Rhwng 60 a 65 oed
Ar yr amod bod cyfanswm eich aelodaeth yn fwy na thri mis, gallwch ymddeol yn wirfoddol, ar unrhyw adeg ar ôl cyrraedd 60 oed a dewis derbyn eich budd-daliadau LGPS.
Rhwng 50 a 60 oed
Gallwch hefyd ymddeol a derbyn eich budd-daliadau LGPS o 50 oed, ond ar yr amod bod y cyngor yn cydsynio yn unig.
Cosbau am dderbyn budd-daliadau LGPS yn gynnar
Os ydych yn ymddeol yn wirfoddol cyn 65 oed, caiff eich budd-daliadau pensiwn eu gostwng i adlewyrchu’r ffaith y cânt eu talu’n gynnar. Cyfrifir y gostyngiad yn unol â’r arweiniad a gyhoeddir gan Adran Actwari’r Llywodraeth.
Fel canllaw, mae’r tabl isod yn dangos y gostyngiad am ymddeoliad cynnar ar ffurf canran. Lle nad yw nifer y blynyddoedd yn cyfateb yn union â’r ffigurau hyn, caiff canrannau’r gostyngiad eu newid yn unol â hynny.
Fodd bynnag, os oeddech wedi ymaelodi â’r LGPS cyn 1 Hydref 2006, bydd gennych rywfaint o warchodaeth yn erbyn y gostyngiad fel a ganlyn:
- Os byddwch yn 60 oed neu’n hŷn erbyn 31 Mawrth 2016 ac rydych yn dewis ymddeol cyn i chi gyrraedd 65 oed, ar yr amod eich bod yn bodloni’r rheol 85 mlynedd (mae cyfanswm eich oedran a’ch aelodaeth mewn blynyddoedd cyfan yn gwneud 85) wrth i chi ddechrau derbyn eich pensiwn, ni chaiff y budd-daliadau sydd wedi cronni hyd at 31 Mawrth 2016 eu gostwng.
- Os byddwch yn cyrraedd 60 oed rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2020 ac rydych yn bodloni’r rheol 85 mlynedd erbyn 31 Mawrth 2020, bydd y budd-daliadau sy’n cronni rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2020 yn llai ond ni fydd gostyngiad llawn.
- Os byddwch yn cyrraedd 60 oed ar ôl 31 Mawrth 2016 ac rydych yn dewis ymddeol cyn i chi gyrraedd 65 oed, ar yr amod eich bod yn bodloni’r rheol 85 mlynedd, wrth i chi ddechrau derbyn eich pensiwn, ni chaiff y budd-daliadau sydd wedi cronni hyd at 31 Mawrth 2008 eu gostwng.
DS Os na fyddech yn bodloni’r rheol 85 mlynedd erbyn i chi gyrraedd 65 oed, yna caiff eich holl fudd-daliadau eu gostwng os ydych yn dewis ymddeol cyn cyrraedd 65 oed