Mae’r llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd i helpu pobl i gynilo ar gyfer eu hymddeoliad. Rhaid i holl gyflogwyr y DU gofrestru eu gweithwyr gyda chynllun pensiwn cwmni cymwys os nad ydynt eisoes yn rhan o un ohonynt.
Ar 1 Hydref 2012, rhaid i’r holl gyflogwyr gofrestru gweithwyr newydd, sy’n bodloni amodau priodol, yn awtomatig gyda chynllun pensiwn cymwys. Mae’r LGPS yn bodloni’r meini prawf i fod yn gynllun pensiwn cymwys.
Caiff gweithwyr presennol hefyd eu cofrestru’n awtomatig, o’r dyddiad y mae’n rhaid i’w cyflogwr gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth (a elwir yn ddyddiad cyflwyno), os nad ydynt yn talu pensiwn ar hyn o bryd. Gall rhai cyflogwyr ddewis gohirio’r ‘dyddiad cyflwyno’ i weithwyr presennol tan 1 Hydref 2017, er gall y gweithiwr ddewis ymuno â’r cynllun unrhyw bryd yn ystod y cyfnod gohirio.
Dan y rheoliadau sy’n llywodraethu’r LGPS, bydd y rhan fwyaf o weithwyr newydd yn cael eu cofrestru ar y cynllun wrth gael eu penodi, os ydynt dan 75 oed a bod y contract am o leiaf 3 mis.
Os nad ydynt yn gymwys i fod ar y cynllun yn awtomatig ac maent dan 75 oed, mae ganddynt hawl i ymuno â’r LGPS os ydynt yn dymuno gwneud hynny a dylent gysylltu ag adran AD eu cyflogwr.
Neu, os caiff gweithiwr ei gofrestru’n awtomatig ac mae’n dymuno gadael y cynllun, dylai gwblhau ffurflen Gadael, sydd ar gael ar-lein neu o’r Adran Bensiynau
I gael mwy o wybodaeth am Gofrestru’n Awtomatig, cysylltwch ag adran AD y cyflogwr unigol neu ewch i wefan y Rheolydd Pensiynau neu Ganllaw Cofrestru Awtomatig Cymdeithas Llywodraeth Leol.