Os byddwch yn gadael y Cynllun flwyddyn cyn 65 oed, gallwch drosglwyddo gwerth yr hawliau pensiwn a gronnwyd i gynllun pensiwn galwedigaethol arall (y tu allan i Lywodraeth Leol), i gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn rhanddeiliaid neu i bolisi yswiriant prynu cyfran.
Cyfrifir gwerthoedd trosglwyddo yn unol ag amodau a thelerau Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997 (fel y’u diwygiwyd) sy’n cydymffurfio â gofynion Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993. Rhaid gwarantu unrhyw werth ariannol cyfwerth a ddyfynnwyd am 3 mis o’r dyddiad cyfrifo a rhaid derbyn opsiwn ysgrifenedig i fynd ymlaen â’r gwerth trosglwyddo gwarantedig o fewn y cyfnod gwarantedig o dri mis.