Croeso i wefan Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Mae Dinas a Sir Abertawe’n gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) ar ran Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gyflogwyr eraill, megis colegau lleol, cynghorau tref a chymuned a rhai sefydliadau nid er elw sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus neu gontractwyr sy’n darparu gwasanaeth a wnaed yn flaenorol gan gyflogwr a oedd yn rhan o’r cynllun.
Os ydych yn aelod gweithredol o’r cynllun ar hyn o bryd neu’n ystyried ymuno, bydd y tudalennau ar y wefan hon yn dangos sut mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) yn gweithio a sut gall fod o fudd i chi a’ch teulu ar gyfer y dyfodol.
Gwybodaeth am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LPGS)
Mae’r LPGS yn darparu amrediad gwych o fuddion y gall gweithwyr cyflogedig amser llawn a rhan-amser eu mwynhau. Mae’r rhain yn cynnwys:
O’r diwrnod cyntaf:
Yswiriant bywyd, sydd gyfwerth â 3 mlynedd o dâl os ydych yn marw yn eich swydd.
Diogelwch ar gyfer eich teulu – mae yna bensiwn i’ch gŵr, eich gwraig, eich partner sifil cofrestredig neu bartner sy’n cyd-fyw gyda chi ac unrhyw blant cymwys yn dilyn eich marwolaeth.
Argaeledd i drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun (D.S. mae’n rhaid gwneud cais i drosglwyddo o fewn 12 mis o ymuno â’r cynllun).
Yr opsiwn i gynyddu’ch buddion drwy dalu cyfraniadau ychwanegol i brynu pensiwn LGPS ychwanegol, neu wneud taliadau i drefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol y cynllun, neu i drefniant pensiwn arall o’ch dewis.
Ar ôl 2 flynedd yn y cynllun:
Yr opsiwn i ymddeol yn wirfoddol o 55 oed
Y cyfle i ddewis ymddeoliad hyblyg o 55 oed ar yr amod bod eich cyflogwr yn cytuno eich bod yn gallu lleihau eich oriau neu symud i swydd nad yw’n swydd uwch
Os ydych yn dewis ymddeol yn wirfoddol neu dderbyn ymddeoliad hyblyg cyn oed pensiwn arferol*, bydd eich buddion fel arfer yn cael eu lleihau gan eu bod yn cael eu talu am gyfnod hwy.
Taliad o’ch buddion pensiwn ar unwaith os ydych yn gorfod gadael y gwaith ar unrhyw oed oherwydd salwch parhaol, y gellid ei gynyddu os ydych yn annhebygol o ymgymryd â gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd o adael.
Talu buddion yn gynnar os ydych yn colli’ch swydd neu’n ymddeol ar sail effeithiolrwydd busnes ac rydych yn 55 oed neu’n hŷn
Gallwch aros yn y LGPS os ydych yn parhau i weithio ar ôl oedran pensiwn arferol*, er y bydd yn rhaid i chi ddewis derbyn eich buddion erbyn eich bod yn 75 oed. Caiff buddion sy’n cael eu derbyn ar ôl oedran ymddeol arferol* eu cynyddu
Yr opsiwn i adael y buddion yn y cynllun nes cyrraedd oedran pensiwn arferol* neu eu trosglwyddo i gynllun arall os ydych yn gadael cyn iddynt fod yn daladwy
*Oedran pensiwn arferol yw’r oedran y mae gennych hawl i dderbyn eich pensiwn y wladwriaeth.
Wrth ymddeol:
Pensiwn am byth sy’n cynyddu gyda’r gost o fyw
Yr opsiwn i gyfnewid rhan o’ch pensiwn blynyddol am un taliad arian parod di-dreth