hynny’n barhaol, i wneud y swydd yr oeddech yn ei gwneud pan adawoch chi’r LGPS a bod gennych lai o debygolrwydd o gael gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd o geisio am y budd-dal neu cyn cyrraedd 65 oed, p’un bynnag fydd gynt.
Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
Mae’n rhaid i Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol ardystio eich bod yn analluog, a hynny’n barhaol, i wneud y swydd yr oeddech yn ei gwneud pan adawoch chi’r LGPS a bod gennych lai o debygolrwydd o gael gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd o geisio am y budd-dal neu erbyn oedran pensiwn arferol (sy’n gyfartal a’ch oedran pensiwn y wladwriaeth neu o leiaf 65 oed), p’un bynnag fydd gynt.
Diffinnir gwaith cyflogedig fel ‘cyflogaeth â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos am o leiaf 12 mis.’
Sylwer; os cymeradwyir rhyddhau eich buddion LGPS, ni chewch unrhyw ychwanegiad am salwch.