Gallwch ildio rhan o’ch pensiwn blynyddol am gyfandaliad di-dreth sengl.
Byddwch yn derbyn cyfandaliad gwerth £12 am bob £1 o’r pensiwn rydych yn ei ildio a gallwch gymryd hyd at 25% o werth cyfalaf eich budd-daliadau pensiwn.
Os ydych yn talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVC) mewnol, gallwch ddewis cymryd hyd at 100% o’ch cronfa AVC sydd wedi cronni ar yr un pryd â’ch budd-daliadau pensiwn LGPS, ar yr amod nad yw hyn, o’i ychwanegu at gyfandaliad yr LGPS, yn fwy na 25% o werth cyfalaf eich budd-daliadau LGPS a’ch cronfa AVC.
Cyfrifir gwerth cyfalaf eich budd-daliadau pensiwn fel a ganlyn:
120 x pensiwn blynyddol +
10 x (cyfandaliad (os oes un) +
10 x Cronfa AVC fewnol (os oes un) ÷ 7 = gwerth cyfalaf
Gwerth cyfalaf x 25% = cyfandaliad mwyaf
e.e.
Mae aelod yn ymddeol yn 65 oed ar ôl 15 mlynedd. Tâl cyfartalog ei yrfa oedd £15,000. Roedd yr aelod wedi cronni cronfa AVC fewnol gwerth £5,000 Byddai’r budd-daliadau pensiwn yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:
Pensiwn
1/80 x 15 x £15,000 = £2,812.50
Cyfandaliad
3 x Pensiwn = £8,437.50
Cronfa AVC fewnol £5,000
Gwerth Cyfalaf
£
120 x £2,812.50 = 337,500
10 x £8,437.50 = 84,375
10 x £5,000 = 50,000
Cyfanswm 471,875 ÷ 7 = £67,410.71
Cyfandaliad mwyaf 25% x £67,410.71 = £16,852.67
Mae’r cyfandaliad LGPS awtomatig o £8,437.50 a’r gronfa AVC fewnol o £5,000 yn gadael gwahaniaeth o £3,415.17
Rhannu â 12 £3,415.17 ÷ 12 = £284.60
Os yw’n derbyn y cyfandaliad mwyaf, byddai’r pensiwn yn cael ei leihau £284.60 to £2,527.90
Y cyfandaliad mwyaf yw £16,852.67