Os ydych wedi gadael cyflogaeth Llywodraeth Cymru ac wedi gohirio buddion LGPS, gallwch benderfynu eu gadael yn y cynllun, lle byddant yn cynyddu ymhellach gyda chwyddiant bob blwyddyn, neu eu trosglwyddo i gynllun cyflogwr newydd neu i gynllun pensiwn personol, gan gynnwys cynllun pensiwn tramor.
Ni allwch drosglwyddo eich buddion os ydych yn gadael llai na blwyddyn cyn eich Oedran Pensiwn Arferol (sydd gyfwerth ag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n o leiaf 65 oed).
Ailgyflogi mewn llywodraeth leol – Os ydych yn ailymuno â’r LGPS gyda chyflogwr newydd, gallwch ddewis i’r hawliau pensiwn rydych wedi’u cronni gael eu hychwanegu at eich cyfrif pensiwn newydd yn y cynllun. 12 mis yn unig sydd gennych o ailymuno â’r LGPS i ddewis trosglwyddo aelodaeth LGPS flaenorol, oni bai fod eich cyflogwr yn caniatáu i chi gael mwy o amser.
Ailgyflogaeth arall – Os ydych yn symud i gyflogaeth bensiynadwy arall â chynllun pensiwn cymeradwy, gellir gwneud taliad trosglwyddo i’r cynllun hwnnw yn lle’r buddion gohiriedig.
Mae trosglwyddiadau ar gael hefyd ar gyfer pensiynau personol a bondiau prynu cyfran. Rhoddir manylion unrhyw daliad trosglwyddo i’ch cynllun newydd ar gais.+
D.S. Mae buddion gohiriedig yn werthfawr iawn a dylech ystyried yr holl ffeithiau cyn penderfynu ynglŷn â throsglwyddo. Efallai y byddai’n syniad cael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol
Rhyddid a Dewis Neu os ydych yn 55 oed neu’n hŷn, gallech ystyried yr opsiwn o gyrchu eich cynilion pensiwn o dan ddeddfwriaeth Rhyddid a Dewis. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Sut rwyf yn trosglwyddo fy muddion gohiriedig?
Os ydych yn dymuno trosglwyddo eich buddion o’r LGPS, rhaid i chi gysylltu â’ch darparwr pensiwn newydd i ofyn am ddyfynbris ar gyfer trosglwyddo o’r gronfa. O dan Ddeddf Pensiynau 1995, rhaid i ddyfynbris gael ei warantu am 3 mis o ddyddiad y cyfrifiad. Cyn trosglwyddo eich buddion LGPS i drefniant Cyfraniad Diffiniedig, RHAID i chi gael cyngor gan Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Advice from the Financial Conduct Authority on transferring your pension.