Gall Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe gynnig amrywiaeth eang o gyflwyniadau a gweithdai i aelodau’r cynllun a chyflogwyr.
Dyma enghreifftiau o gyflwyniadau i aelodau’r cynllun y gallwn eu cynnig:
- Trosolwg o’r LGPS
- Diogelu Buddion Pensiwn yn dilyn lleihad/cyfyngiad cyflog
- Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer Ymddeoliad
- Cyn Ymddeol
- Y Diweddaraf am y Cynllun
Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant i weithwyr â chyfrifoldebau LGPS megis:
- Gweinyddiaeth y Cynllun Cyffredinol
- Gweithdy Cyflog Terfynol
- Gweithdrefnau Salwch
Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd blynyddol gyda chyflogwyr a’r cyfarfod ymgynghorol blynyddol cyffredinol sy’n ymdrin ag unrhyw faterion amserol, byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant ar unrhyw newidiadau deddfwriaethol i sicrhau dealltwriaeth a chydymffurfiaeth.
Os hoffech i ni gyflwyno unrhyw un o’r cyflwyniadau/gweithdai uchod neu os oes gennych unrhyw anghenion hyfforddiant eraill, cysylltwch â ni i’w trafod.