Yn unol â rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rhaid prisio’r Gronfa Bensiwn bob 3 blynedd.
Nod y prisiant yw asesu sefyllfa ariannol y gronfa (h.y. a yw asedau’r gronfa’n ddigonol i fodloni ei rhwymedigaethau arfaethedig); gosod y tybiaethau ar gyfer chwyddiant ac adenillion buddsoddiadau yn y dyfodol ac adolygu cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr.
Caiff cyfraddau cyfraniad cyflogwyr eu gosod ar lefel sy’n ddigonol i sicrhau unrhyw ddichonoldeb parhaus y gronfa a chânt eu diwygio o ganlyniad i bob prisiant. Sylwer bod cyfraddau cyfraniad aelodau wedi’u nodi yn rheoliadau’r cynllun ac nid ydynt yn destun adolygiad wrth brisio.
Bydd y prisiant nesaf yn seiliedig ar aelodaeth ar 31 Mawrth 2025 a bydd cyfraddau cyfraniad cyflogwyr newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.