Os ydych wedi bod yn aelod o’r LGPS am o leiaf 3 mis, cyfrifir eich budd-daliadau a gronnwyd h.y. eich pensiwn a’ch cyfandaliad gan ddefnyddio’ch aelodaeth gyfan hyd at y dyddiad y gadawsoch y cynllun. Gelwir hyn yn Fudd-dal Gohiriedig.
Mae budd-daliadau gohiriedig yn daladwy yn 65 oed (oni bai eich bod yn dewis gohirio taliad y tu hwnt i’r oedran hwnnw), ond gellir cael taliad ar unrhyw oedran cyn 65 oed os byddwch yn dioddef salwch, heb ostyngiad.
Gallwch hefyd ddewis derbyn eich budd-daliadau yn gynnar, ar neu ar ôl 50 oed a chyn 60 oed gyda chaniatâd y cyngor, neu unrhyw oedran ar ôl 60 oed, heb ganiatâd eich cyngor. Caiff eich budd-daliadau eu lleihau cyn 65 oed os byddwch yn derbyn taliad cynnar (oni bai eich bod yn cael eich talu ar sail salwch parhaol). Bydd gan eich cyngor blaenorol hawl i ildio unrhyw ostyngiad ar sail dosturiol.
Sylwer, os bydd eich cyngor yn rhoi caniatâd i dalu eich budd-daliadau cyn 55 oed, gallai olygu bod yn rhaid i chi dalu treth ar eich budd-daliadau a fyddai’n ychwanegol at y dreth PAYE arferol ar eich pensiwn misol. Ni fydd talu budd-daliadau yn 55 oed neu ar ôl hynny’n golygu y bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth ychwanegol hon.
Efallai y bydd modd trosglwyddo taliad i gynllun pensiwn tramor neu drefniant sy’n bodloni amodau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.