Cynllun pensiwn y sector cyhoeddus i weithwyr llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr yw ‘r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS). Mae ei reolau wedi’u pennu mewn deddfwriaeth a gymeradwywyd gan y Senedd.
Amod y Rheoliadau yw bod yr LGPS yn cael ei weinyddu gan sefydliadau megis Cynghorau Sir, Cynghorau Bwrdeistref Llundain, Cynghorau Rhanbarth Metropolitan arweiniol, Awdurdod Cronfa Bensiwn Llundain ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Gelwir y rhain yn Awdurdodau Gweinyddu ac maent yn gyfrifol am gronfeydd unigol yr LGPS. Yr Awdurdod Gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yw Dinas a Sir Abertawe.
Bydd cyflogwyr, sy’n cymryd rhan yn y gronfa’n perthyn i’r categorïau canlynol:
- Cyflogwyr Rhestredig
Diffinnir cyflogwyr rhestredig yn rheoliadau’r LGPS ac mae ganddynt rwymedigaeth statudol i ganiatáu i’w staff fod yn aelodau awtomatig o’r LGPS, ar yr amod eu bod yn gymwys i ymuno.
Mae cyrff rhestredig yn cynnwys Cynghorau Sir, Cynghorau Bwrdeistref Sirol, Colegau Addysg Bellach, Ysgolion yr Awdurdod Lleol, etc.
- Cyflogwyr Dynodedig
Fel cyflogwyr rhestredig, caiff cyflogwyr dynodedig eu diffinio yn rheoliadau’r LGPS. Mae ganddynt y pŵer i nodi pwy, neu ba gategori o weithwyr yn eu gweithlu, sy’n gallu ymuno â’r LGPS.
Fel arfer, Cynghorau Tref a Chymuned yw cyflogwyr dynodedig.
- Cyrff Mynediad
Gall mathau penodol o gyflogwyr fod yn rhan o’r LGPS drwy gytundeb mynediad a gytunwyd gyda Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.
Ceir dau fath o gorff mynediad:
- Corff Mynediad Cymunedol (CMC) sy’n cynnwys sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus at ddiben enillion ac sydd â chysylltiadau digonol â chyflogwr cynllun yr ystyrir bod ganddo ddiddordeb cymunedol.
- Corff Mynediad Trosglwyddedig (CMT). Mae’r LGPS yn caniatáu i staff sy’n trosglwyddo gael cynnig aelodaeth o’r LGPS dan gytundeb derbyn, pan fydd gwasanaeth wedi’i drosglwyddo i’r sector preifat. Er mwyn cael mynediad i’r cynllun, rhaid i’r CMT ddarparu gwasanaeth neu asedau mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth Cyflogwr Cynllun.
Mae’r cyflogwyr canlynol yn cymryd rhan yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe:
Cyflogwyr Rhestredig |
Dinas a Sir Abertawe |
Coleg Gŵyr Abertawe |
Coleg Castell-nedd Port Talbot |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
Prifysgol Fetropolitan Abertawe |
Awdurdod Iechyd Porthladd Abertawe |
Cyflogwyr Dynodedig |
Cyngor Tref Llansawel |
Cyngor Cymuned Cilybebyll |
Cyngor Cymuned Coedffranc |
Cyngor Tref Castell-nedd |
Cyngor Cymuned Llangyfelach |
Cyngor Cymuned Pelenna |
Cyngor Tref Pontardawe |
Cwmni Gwaredu Gwastraff Dinas Abertawe |
Cyrff Cydnabyddedig |
Capgemini |
Hamdden Cymunedol Celtic |
Colin Laver Heating Ltd |
Grŵp Gwalia Cyf |
Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol The Hill |
Jacobs Engineering UK Ltd |
Cartrefi CNPT Cyf |
Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe |
Pwll Cenedlaethol Cymru |