Os ydych yn parhau i weithio ar ôl cyrraedd 65 oed, byddwch yn parhau i dalu i’r cynllun a chronni rhagor o fuddion LGPS. Telir eich budd-daliadau:
- pan fyddwch yn ymddeol; neu
- ar y diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 75 oed;
p’un bynnag a ddaw gyntaf.
Os ydych yn dewis derbyn eich budd-daliadau ar ôl cyrraedd 65 oed, caiff y budd-daliadau a gronnwyd cyn i chi gyrraedd 65 oed eu cynyddu i adlewyrchu’r ffaith y cânt eu talu am gyfnod byrrach.
Mae’n rhaid talu’ch pensiwn ar y diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 75 oed.