• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Search

  • Hafan
    • Cyflwyniad
    • Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
    • Links
    • Ymwadiad
    • Cysylltwch â ni
  • Gweithwyr Presennol
    • Ymuno â’r LGPS
      • Beth fydd y gost?
      • Trosglwyddo Buddion Pensiwn Blaenorol
    • Yn Ystod eich Aelodaeth
      • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
      • Absenoldeb o’r gwaith
      • Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil
      • Adran 50/50
      • Diogelu Buddion Pensiwn
      • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael y Cynllun
      • Dewisiadau
      • Rhyddid a Dewis
    • Ymddeoliad
      • Pryd gaf ymddeol?
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudiad
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Salwch
      • Diswyddiad/Effeithlonrwydd
      • Ymddeoliad Hyblyg
      • Aelodau – Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Marwolaeth mewn Swydd
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau Plant
    • Diogelu Buddion Pensiwn
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Aelodau Gohiriedig
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
    • Trosglwyddo eich buddion
    • Salwch
    • Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Newid Cyfeiriad (Wedi’i ohirio)
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Pensiynwyr
    • Sut rwy’n ymddeol?
    • Talu Pensiwn
    • Treth Incwm
    • Dyddiadau Taliadau
    • Cynyddu Pensiynnau
      • Cynyddu Pensiynau a’r Cysylltiad â Chynllun y Wladwriaeth
    • Newid Cyfeiriad neu Fanylion Banc
    • Marwolaeth mewn Ymddeoliad
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Olrhain Hawliau Pensiwn Blaenorol
    • Pensiwn y Wladwriaeth
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cynghorwyr
    • Gadael y Cynllun
      • Ad-dalu Cyfraniadau
      • Budd-daliadau Gohiriedig
      • Trosglwyddo eich budd-daliadau
    • Ymaelodi â’r Cynllun
    • Yn Ystod Aelodaeth
    • Ymddeoliad
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudo
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Oherwydd Salwch
    • Budd-daliadau Marwolaeth
      • Marwolaeth Mewn Swydd
      • Marw ar ôl Gohirio Buddion
      • Marwolaeth ar ôl Ymddeol
    • Canllaw i aelodau sy’n gynghorwyr – Canllaw byr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL) ar gyfer cynghorwyr cymwys yng Nghymru
    • Beth fydd y gost?
    • Trosglwyddo Budd-daliadau Pensiwn Blaenorol
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cyflogwyr
    • Dogfennau Gweinyddol
      • Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
      • Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid
    • Cofrestru Awtomatig
    • Cyflwyniadau a Seminarau
    • Rheoliadau LGPS
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ardal Ddiogel i Gyflogwyr
      • Arweiniad Cyflogwr
      • Gymdeithas Llywodraeth Leol
      • Ffurflenni Cyflogwyr
  • Buddsoddi a’r Gronfa
    • Dogfennau Polisi
    • Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
    • Prisiannau Actiwaraidd
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Dogfennau gweinyddol
    • Pension Fund Data Quality
  • Newyddion
    • Videos – Pensions made simple by the LGPS
  • Cymraeg
    • English

Featured @cy

7 Mawrth 2022 By webmaster

Statement from the Wales Pension Partnership and the LGPS in Wales

We are deeply saddened by the situation in Ukraine and our thoughts are with the
Ukrainian people.

Our total exposure to Russian Investments is minimal at less than 1%. Even so, in light of the
terrible events we have witnessed and the economic sanctions imposed internationally, as a
collective we have decided to divest from these holdings as soon as is practically possible.

Given the circumstances we do not believe that engagement with these companies presents
a viable option.

Cllr Clive Lloyd
For and behalf of the Wales Pension Partnership and the LGPS in Wales

Filed Under: Featured @cy

30 Tachwedd 2020 By Steph Rutt

Y gronfa bensiwn ar y trywydd iawn i daro’r targed gwyrdd

Dywedir wrth gyfarfod y cyngor llawn yr wythnos nesaf fod cronfa bensiwn arobryn Cyngor Abertawe ar y trywydd iawn i dorri’i ôl troed carbon i 50% o lefelau mynegai erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae’r gronfa £2.1 biliwn i ofalu am gronfeydd ymddeoliad 47,000 o aelodau eisoes wedi cymryd cam mawr i leihau ei hôl troed carbon drwy leihau’r swm o arian a fuddsoddir mewn cwmnïau olew a sefydliadau eraill â dwysedd carbon uchel.

Ac yn gynharach eleni, cytunodd ar fuddsoddiad o £30m mewn cwmnïau cynhyrchu ynni gwyrdd ledled y byd.

Mewn adroddiad arbennig i’r cyngor yr wythnos nesaf sy’n edrych ar ymrwymiad Abertawe i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, mae ffigurau newydd yn datgelu bod ôl troed carbon y gronfa i lawr 47% o lefelau mynegai ac ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed lleihau uchelgeisiol o 50% a osodwyd pedair blynedd yn ôl.

Ar ben hynny, mae’r gronfa hefyd wedi neilltuo arian i gronfa fuddsoddi yn y DU sy’n cefnogi creu cartrefi i’w rhentu ar gyfer teuluoedd incwm canol ‘gwasgedig’ na allant fforddio morgeisi ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol.

Meddai Clive Lloyd, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Abertawe, “Mae’r gronfa’n darparu ar gyfer ei 47,000 o aelodau, mae’n darparu ar gyfer dyfodol y blaned ac yn darparu ar gyfer pobl y mae angen tai fforddiadwy arnynt i’w rhentu.

 “Ni oedd y cynllun pensiwn llywodraeth leol gyntaf yng Nghymru – ymysg nifer bach yn unig yn y byd – i gomisiynu adolygiad o’n portffolio buddsoddi ecwiti i ganfod graddau ein buddsoddiadau carbon a thanwydd ffosil.

“Ers hynny rydym wedi symud gwerth £0.5 biliwn o asedau i gronfeydd olrhain mynegai carbon isel gan leihau ymhellach yr hyn oedd yn lefel isel o fuddsoddiadau mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig â charbon.”

Dywedodd fod y gronfa bensiwn hefyd wedi ymrwymo’i hun i gefnogi dwy gronfa tai fforddiadwy gymunedol a weithredir yn y DU. Y syniad y tu ôl i’r fenter yw darparu llety rhentu preifat o safon neu dai perchnogaeth a rennir islaw rhent y farchnad gyffredinol yn yr ardal a ddewisir.

Meddai’r Cyng. Lloyd, “Nid tai cymdeithasol yw’r rhain ond tai fforddiadwy i deuluoedd na allant fforddio rhenti’r farchnad nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol – ‘y canol gwasgedig'”.

Filed Under: Featured @cy, Featured @cy

2 Hydref 2020 By Steph Rutt

Age descrimination court case and the LGPS

Achos llys gwahaniaethu ar sail oedran a’r LGPS

Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau i holl brif gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yr LGPS, o ganlyniad i ddyfarniad y Llys Apêl yn achos llys McCloud.

Achos am beth yw achos McCloud?

Pan ddiwygiwyd cynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus gan y Llywodraeth yn 2014 a 2015, cyflwynwyd amddiffyniadau i aelodau hŷn. Ym mis Rhagfyr 2018, dyfarnodd y Llys Apêl y gwahaniaethwyd yn erbyn aelodau iau cynlluniau pensiwn Barnwyr a Diffoddwyr Tân gan nad oedd yr amddiffyniadau’n berthnasol iddynt.

Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau i holl brif gynlluniau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys yr LGPS, i gael gwared ar y gwahaniaethu hwn ar sail oedran. Gelwir y dyfarniad hwn yn aml yn ‘ddyfarniad McCloud’ ar ôl un o aelodau Cynllun Pensiwn y Barnwyr a fu’n ymwneud â’r achos.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r LGPS?

Pan newidiodd yr LGPS o gyflog terfynol i gynllun pensiwn enillion gyrfa cyfartalog yn 2014, rhoddwyd amddiffyniad o’r enw’r ‘sail’ i aelodau a oedd o fewn 10 mlynedd o’u Hoedran Pensiwn Arferol (65 oed fel arfer) ar 1 Ebrill 2012. Pan fydd aelod sydd wedi’i amddiffyn yn cymryd ei bensiwn, mae’r buddion sy’n daladwy o dan y cynlluniau enillion gyrfa cyfartalog a chyflog terfynol yn cael eu cymharu, a thelir y swm uwch.

Bydd angen i’r Llywodraeth ddarparu amddiffyniad i aelodau iau sydd gydradd a’r amddiffyniad ‘sail’ a ddarperir i aelodau hŷn er mwyn dileu’r gwahaniaethu. Mae’n ymgynghori ar y newidiadau y mae angen eu gwneud i gyflawni hyn ar hyn o bryd.

A fydd y newidiadau yn berthnasol i fi?

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu i’r newidiadau fod yn berthnasol i aelodau a oedd mewn gwasanaeth ar 31 Mawrth 2012 a chanddynt wasanaeth hefyd ar ôl 31 Mawrth 2014 (heb seibiant o fwy na 5 mlynedd).

Os wnaethoch adael cyn 1 Ebrill 2014, fe adeiladoch fuddion yn y cynllun cyflog terfynol yn unig. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich pensiwn.

A fydd fy mhensiwn yn cynyddu?

Mae’n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o aelodau’n gweld cynnydd yn eu pensiwn, a lle ceir cynnydd, mae’n debygol o fod yn fach. Y rheswm am hyn yw y bydd y rhan fwyaf o aelodau wedi adeiladu pensiwn uwch yn y cynllun enillion cyfartalog gyrfa nag y byddent wedi’i wneud dan y cynllun cyflog terfynol.

Pryd bydd y newidiadau’n dod i rym?

Nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyflwyno cyn Ebrill 2022

Beth mae’n rhaid i mi ei wneud?

Does dim angen i chi wneud dim. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau nad oes angen i aelodau sy’n gymwys ar gyfer yr amddiffyniad wneud cais er mwyn i’r newidiadau fod yn berthnasol iddynt.

Rwyf eisoes wedi gadael yr LGPS, a fydd y newidiadau’n berthnasol i fi?

Os ydych yn gymwys ar gyfer amddiffyniad, ac wedi bod yn aelod o’r LGPS ar ôl 31 Mawrth 2014, bydd y newidiadau’n berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych wedi gadael y cynllun.

Rwyf wedi derbyn taliad fy mhensiwn LGPS, a fydd y newidiadau’n berthnasol i fi?

Os ydych yn gymwys ar gyfer amddiffyniad ac yn aelod o’r LGPS ar ôl 31 Mawrth 2014, bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn derbyn eich pensiwn o’r LGPS.

Filed Under: Featured @cy

31 Mawrth 2020 By Steph Rutt

Coronafeirws (COVID-19) Cwestiynau Cyffredin ar gyfer aelodau CPLIL

Rwy’n poeni am fy sefyllfa ariannol oherwydd y COVID-19 – beth alla i ei wneud?

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddelio â’r effeithiau ariannol y gallech fod yn eu dioddef oherwydd y pandemig Coronafeirws. Mae’n trafod pob agwedd ar eich sefyllfa ariannol, gan gynnwys problemau gyda thalu morgais a thaliadau rhent, dyled a hawlio budd-daliadau.

A allaf atal fy nghyfraniadau pensiwn?

Gallwch, ond efallai yr hoffech ystyried ymuno ag adran 50/50 y CPLlL yn lle peidio â chyfrannu. Drwy wneud hynny, byddwch chi’n talu hanner eich cyfradd cyfrannu arferol ac yn cronni hanner eich pensiwn arferol. Byddwch yn cadw yswiriant bywyd ac afiechyd llawn a gallwch symud yn ôl i’r brif adran pryd bynnag y byddwch yn barod.

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell gyfraniadau i wirio pa wahaniaeth y byddai hyn yn ei wneud i’ch tâl.

Ar ôl ystyried opsiwn adran 50/50 y CPLlL, os hoffech barhau i atal eich cyfraniadau pensiwn gallwch gael ffurflen atal cyfraniadau drwy gysylltu â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Dylech gymryd cyngor ariannol annibynnol cyn penderfynu atal eich cyfraniadau.

Mae’r pandemig coronafirws yn effeithio ar farchnadoedd stoc, a fydd hyn yn effeithio ar werth fy mhensiwn CPLlL?

Na fydd, mae’r CPLlL yn gynllun pensiwn budd diffiniedig sy’n golygu bod eich pensiwn yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych chi wedi bod yn cyfrannu. Nid yw’ch pensiwn yn gysylltiedig â pherfformiad y farchnad stoc, felly nid effeithir ar eich cyfraniadau na’ch pensiwn, os mewn taliad neu beidio.


Yr unig eithriad i hyn yw Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY). Os oes gennych CGY, mae’n bosib y gallai’r gwerth fod wedi gostwng – bydd hyn yn dibynnu ar y cronfeydd rydych wedi dewis buddsoddi ynddynt. Dylech gysylltu â’ch darparwr CGY i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

Rwy’n derbyn pensiwn gan y CPLlL – a fydd fy mhensiwn yn dal i gael ei dalu i mi?

Bydd, mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n blaenoriaethu talu pensiynau yn ystod yr amseroedd ansicr hyn.

Os gostyngir fy nghyflog, pa effaith gaiff hyn ar fy mhensiwn?

Bydd hyn yn dibynnu ar y rheswm dros y gostyngiad:

– Absenoldeb salwch
Os yw’ch cyflog yn cael ei ostwng neu os nad ydych chi’n derbyn unrhyw dâl oherwydd eich bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu anaf, bydd eich pensiwn yn cronni fel petaech yn y gwaith yn derbyn tâl arferol.

Byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau ar unrhyw dâl y byddwch yn ei dderbyn yn ystod eich absenoldeb salwch.

– Absenoldeb di-dâl awdurdodedig
Os yw’ch cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl neu’n gofyn i chi wneud hynny, ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn am y cyfnod oni bai eich bod yn dewis talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i brynu swm y pensiwn a gollwyd.

Os ydych yn penderfynu talu CPY i brynu swm y pensiwn a gollwyd, a’ch bod yn penderfynu ar hyn yn swyddogol o fewn 30 diwrnod ar ôl dychwelyd i’r gwaith, bydd y gost yn cael ei rhannu rhyngoch chi a’ch cyflogwr.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, defnyddio cyfrifiannell ar-lein a lawrlwytho ffurflen gais o wefan aelod CPLlL.

– Absenoldeb cynllun cadw swyddi Coronafeirws
Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n disgwyl i sefydliadau’r sector cyhoeddus, megis cynghorau, ddefnyddio’r cynllun cadw swyddi coronafeirws, ac eithrio mewn rhai achosion cyfyngedig iawn. Dylai cyflogwyr y sector cyhoeddus barhau i dalu staff yn y ffordd arferol hyd yn oed os nad ydyn nhw yn y gwaith.

Os yw’ch cyflogwr yn gallu defnyddio’r cynllun cadw swyddi a’ch bod chi’ch dau’n cytuno, efallai bydd eich cyflogwr yn gallu’ch cadw ar y gyflogres os nad yw’n gallu gweithredu neu os nad oes ganddo waith i chi ei wneud oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gelwir hyn yn gyfnod ‘ar seibiant’.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallai eich cyflogwr dalu 80% o’ch cyflog hyd at derfyn misol o £ 2,500. Bydd y Llywodraeth yn ariannu’ch cyflogwr i wneud hyn. Gall cyflogwyr ddewis ychwanegu at eich cyflog hyd at 100%, ond os ydych chi’n derbyn llai o dâl yn ystod eich cyfnod ‘ar seibiant’, bydd swm y pensiwn rydych chi’n ei gronni yn ystod y cyfnod hwn hefyd yn cael ei leihau. Byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau pensiwn ar y tâl rydych yn ei dderbyn.


Gallwch dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i brynu pensiwn ychwanegol i wneud iawn am y pensiwn a gollwyd yn ystod y cyfnod hwn. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr dalu tuag at y gost, ond gall ddewis gwneud hynny.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu CPY, defnyddio cyfrifiannell ar-lein a lawrlwytho ffurflen gais ar wefan aelodau CPLlL.

Mae gwefan GOV.UK yn darparu rhagor o wybodaeth am y cynllun cadw swyddi ar gyfer gweithwyr.

– Absenoldeb Gwirfoddoli Brys (AGB)
Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cynllun gwirfoddoli newydd i ganiatáu i’r cyhoedd gyfrannu at ymateb coronafeirws. Mae’r cynllun yn caniatáu i weithwyr gymryd absenoldeb gwirfoddoli brys statudol di-dâl i wirfoddoli mewn awdurdodau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os cymerwch gyfnod o AGB, bydd eich buddion pensiwn CPLlL yn cronni yn yr un ffordd a phetaech yn gweithio fel arfer.

Byddwch yn talu cyfraniadau am unrhyw dâl gwirioneddol y mae eich cyflogwr yn ei dalu i chi yn ystod y cyfnod yn unig.

– Rhesymau eraill
I gael gwybodaeth am yr effaith ar eich pensiwn os ydych i ffwrdd o’r gwaith am unrhyw reswm arall, fel absenoldeb sy’n gysylltiedig â phlant neu luoedd adfyddin, gweler gwefan aelodau CPLlL.

Sut y bydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar y gwasanaeth y mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn ei ddarparu?

Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe eisoes wedi addasu ei phatrymau gwaith i sicrhau y gall barhau i ddarparu gwasanaeth wrth fonitro cyngor diweddaraf y Llywodraeth i amddiffyn ei staff.

Bydd yn blaenoriaethu talu pensiynau a phrosesu budd-daliadau marwolaeth, felly gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymdrin â gwaith arall, megis trosglwyddiadau, ceisiadau amcangyfrif ac ymholiadau cyffredinol.

Edrychwch ar wefan Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe i gofrestru i wasanaeth My Pension Online. Efallai y gallwch ddefnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth i ddiweddaru’ch manylion, gwneud cyfrifiadau a gweld eich datganiadau blynyddol blaenorol.

A allai twyllau pensiwn gynyddu yn ystod cyfnod Coronafeirws (COVID-19)?

Gallent, gwyliwch rhag twyllau sy’n gysylltiedig â coronafeirws (COVID-19). Mae’r twyllau hyn yn ymddangos ar sawl ffurf a gallent fod yn ymwneud â pholisïau yswiriant, trosglwyddiadau pensiynau neu gyfleoedd buddsoddi enillion uchel, gan gynnwys buddsoddiadau mewn asedau crypto.

Mae twyllwyr yn soffistigedig ac yn fanteisgar a byddant yn rhoi cynnig ar lawer o bethau. Maent hefyd yn debygol iawn o dargedu’r bregus. Gwyliwch rhag buddsoddiadau sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir.

Er mwyn helpu i amddiffyn eich hun dylech:

  • wrthod cynigion annisgwyl
  • bod yn wyliadwrus o hysbysebion ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion y telir amdanynt / noddir ar-lein
  • defnyddio’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol a’r Rhestr Rybuddio i wirio a yw’n ddilys ai peidio
  • peidio â chlicio dolenni nac agor e-byst gan anfonwyr nad ydych chi’n eu hadnabod eisoes
  • osgoi cael eich rhuthro neu fod dan bwysau i wneud penderfyniad
  • os yw cwmni’n eich ffonio chi’n annisgwyl, defnyddiwch y manylion cyswllt ar y Gofrestr i wirio eich bod yn ymdrin â’r cwmni dilys
  • peidio â rhoi manylion personol (manylion banc, cyfeiriad, yswiriant / pensiynau / manylion buddsoddi presennol).

Os ydych chi’n amau twyll, ffoniwch Action Fraud ar unwaith ar 0300 123 2040.

Filed Under: Featured @cy, Featured @cy

31 Mawrth 2020 By Steph Rutt

Coronavirus

Yn unol â chyfarwyddyd gan lywodraeth ganolog ynghylch y bygythiad parhaus o ymlediad Coronafeirws, bydd staff yr Is-adran Pensiynau’n gweithio gartref nes y clywir yn wahanol.

Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i barhau i gyflwyno gwasanaeth sy’n addas at y diben, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar o dan yr amgylchiadau sydd ohoni os bydd oedi wrth ymdrin â’ch cais/prosesu’ch cais gan nad yw’r adran wedi bod mewn sefyllfa debyg o’r blaen.

Byddwn yn ymdrechu i gyflymu’n prosesau cyfathrebu trwy ohebu drwy e-bost a byddem yn gwerthfawrogi pe gallech ymateb yn yr un modd lle bo’n bosib.

Filed Under: Featured @cy, Featured @cy

10 Ionawr 2018 By webmaster

Partneriaeth Pensiwn Cymru yw cronfa fuddsoddi gyntaf y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i benodi gweithredwr cronfa

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru heddiw yn cyhoeddi penodiad Link Fund Solutions Ltd (Link) i sefydlu a chynnal cyfrwng buddsoddi cyfunol at ddefnydd cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn unig.

Penodwyd Link yn weithredwr awdurdodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’i hymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon. Bydd hyn yn galluogi cyfuno tua £15 biliwn o asedau ar draws ystod o ddosbarthiadau ased. Mae mandadau goddefol pob un o 8 cronfa’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru eisoes wedi’u buddsoddi ar y cyd, gan roi bod i arbedion ffi amcangyfrifedig o fwy na £2 filiwn y flwyddyn ar asedau o fwy na £3 biliwn. Mae penodiad Link yn garreg filltir arall yn y broses gyfuno, gan weithio tuag at ddyddiad targed y Llywodraeth Westminster ym mis Ebrill 2018.

Bydd Link yn sefydlu ac yn cynnal Cynllun Contractiol Awdurdodedig (cyfrwng buddsoddi cyfunol treth-effeithlon yn y DU) ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Bydd gan y Cynllun Contractiol Awdurdodedig is-gronfeydd mewn amryw o ddosbarthiadau ased a fydd yn diwallu anghenion yr awdurdodau buddsoddi, gan eu galluogi i roi eu gwahanol strategaethau dyrannu asedau ar waith. Gyda chymorth Russell Investments ac mewn ymgynghoriad â’r wyth cronfa awdurdod lleol unigol,

bydd Link yn dechrau’r broses o benodi gwmnïau rheolwyr buddsoddi tra bydd cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cadw rheolaeth lawn dros benderfyniadau dyrannu asedau strategol. Drwy ddefnyddio llai o gwmnïau rheolwr buddsoddi â mandadau mwy, disgwylir y bydd y gronfa’n rhoi bod i arbedion ffi, un o brif nodau polisi’r Llywodraeth.

Cafodd Pwyllgor Cyd-lywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu’n gynharach yn 2017 ac mae’n gyfrifol am oruchwylio gweithredwr y gronfa, Link, a’r gwasanaethau mae’n eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd y Pwyllgor Cyd-lywodraethu:

“Ar ôl proses ddethol drwyadl, rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Link fel y gweithredwr ar gyfer cronfa fuddsoddi Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru. Mae gan awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru hanes hir a llwyddiannus o gydweithredu.  Rydym ar y trywydd iawn i gael y gronfa’n weithredol yn gynnar yn 2018, gan ddarparu arbedion ffi pellach o ran rheolwr buddsoddi, a fydd o fudd i bob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.”

Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â’r gweithredwr, Link, ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. 

Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):

“Mae penodi Link yn garreg filltir arwyddocaol o ran sefydlu cronfa fuddsoddi £15 biliwn ar gyfer cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Link i sicrhau bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn elwa ar gyfuno buddsoddiadau.”

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys y cronfeydd canlynol: Caerdydd a Bro Morgannwg, Dinas a Sir Abertawe, Clwyd, Dyfed, Gwent Fwyaf (Torfaen), Gwynedd, Powys, a Rhondda Cynon Taf.

Filed Under: Featured @cy

Footer

Manylion cyswllt

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
01792 636655
pensiynau@abertawe.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd

 

Newyddion diweddaraf

  • Dangosfyrddau Pensiwn
  • Dyfarniad McCloud – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau
  • Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau
  • Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru
  • Statement from the Wales Pension Partnership and the LGPS in Wales

Mewngofnodwch (gweithwyr yn unig)

Mewngofnodwch i'r safle.

Return to top of page

Copyright © 2025 City and County of Swansea Pension Fund

  • English
  • Cymraeg