Nid yw rheolau’r cynllun yn caniatáu i chi drosglwyddo hawliau pensiwn i’r cynllun o drefniant pensiwn arall neu o Gronfa Bensiwn Awdurdod Lleol arall.
Gallwch, fodd bynnag, ddewis agregu aelodaeth flaenorol fel cynghorydd gyda chyfnod presennol o aelodaeth fel cynghorydd, os mai’r un Gronfa LGPS sydd dan sylw.
Rhaid penderfynu ar opsiwn o’r fath o fewn 12 mis o ailymaelodi â’r cynllun, er gall y cyngor ddefnyddio’i ddisgresiwn i estyn y cyfnod hwn.