Os oes gennych o leiaf dri mis o aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac mae Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol y Gronfa yn ardystio eich bod yn analluog, a hynny’n barhaol, (tan eich pen-blwydd yn 65 oed) i gyflawni dyletswyddau’ch swydd yn effeithlon oherwydd salwch neu anhwylder meddwl neu gorff, telir eich pensiwn a chyfandaliad i ch ar unwaith.
Cyfrifir eich budd-daliadau salwch yn yr un modd a ddangosir ar y dudalen ‘Cyfrifo’ch Budd-daliadau’. Fodd bynnag, bydd cyfanswm yr aelodaeth a ddefnyddir yn y cyfrifiad yn cynyddu os ydych wedi bod yn aelod o’r LGPS am o leiaf pum mlynedd. Mae’r tabl isod yn dangos faint bydd yn cynyddu.
Cyfanswm Aelodaeth | Ychwanegiad a Ddyfarnwyd |
Llai na 5 mlynedd | Aelodaeth yn unig |
5 i 10 mlynedd | Aelodaeth wedi’i dyblu |
10 i 13 mlynedd 122 o ddiwrnodau | Aelodaeth wedi’i chynyddu i 20 mlynedd |
13 blynedd 123 o ddiwrnodau neu fwy | Aelodaeth wedi’i chynyddu 6 blynedd 243 o ddiwrnodau |
Sylwer
- Ni ddylai’ch aelodaeth wedi’i chynyddu fod yn fwy na chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi ei chronni pe byddech wedi parhau yn eich swydd tan 65 oed.
- Ni chaiff eich budd-daliadau pensiwn eu cynyddu os ydych wedi derbyn pensiwn salwch dan y cynllun o’r blaen.
- Os oes gennych lai na 3 mis o aelodaeth, caiff eich cyfraniadau eu had-dalu i chi.