O dan y Cynllun Car Gwyrdd mae’r Cyngor yn eich caniatáu i brydlesu car newydd sbon dan drefniant aberthu cyflog.
O dan drefniant aberthu cyflog, bydd eich cyflog gros misol yn cael ei leihau, gan arwain at arbedion mewn treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn.
Mae’r ffeithlen hon yn egluro sut y bydd y trefniant hwn yn effeithio ar eich pensiwn ac yn rhoi manylion am sut y gallech dalu cyfraniadau ychwanegol i dalu am y gostyngiad yn eich pensiwn.
Sut y bydd y Cynllun Ceir Gwyrdd aberthu cyflog yn effaithio fy mhensiwn?
Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Ceir Gwyrdd byddwch yn talu llai o gyfraniadau pensiwn gan fod y cyfraniad byddwch yn ei dalu yn seiliedig ar y cyflog yr ydych yn ei dderbyn llai y swm aberthu – felly, bydd cyfraniadau pensiwn ond yn cael eu tynnu o’r cyflog sy’n weddill wedi’r aberthu.
Fodd bynnag, er y byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn llai tra byddwch yn y trefniant aberthu cyflog, mae’n bwysig nodi y bydd gostyngiad parhaol i’r buddion pensiwn y byddwch yn ei dderbyn.
Ers Ebrill 2014 mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio. Mae’r cynllun Cyfartaledd Gyrfa yn defnyddio eich cyflog pensiynadwy ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol i gyfrifo eich buddion pensiwn am y flwyddyn honno, ni fydd y swm sydd wedi cael ei aberthu yn cael ei gynnwys yn y cyfrifiad. Felly, drwy gydol y contract aberthu cyflog car bydd eich buddion pensiwn ar gyfer y term hwnnw yn llai nag y byddent wedi bod pe na baech wedi bod yn trefniant o’r fath.
Enghraifft
Tâl pensiynadwy gwirioneddol | £18,000 |
Swm a aberthwyd | £3,000 |
Tâl a ddefnyddir i gyfrifo’r buddion pensiwn | £15,000 |
Gwerth y buddion pensiwn heb aberthu:
£18,000 x 1/49 = £367.35
Gwerth y buddion pensiwn wedi aberthu:
£15,000 x 1/49 = £306.12
Felly, o dan yr enghraifft hon mi fuasai eich pensiwn yn £61.23 y flwyddyn yn llai trwy fod yn y trefniant aberthu cyflog.
Mae’r pensiwn cronedig wedyn yn cael ei gredydu i’ch cofnod ac ni fydd yn newid hyd yn oed ar ôl i’r cyfnod aberthu cyflog ddod i ben. Yn wahanol i gynllun cyflog terfynol, lle ar yr amod bod y cyfnod aberthu cyflog yn dod i ben o leiaf 12 mis cyn ymddeol / gadael, nid yw’r ffigwr tâl pensiynadwy terfynol a ddefnyddir i gyfrifo buddion pensiwn yn cael eu heffeithio. Mae’r cynllun Cyfartaledd Gyrfa yn cyfrifo buddion pensiwn bob blwyddyn a bydd hyn yn gwneud gostyngiad parhaol i’ch buddion pensiwn ar gyfer y cyfnod yr oeddech chi yn y trefniant aberthu cyflog.
A fydd y cynllun aberthu cyflog yn effeithio ar buddion marwolaeth?
Bydd, mae’r Cynllun Ceir Gwyrdd yn effeithio ar fuddion marwolaeth a fuasai’n daladwy gan gynnwys y grant marwolaeth mewn gwasanaethau, gan fod y cyflog a ddefnyddir i gyfrifo’r buddion yn cael ei selio ar y swm yn dilyn yr aberthu.
Beth am fuddion a gronnwyd cyn 1 Ebrill sydd yn y Cynllun Cyflog Terfynol?
Bydd y buddion yma yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar y cyflog cyn aberthua ni fydd yn llai oherwydd y Cynllun Ceir Gwyrdd.
A allaf dalu cyfraniadau pensiwn ychwanegol i dalu am y golled pensiwn?
Gallwch, mae’n bosib talu tuag at Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i dalu am y pensiwn a gollwyd. Bydd angen i chi ddarganfod faint o dâl pensiynadwy yr ydych wedi colli yn ystod eich cyfnod yn y trefniant aberthu cyflog. Bydd eich Cyflogwr yn gallu rhoi’r gwybodaeth yma i chi.
Byddwch wedyn yn gallu cael mynediad i’r Modelwr CPY i gyfrifo’r gost o brynu’r pensiwn coll yn ei ol:
Er mwyn prynu yn ôl eich pensiwn coll , bydd rhaid i chi argraffu’r Ffurflen Gais oddi wrth y modelwr ar-lein ac anfon copi i’ch Cyflogwr a Gronfa Bensiwn. Bydd gennych yr opsiwn i brynu yn ôl y pensiwn a gollwyd fel taliad unigol neu bob mis dros gyfnod isafswm o 12 mis. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno talu bob mis, bydd rhaid i’ch meddyg teulu gwblhau datganiad i ardystio eich bod mewn ‘iechyd rhesymol dda’.
Ble allwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Mae’r ffeithlen hon yn rhoi arweiniad cyffredinol yn unig, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe:
Ffôn: 01792 636655
E-bost: pensiynau@abertawe.gov.uk
Ymwadiad
Nid yw’r Gronfa Bensiwn yn gallu darparu unrhyw gyngor ariannol. Ar ôl i chi ddarllen y ffeithlen hon, efallai y bydd angen i chi ofyn am gyngor ariannol annibynnol ar gyfer gwneud eich penderfyniad.
Efallai bydd y cyrff yma yn gallu eich helpu:
Unbiased: https://unbiased.co.uk/
MoneyHelper: https://www.moneyhelper.org.uk/en/pensions-and-retirement/taking-your-pension/find-a-retirement-adviser