• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Search

  • Hafan
    • Cyflwyniad
    • Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
    • Links
    • Ymwadiad
    • Cysylltwch â ni
  • Gweithwyr Presennol
    • Ymuno â’r LGPS
      • Beth fydd y gost?
      • Trosglwyddo Buddion Pensiwn Blaenorol
    • Yn Ystod eich Aelodaeth
      • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
      • Absenoldeb o’r gwaith
      • Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil
      • Adran 50/50
      • Diogelu Buddion Pensiwn
      • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael y Cynllun
      • Dewisiadau
      • Rhyddid a Dewis
    • Ymddeoliad
      • Pryd gaf ymddeol?
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudiad
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Salwch
      • Diswyddiad/Effeithlonrwydd
      • Ymddeoliad Hyblyg
      • Aelodau – Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Marwolaeth mewn Swydd
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau Plant
    • Diogelu Buddion Pensiwn
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Aelodau Gohiriedig
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
    • Trosglwyddo eich buddion
    • Salwch
    • Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Newid Cyfeiriad (Wedi’i ohirio)
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Pensiynwyr
    • Sut rwy’n ymddeol?
    • Talu Pensiwn
    • Treth Incwm
    • Dyddiadau Taliadau
    • Cynyddu Pensiynnau
      • Cynyddu Pensiynau a’r Cysylltiad â Chynllun y Wladwriaeth
    • Newid Cyfeiriad neu Fanylion Banc
    • Marwolaeth mewn Ymddeoliad
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Olrhain Hawliau Pensiwn Blaenorol
    • Pensiwn y Wladwriaeth
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cynghorwyr
    • Gadael y Cynllun
      • Ad-dalu Cyfraniadau
      • Budd-daliadau Gohiriedig
      • Trosglwyddo eich budd-daliadau
    • Ymaelodi â’r Cynllun
    • Yn Ystod Aelodaeth
    • Ymddeoliad
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudo
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Oherwydd Salwch
    • Budd-daliadau Marwolaeth
      • Marwolaeth Mewn Swydd
      • Marw ar ôl Gohirio Buddion
      • Marwolaeth ar ôl Ymddeol
    • Canllaw i aelodau sy’n gynghorwyr – Canllaw byr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL) ar gyfer cynghorwyr cymwys yng Nghymru
    • Beth fydd y gost?
    • Trosglwyddo Budd-daliadau Pensiwn Blaenorol
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cyflogwyr
    • Dogfennau Gweinyddol
      • Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
      • Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid
    • Cofrestru Awtomatig
    • Cyflwyniadau a Seminarau
    • Rheoliadau LGPS
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ardal Ddiogel i Gyflogwyr
      • Arweiniad Cyflogwr
      • Gymdeithas Llywodraeth Leol
      • Ffurflenni Cyflogwyr
  • Buddsoddi a’r Gronfa
    • Dogfennau Polisi
    • Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
    • Prisiannau Actiwaraidd
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Dogfennau gweinyddol
    • Pension Fund Data Quality
  • Newyddion
    • Videos – Pensions made simple by the LGPS
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma:Hafan / Cylchythyr Gohiriedig 2024

Cylchythyr Gohiriedig 2024

Croeso i rifyn 2024 o gylchlythyr Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, a gynhyrchwyd ar gyfer yr holl aelodau a chanddynt fuddion gohiriedig gyda Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.   

 Rwy’n gobeithio ei fod yn addysgiadol, ond os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â’r Is-adran Pensiynau drwy ddefnyddio’r cyfeiriad neu’r e-bost ar waelod y cylchlythyr hwn.  

Datganiad Buddion Blynyddol 2024 

Mae eich Datganiad Buddion Blynyddol bellach ar gael i’w weld ar ein porth ar-lein, “Fy Mhensiwn Ar-lein”. Mewngofnodwch yn https://mypensions.swansea.gov.uk/?locale=cy-GB a gwiriwch yr adran “Fy Nogfennau” ar y dangosfwrdd. Os ydych wedi gwneud cais yn flaenorol i dderbyn copïau papur o’ch datganiad wedi’u postio i’ch cartref, dylai’r copi gyrraedd erbyn 31 Mai. Os hoffech gael copïau papur yn y dyfodol, ysgrifennwch atom naill ai drwy’r post neu drwy e-bost gan nodi eich bod yn dymuno derbyn gohebiaeth bapur yn y dyfodol. Mae ein manylion ar ddiwedd y cylchlythyr hwn. 

Fy Mhensiwn Ar-lein   

Mae Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein yn rhoi cyfle i aelodau Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe weld yr wybodaeth am eu pensiwn ar unrhyw adeg. Gall aelodau actif, aelodau gohiriedig neu bensiynwyr y cynllun adolygu a diweddaru manylion sylfaenol megis cyfeiriad, e-bost ac enwebeion grant marwolaeth  

Os hoffech gofrestru ar gyfer ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’, ewch i’r wefan: https://mypensions.swansea.gov.uk/?locale=cy-GB 

Cynnydd Ailbrisio  

Bydd eich buddion gohiriedig yn cynyddu yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) sy’n mesur chwyddiant prisiau. 

Y mynegai prisiau defnyddwyr i fis Medi 2023 oedd 6.7% a chaiff y cynnydd ei roi ar waith o 8 Ebrill 2024. 

Cael mynediad at eich Buddion Pensiwn Gohiriedig yn gynnar. 

Gallwch ddewis defnyddio’ch buddion gohiriedig o 55 oed ymlaen. Nid oes angen i chi gael caniatâd eich cyn-gyflogwr i dderbyn eich pensiwn yn gynnar. Fodd bynnag, bydd gostyngiadau’n berthnasol os ydych yn ei dderbyn yn gynnar.  

Derbyn eich buddion gohiriedig ar eich Oedran Pensiwn Arferol  

Os nad ydych yn derbyn eich buddion gohiriedig yn gynnar, byddant fel arfer yn cael eu talu o’ch Oedran Pensiwn Arferol. Gallwch ddewis oedi’r taliad y tu hwnt i’r oedran hwnnw, yn dibynnu ar bryd y gadawoch chi’r cynllun. 

Os ydych yn gymwys i dderbyn eich buddion gohiriedig ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol, caiff eich buddion pensiwn eu cynyddu. Mae’n rhaid i chi dderbyn eich buddion gohiriedig erbyn i chi gyrraedd 75 oed. 

Os gwnaethoch adael y CPLlL cyn 01/04/1998, mae’n rhaid i chi dderbyn eich buddion o’ch Oedran Pensiwn Arferol, a fydd rhwng 60 a 65 oed oherwydd y Rheol 85. Byddwn yn cysylltu â chi pan ddisgwylir i’ch pensiwn gael ei dalu. 

Os gwnaethoch adael y CPLlL rhwng 01/04/1998 a 31/03/2008 neu ar ôl 01/04/2014 gallwch ddewis hawlio’ch pensiwn ar unrhyw adeg o 55 oed i 75 oed.  

Os gwnaethoch adael y CPLlL rhwng 01/04/2008 a 31/03/2014, gallwch ddewis hawlio’ch buddion ar ôl 65 oed, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni’n ysgrifenedig cyn eich pen-blwydd yn 65 oed eich bod am gael y dewis o hawlio’ch pensiwn yn hwyr. Nid yw gwneud y penderfyniad hwn yn golygu bod yn rhaid i chi dderbyn eich pensiwn yn hwyr, ond mae’n rhoi’r hyblygrwydd i chi ddewis pryd yr hoffech ei dderbyn. Rhaid i’ch pensiwn gael ei dalu cyn eich pen-blwydd yn 75 oed. 

Salwch 

Os ydych yn analluog i weithio oherwydd salwch, a hynny’n barhaol, dylech gysylltu â’ch cyn-gyflogwr LGPS i ganfod a oes modd talu’ch budd-daliadau LGPS ar unwaith. 

Rhwymedi McCloud  

Pan newidiodd pensiynau gwasanaethau cyhoeddus o gynlluniau cyflog terfynol i gynlluniau cyflog cyfartalog gyrfa yn 2014 a 2015, cafodd aelodau hŷn eu diogelu rhag y newidiadau. 

Yn 2018, canfu’r Llysoedd fod aelodau iau wedi dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd nad oedd y diogeliadau yn berthnasol iddynt.  Mae newidiadau a wnaed i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o 1 Hydref 2023 yn dileu’r gwahaniaethu ar sail a geir yn achos y llys. Gelwir y newidiadau hyn yn rhwymedi McCloud. 

Nad yw’r newidiadau yn effeithio ar bob aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan genedlaethol CPLlL, gan gynnwys fideo byr.  Ewch i https://www.lgpsmember.org/mccloud-remedy/  

Os yw hyn yn effeithio arnoch, nid oes angen i chi ysgrifennu at y Gronfa Bensiwn na gwneud unrhyw benderfyniadau.  Os bydd sefydliad trydydd parti sy’n gwerthu gwasanaeth i’ch helpu i hawlio pensiwn ychwanegol yn cysylltu â chi, ni ddylech ymgysylltu â nhw.   

Fel aelod o’r CPLlL, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau i hawlio’ch diogeliad o dan rwymedi McCloud. Os ydych yn gymwys, bydd y gronfa bensiwn yn cymhwyso’r diogeliad yn awtomatig pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn CPLlL. 

Symud Tŷ   

Rhowch wybod i’r Is-adran Bensiynau os ydych yn newid eich cyfeiriad, peidiwch â dibynnu ar yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu rhwng adrannau’r cyngor gan yr ystyrir bod hyn yn doriad o’ch data personol. Ni allwn newid eich cyfeiriad dros y ffôn. 

Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau 

Os ydych yn marw pan ydych yn aelod gohiriedig o’r LGPS, rhaid i’r person sy’n delio â’ch materion roi gwybod i Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n syth. 

Bydd y grant marwolaeth a delir os byddwch yn marw ar ôl gohirio budd-daliadau yn dibynnu ar eich dyddiad gadael. 

Gadael â budd-daliadau gohiriedig ar neu cyn 31 Mawrth 2008 

Os gadawsoch y cynllun cyn neu ar 31 Mawrth 2008, byddai’r grant marwolaeth yn 

3 x gwerth cyfredol eich pensiwn gohiriedig 

Gadael â budd-daliadau gohiriedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008 

Os gadawsoch y cynllun ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, byddai’r grant marwolaeth yn 

5 x gwerth cyfredol eich pensiwn gohiriedig 

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, darparwch neu addaswch eich enwebeion gan ddefnyddio’n porth ar-lein, “Fy Mhensiwn Ar-lein”. Gallwch hefyd ddychwelyd ffurflenni Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth i’r Adran Bensiynau. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen ar ein gwefan https://www.swanseapensionfund.org.uk/cy/  

Trosglwyddo eich buddion 

Os ydych wedi gadael cyflogaeth Llywodraeth Cymru ac wedi gohirio buddion LGPS, gallwch benderfynu eu gadael yn y cynllun, lle byddant yn cynyddu ymhellach gyda chwyddiant bob blwyddyn, neu eu trosglwyddo i gynllun cyflogwr newydd neu i gynllun pensiwn personol, gan gynnwys cynllun pensiwn tramor. 

Ni allwch drosglwyddo eich buddion os ydych yn gadael llai na blwyddyn cyn eich Oedran Pensiwn Arferol (sydd gyfwerth ag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n o leiaf 65 oed). 

Ailgyflogi mewn llywodraeth leol  

Os ydych yn ailymuno â’r LGPS gyda chyflogwr newydd, gallwch ddewis i’r hawliau pensiwn rydych wedi’u cronni gael eu hychwanegu at eich cyfrif pensiwn newydd yn y cynllun. 12 mis yn unig sydd gennych o ailymuno â’r LGPS i ddewis trosglwyddo aelodaeth LGPS flaenorol, oni bai fod eich cyflogwr yn caniatáu i chi gael mwy o amser. 

Cyfeiriad a manylion cyswllt  

Is-adran Bensiynau , Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE 

01792 636655  

pensiynau@abertawe.gov.uk  

https://www.swanseapensionfund.org.uk/cy

I dderbyn gwybodaeth mewn fformat arall cysylltwch â’r Is-adran Bensiynau  

Footer

Manylion cyswllt

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
01792 636655
pensiynau@abertawe.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd

 

Newyddion diweddaraf

  • Wythnos Ymwybyddiaeth o Bensiynau
  • Partneriaeth Pensiwn Cymru: Addas i’r Dyfodol – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau a Chyflogwyr y Cynllun Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Dangosfyrddau Pensiwn
  • Dyfarniad McCloud – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau
  • Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau

Mewngofnodwch (gweithwyr yn unig)

Mewngofnodwch i'r safle.

Return to top of page

Copyright © 2026 City and County of Swansea Pension Fund

  • English
  • Cymraeg