Rhaid i Ddinas a Sir Abertawe, fel Awdurdod Gweinyddu Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wneud y canlynol:
- Gwneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannnol y Gronfa Bensiwn yn briodol a sicrhau bod gan un o’i swyddogion gyfrifoldeb dros weinyddu’r materion hynny.
- Rheoli ei faterion mewn modd economaidd, effeithiol ac effeithlon a diogelu ei asedau.
Bwrdd Pensiwn
Yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2015, cyflwynwyd Bwrdd Pensiwn o 1 Ebrill 2015 i sicrhau bod y cynllun yn cael ei lywodraethu a’i weinyddu’n effeithiol.
Bydd y Bwrdd Pensiwn Lleol yn gorff goruchwylio a bydd yn gyfrifol am helpu Cyngor Dinas a Sir Abertawe, fel Rheolwr y Cynllun, i:
- sicrhau y cydymffurfir â’r Rheoliadau, unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gysylltiedig â llywodraethu a gweinyddu’r Cynllun, a gofynion a osodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas â’r Cynllun a;
- sicrhau llywodraethu a gweinyddu’r cynllun yn effeithiol ac yn effeithlon.
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn
Mae Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gyfrifol am bob mater sy’n ymwneud â rheoli a gweinyddu Cronfa Bensiwn Ddinas a Sir Abertawe.
Mae’r Pwyllgor yn cwrdd yn ffurfiol o leiaf bob chwarter ac fe’i cefnogir gan gyngor a dau ymgynghorydd annibynnol. Mae’r Panel, ar ôl ystyried barn yr ymgynghorwyr annibynnol a’r actiwari a benodwyd, yn gyfrifol am bennu’r strategaeth a’r polisi buddsoddi a rheolwyr cronfeydd proffesiynol a benodwyd sy’n ymgymryd â’r gwaith o reoli’r asedau.
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar nifer o ddogfennau polisi ar gyfer y gronfa. Mae’r rhain wedi’u diwygio fel y bo’n briodol a gellir gweld y fersiynau diweddaraf isod, ynghyd ag adroddiadau Blynyddol a Phrisio Actiwaraidd y Gronfa.
Cyfuno Buddsoddiadau
Yng Nghyllideb yr Haf 2015, cyhoeddwyd y bydd y Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau gweinyddol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i ddiwygio’r ffordd mae buddsoddiadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael eu rheoli yng Nghymru ac yn Lloegr.
Mae 91 cyllideb pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru ac yn Lloegr wedi dechrau’r arfer o gyfuno’u hasedau mewn wyth cronfa fuddsoddi mewn ymdrech i leihau costau buddsoddi a galluogi cyllidebau i ddatblygu’r gallu i fod yn arweinwyr mewn buddsoddiad isadeiledd a helpu i hybu twf yn economi’r DU.
Mae disgwyl i’r arfer o gyfuno buddsoddiadau i’w defnyddio ar gyfer buddsoddiadau ar y cyd ddechrau o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi bod yn gweithio ar y cyd â 7 cronfa bensiwn llywodraeth leol arall yng Nghymru.