Mae’ch pensiwn yn seiliedig ar gyfanswm eich aelodaeth sydd wedi cronni yn y cynllun a’ch tâl cyfartalog ar hyd eich gyrfa – y tâl am bob blwyddyn neu ran o’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth, wedi’i ailbrisio (ac eithrio tâl y flwyddyn olaf) gan ddefnyddio’r cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu rhwng diwedd y flwyddyn berthnasol a diwrnod olaf y mis pan ddaw eich aelodaeth weithredol i ben.
Caiff crynswth tâl pob blwyddyn wedi’i ailbrisio ei rannu â chyfanswm y blynyddoedd a’r blynyddoedd rhannol i gael tâl cyfartalog eich gyrfa a ddefnyddir i gyfrifo’ch budd-daliadau pensiwn.
Am bob blwyddyn o aelodaeth o’r cynllun, byddwch yn derbyn pensiwn blynyddol sy’n seiliedig ar 1/80 o dâl cyfartalog eich gyrfa, gyda chyfandaliad di-dreth awtomatig cyfwerth â 3/80 o dâl cyfartalog eich gyrfa am bob blwyddyn o’ch aelodaeth.
Enghraifft
Er enghraifft, os yw Cynghorydd wedi bod yn aelod o’r cynllun am 5 mlynedd, o 1 Mai 2007 tan 30 Ebrill 2012, byddai’r tâl cyfartalog yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
Cyfnod | Tâl | Ychwanegu chwyddiant | Cyfanswm |
1/5/2007 – 31/3/2008 | £6,645.00 | O 1/4/2008 i 30/4/2012 | £7,952.58 |
1/4/2008 – 31/3/2009 | £7,250.00 | O 1/4/2009 i 30/4/2012 | £7,896.70 |
1/4/2009 – 31/3/2010 | £7,500.00 | O 1/4/2010 i 30/4/2012 | £8,134.50 |
1/4/2010 – 31/3/2011 | £7,500.00 | O 1/4/2011 i 30/4/2012 | £7,910.25 |
1/4/2011 – 31/3/2012 | £7,500.00 | O 1/4/2012 i 30/4/2012 | £7,532.25 |
1/4/2012 – 30/4/2012 | £625.00 | £625.00 | |
Cyfanswm | £39,691.28 | ||
Rhannu â 5 = tâl cyfartalog gyrfa | £7,938.26 |
Felly, byddai’r pensiwn blynyddol yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
1/80 x Tâl Cyfartalog ar hyd Gyrfa x Cyfanswm Aelodaeth
1/80 x £7,938.26 x 6 = £496.14
Byddai’r cyfandaliad di-dreth yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
3/80 x Tâl Cyfartalog ar hyd Gyrfa x Cyfanswm Aelodaeth
3/80 x £7,938.26 = £1,488.42