- Cyflwyniad
- Adran 1
- Adran 2
- Adran 3
- Adran 4
- Adran 5
- Rhan 6
- Adran 7
- Adran 8
- Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
- Pryd y byddaf yn gymwys ar gyfer buddion yn y cynllun?
- A yw fy natganiad yn ystyried unrhyw ostyngiad ymddeoliad cynnar?
- A yw fy natganiad yn cynnwys cynnydd ymddeoliad hwyr?
- Beth os ydwyf yn cyfrannu at y CPLlL o dan gyflogaeth arall?
- Beth os gennyf fuddion gohiriedig yn y CPLlL hefyd?
- A allai dalu mwy i gynyddu fy muddion?
- Pam dangosir ‘dim’ ar gyfer fy Lwfans Blynyddol (Swm Mewnbwn Pensiwn)?
- Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn gallu gweithio oherwydd salwch?
- A yw fy nidyniadau Gorchymyn Rhannu Pensiwn / Cynllun yn Talu wedi eu cynnwys?
- Sut fydd Ddyfarniad McCloud yn effeithio ar CPLlL?
- Ble alla i gael arweiniad ynglŷn â’m Pensiwn?
Cyflwyniad
Mae’r llyfryn hwn wedi ei gynllunio i gyd-fynd â’r Datganiad am eich Buddion Blynyddol 2024 dan Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Mae’n cynnwys y nodiadau canllaw sydd eu hangen arnoch i ddeall gwahanol adrannau o’r datganiad. Mae’r llyfryn wedi cael ei baratoi yn unol â gofynion rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Datgelu Gwybodaeth) 2013 a rheoliadau perthnasol y Cynllun. Ni all y nodiadau hyn gwmpasu pob amgylchiad personol ac os bydd unrhyw anghydfod ynghylch eich datganiad, bydd y ddeddfwriaeth briodol yn cario’r dydd. NID yw’r nodiadau hyn yn rhoi unrhyw hawliau cytundebol na statudol, ac maent wedi cael eu darparu i roi gwybodaeth yn unig. Cyfeiriwch at y nodiadau hyn yn ofalus wrth ddarllen eich datganiad.
Adran 1
Manylion Personol
Gwnewch yn siŵr fod y manylion a ddangosir yn gywir. Os nad ydyn nhw, defnyddiwch y manylion cyswllt a ddangosir o dan Adran 3 i roi gwybod am unrhyw gamgymeriadau.
Dyddiad ymuno’r CPLlL yn y Gyflogaeth hon
Gwnewch yn siŵr fod y dyddiad a ddangosir yn gywir. Sylwch mai dyma’r dyddiad pan ddaru chi ymuno â’r Cynllun. Os ydi hwn yn anghywir, defnyddiwch y manylion cyswllt a ddangosir o dan Adran 3 i roi gwybod am y camgymeriad.
Adran o’r CPLlL fel yr oedd ar 31/03/2024
Mae dwy Adran i’r CPLlL 2014. Mae eich adran chi’n cael ei dangos yma. Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau yn cyfrannu at y Brif adran ac yn cronni buddion llawn, ond mae dewis gennych i leihau eich cyfradd gyfrannu i 50% ac yna adeiladu yn ystod y cyfnod hwn hanner y lefel o bensiwn seiliedig ar Gyfartaledd eich enillion wedi’u hadbrisio yn ystod eich Gyrfa (CG).
Fodd bynnag, mae yswiriant salwch a buddion marwolaeth llawn yn cael ei gynnal wrth gyfrannu at adran 50/50.
Os ydych wedi dewis gwneud hyn, byddwch yn cyfrannu at adran 50/50 y cynllun ac, o ganlyniad, bydd eich pensiwn CG yn cael ei gyfrifo fel 1/98fed o’ch tâl CG ar gyfer y cyfnod hwn (yn hytrach na’r 1/49fed uwch o’ch tâl pensiynadwy CG os ydych yn y Brif adran). Os ydych yn yr adran 50/50 ar 31 Mawrth 2024, mae’r rhagamcan i’ch Oedran Pensiwn Arferol (OPA), fel y caiff ei ddangos o dan Adran 7, wedi cael ei gyfrifo ar 1/98fed.
Bydd eich Cyflogwr yn eich ailgofrestru ym Mhrif adran y cynllun ar y dyddiad ailgofrestru, ar yr amod nad ydych wedi ailymuno â’r Brif adran yn y cyfamser. Dyddiad ailgofrestru eich cyflogwr yw trydydd pen-blwydd eu dyddiad Cofrestru Awtomatig.
Adran 2
Tal Pensiynadwy seiliedig ar Gyfartaledd eich Enillion-Wedi’u-Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa (CG) fel yr oedd ar 31/03/2024
Sylwch FOD RHAID I CHI WNEUD YN SIŴR fod eich Tâl Pensiynadwy Cyfartaledd Gyrfa yn gywir; fel arall, efallai y bydd eich buddion Cyfartaledd Gyrfa wedi cael eu cyfrifo’n anghywir. Os ydych yn credu bod eich Tâl Pensiynadwy seiliedig ar eich Enillion-Wedi’u-Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa yn anghywir, defnyddiwch y Manylion Cyswllt a ddangosir o dan Adran 5 i gyflwyno eich ymholiad. Sylwch y byddwch yn colli’r hawl i apelio pe baech yn methu nodi unrhyw anghywirdeb o fewn 6 blynedd.
Mae buddion Cyfartaledd eich Enillion-Wedi’u-Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa (CG) yn seiliedig ar y tâl pensiynadwy gwirioneddol ddaru chi ei dderbyn yn ystod Blwyddyn y Cynllun (o 1 Ebrill i 30 Mawrth), a chyfeirir ato fel eich Tâl Pensiynadwy seiliedig ar eich Enillion-Wedi’u-Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa. O dan ddiffiniad tâl Cynllun 2014, mae pob goramser ac oriau ychwanegol yn cael eu cynnwys yn eich Tâl Pensiynadwy seiliedig ar eich Enillion-Wedi’u-Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa.
Os ydych wedi derbyn tâl is neu ddim tâl o gwbl yn ystod blwyddyn y cynllun, oherwydd absenoldeb salwch neu anaf, absenoldeb yn gysylltiedig â phlant neu absenoldeb yng ngwasanaeth y lluoedd wrth gefn, bydd eich tâl wedi cael ei seilio ar eich Tâl Pensiynadwy Tybiedig (TPT), sef cyfartaledd o’r tâl pensiynadwy a gafwyd yn ystod y 3 mis cyflawn (neu gyfnod o 12 wythnos os telir yn wythnosol) cyn i chi ddechrau’r cyfnod o dâl is neu ddim tâl o gwbl. Er mwyn cyfrifo eich pensiwn Cyfartaledd Gyrfa yn erbyn y gyfradd briodol (yr 1/49fed uchaf os ydych yn y Brif adran a’r 1/98fed isaf os ydych yn adran 50/50), mae eich Tâl Pensiynadwy seiliedig ar eich Enillion-Wedi’u-Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa wedi cael ei rannu’n gyfrannol (Prif Adran a/neu Adran 50/50) os ydych wedi cyfrannu yn nwy ran y cynllun yn ystod Blwyddyn y Cynllun.
Adran 3
Gwerth unrhyw Debydau Cynllun
Mae’r adran hon yn dangos gwerth unrhyw Ddebydau Cynllun (fel ar 31 Mawrth 2024) i’ch pensiwn blynyddol, lwmp swm awtomatig (os yw’n berthnasol) a phensiynau goroeswr.
Os yw Gorchymyn Rhannu Pensiwn (GRhP) o ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil, neu debyd Gynllun yn Talu o ganlyniad i dorri lwfans blynyddol, wedi cael ei osod ar eich buddion pensiwn, bydd cyfanswm gwerth buddion CPLlL ar 31 Mawrth 2024 (Adran 6) wedi’u lleihau gan y gwerthoedd a ddangosir o dan yr adran hon. Os mae GRhP wedi’u ddangos, bydd eich rhagamcan buddion CPLlL i’ch Oedran Pensiwn Arferol (OPA) (Adran 8) wedi’u lleihauwedyn yn ôl gwerth uwch y debyd, fel y cynyddwyd yn unol â cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD).
Sylwch y bydd debyd o ganlyniad i GRhP yn cael ei ailbrisio bob mis Ebrill yn unol â Gorchmynion Ailbrisio Trysorlys EM. Ar hyn o bryd, cyfradd yr ail-ddadansoddiad yw ffigwr y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) a gyhoeddwyd yn y mis Hydref blaenorol ar gyfer mis Medi. Mae unrhyw Taliad Cynllun yn talu ar gyfer Lwfans Blynyddol yn cael ei ailbrisio ar adeg ymddeol, ond NI wnaed unrhyw ragdybiaethau ar gyfer ailbrisio i’ch OPA yn y dyfodol.
Adran 4
Lwfans Blynyddol (LB)
Y Lwfans Blynyddol (LB) yw’r uchafswm y gall eich buddion pensiwn gynyddu yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill tan 31 Mawrth heb orfod talu treth ychwanegol. Mae’r terfyn hwn wedi cael ei osod yn £60,000 ers 1 Ebrill 2014, ond roedd yn arfer bod yn £40,000. Os bydd eich Swm Mewnbwn Pensiwn (SMP)yn fwy na’r gwerth hwn, efallai y bydd treth ychwanegol yn ddyledus.
Fodd bynnag, gall unrhyw lwfans na ddefnyddiwyd o’r 3 blynedd blaenorol gael ei ddefnyddio i’w osod yn erbyn y cynnydd hwn. Dylech hefyd gymryd i ystyriaeth unrhyw fuddion o bensiwn arall a allai fod gennych wrth asesu eich Swm Mewnbwn Pensiwn (SMP), gan gynnwys unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY).
Sylwch fod unrhyw CGY mewnol rydych wedi’i dalu o 1 Ebrill tan 31 Mawrth WEDI cael ei gynnwys wrth gyfrifo’r LB rydych wedi’i ddefnyddio hyd at 5 Ebrill 2024 yn sgil eich buddion yn y CPLlL. Bydd buddion sy’n deillio o flynyddoedd ychwanegol, trosglwyddiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod mewnbwn pensiwn (CMB) blaenorol a debydau pensiwn yn ystod cyfnod pensiwn blaenorol i gyd wedi cael eu cynnwys. Os ydych yn credu y bydd y LB yn effeithio arnoch, cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn.
A fydd y Lwfans Blynyddol yn debygol o effeithio arnaf?
Ni fydd y codiant treth ar yr LB yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl oherwydd ni fydd gwerth cynilion eu pensiwn yn codi’n uwch na £60,000 mewn blwyddyn neu, os gwna, mae’n debygol y bydd ganddynt rywbeth i’w gario ymlaen o flynyddoedd blaenorol. Mae’n fwyaf tebygol yr effeithir arnoch:
- os oes gennych lawer o aelodaeth cynllun a’ch bod yn derbyn codiad tâl sylweddol, a/neu;
- os ydych yn talu lefel uchel o gyfraniadau ychwanegol, a/neu;
- os ydych yn ennill tâl mawr, a/neu;
- os ydych yn trosglwyddo hawliau pensiwn i’r CPLlL o gynllun pensiwn blaenorol dan reolau trosglwyddo clwb yn y sector cyhoeddus a bod eich tâl
- (cyfwerth â llawn amser) wrth ymuno â’r CPLlL rywfaint yn uwch na’r tâl yr oeddech yn ei ennill pan adawsoch y cynllun blaenorol, a/neu;
- os ydych yn cyfuno buddion pensiwn blaenorol dan y CPLlL a oedd wedi cronni yn rhan derfynol eich tâl gyda’r CPLlL gyda chyfrif eich pensiwn cyfredol a bod eich tâl (cyfwerth â llawn amser) wedi codi’n sylweddol er pan adawsoch ac ailymuno â’r cynllun, a/neu;
- os ydych wedi cymryd eich buddion hyblyg ar neu ar ôl 6 Ebrill 2015.
Sut y mae’r Lwfans Blynyddol yn cael ei gyfrifo?
Mae’r codiad yng ngwerth cynilion eich pensiwn yn y CPLlL mewn blwyddyn yn cael ei fesur drwy gyfrifo gwerth eich buddion yn union cyn dechrau cyfnod y mewnbwn pensiwn blaenorol (CMP), gan godi gwerth drwy chwyddiant ac yna drwy’i gymharu â gwerth eich buddion ar ddiwedd cyfnod mewnbwn y pensiwn (CMP). Y CMP yw’r cyfnod yn ystod pryd y caiff twf eich pensiwn ei fesur. (O 6 Ebrill 2016, bydd pob CMP ar gyfer yr holl gynlluniau pensiwn yn cydredeg â’r flwyddyn drethi – 6 Ebrill i’r 5 Ebrill. Cyn 2016/2017, y CMP ar gyfer CPLlL oedd 1 Ebrill tan Fawrth 31, ac eithrio ar gyfer 2015/2016 pan oedd rheolau dros dro arbennig mewn grym).
Yn y CPLlL, caiff gwerth buddion eich pensiwn ei gyfrifo drwy luosi swm eich pensiwn blynyddol gydag 16 ac ychwanegu unrhyw lwmp swm sy’n ddyledus i chi’n awtomatig o’r cynllun pensiwn ynghyd ag unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) a dalwyd gennych chi neu eich cyflogwr yn ystod y flwyddyn.
SYLWER bod eich SMP fel yr oedd ar 5 Ebrill 2024 wedi’i gyfrifo drwy ddefnyddio eich tâl pensiynadwy fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024.
Os yw’r gwahaniaeth yng ngwerth y buddion pensiwn ar ddiwedd y CMP llai gwerth eich buddion pensiwn yn union cyn dechrau’r CMP (wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant), yn fwy na therfyn y LB, yna efallai y byddech yn agored i dalu treth. Mae’n bwysig nodi bod yr asesiad ar gyfer y LB yn cwmpasu unrhyw fuddion pensiwn a allai fod gennych tra oeddech yn aelod actif yn ystod y flwyddyn, nid yn unig buddion yn y CPLlL.
Er enghraifft, pe bai’r cynnydd yng ngwerth eich buddion yn y CPLlL wedi eu cyfrifo i fod yn £50,000 yn 2023/24 pan oedd terfyn y LB yn £60,000 ond eich bod hefyd wedi cael cynnydd o £15,000 yng ngwerth buddion pensiwn eraill yn yr un flwyddyn, byddai hynny’n golygu eich bod wedi cael cyfanswm o gynnydd mewn buddion pensiwn o £65,000.
Os nad oedd gennych ddim i’w gario trosodd, byddech yn agored i dalu treth am y swm sydd wedi mynd dros derfyn y LB, hyd yn oed pe bai’n ymddangos ar yr wyneb nad oeddech wedi mynd dros derfyn eich LB yn y naill gynllun na’r llall.
Beth y mae’r term ‘Cario drosodd’ yn ei olygu?
Ni fyddech ond yn atebol i dalu treth LB pe bai cyfanswm gwerth eich cynilion pensiwn am y flwyddyn yn mynd dros derfyn y LB am y flwyddyn honno. Fodd bynnag, mae rheol i gario drosodd dair blynedd yn caniatáu i chi gario trosodd LB na chafodd ei ddefnyddio yn ystod y tair blynedd blaenorol. Mae hynny’n golygu na fyddwch efallai’n agored i dalu treth LB hyd yn oed os yw gwerth eich cynilion pensiwn yn fwy na therfyn y LB mewn blwyddyn.
Er enghraifft, pe bai gwerth eich cynilion pensiwn yn 2023/24 wedi codi £70,000 (h.y. £10,000 yn fwy na therfyn y LB) ond yn ystod y tair blynedd blaenorol wedi codi £25,000, £28,000 a £30,000, yna byddai swm y blynyddoedd blaenorol hynny a fyddai’n is na therfyn y LB ar gyfer y tair blynedd hynny yn fwy na gwneud iawn am £10,000 o orgynilion yn ystod y flwyddyn gyfredol. Ni fyddai treth i’w thalu yn yr achos hwn. Er mwyn cario drosodd LB na chafodd ei ddefnyddio mewn blwyddyn flaenorol, byddai’n rhaid i chi fod wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn sydd wedi’i gofrestru ar gyfer treth yn ystod y flwyddyn honno.
Newidiadau yn y Lwfans Blynyddol (LB)
Yn Neddf Cyllid (Rhif 2) 2015, cyflwynwyd dau newid pwysig yn y LB a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2016.
- Tapro’r lwfans blynyddol ar gyfer y rhai ar enillion uchel o 6 Ebrill 2016.
- Addasu’r CMP yn ystod 2015/16 er mwyn iddo gydredeg â’r flwyddyn drethi
- o 6 Ebrill 2016.
O flwyddyn drethi 2016/17, cafodd y LB ei dapro ar gyfer aelodau a oedd ag ‘Incwm Trothwy’ o fwy na £110,000, ac ‘Incwm Cymhwysedig’ o fwy na £150,000. Am bob £2 yr oedd eich Incwm Cymhwysedig yn fwy na £150,000, cafodd y terfyn LB ei ostwng i lawr £1 (hyd at isafswm o £10,000). Fodd bynnag, mae’r terfynau hyn wedi newid o 6 Ebrill 2020. Mae’r Incwm Trothwy bellach yn £200,000 a’r Incwm wedi’i Cymhwysedig yn £240,000, a’r isafswm LB yn £4,000. Gellir diffinio Incwm Trothwy yn fras fel eich incwm trethadwy ar ôl didynnu eich cyfraniadau pensiwn (gan gynnwys CGY a gafodd eu didynnu dan y trefniant gwir gyflog). Gall Incwm Trothwy hefyd gynnwys ffynhonnell pob incwm sy’n drethadwy e.e. incwm o eiddo, incwm o gynilion, incwm o ddifidendau, incwm o bensiynau, incwm o nawdd cymdeithasol (lle bo’n drethadwy), incwm o bensiwn gwladol, etc. Ar y llaw arall, eich incwm cymhwysedig fydd eich incwm trothwy ynghyd â’ch cynilion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn trethi. Fodd bynnag, sylwch na chewch ddidynnu o incwm trethadwy unrhyw swm o incwm cyflogaeth a ildiwyd er mwyn darparu ar gyfer pensiwn o ganlyniad i aberthu unrhyw gyflog a wnaed ar neu ar ôl 9 Gorffennaf 2015.
Y CMP yw’r cyfnod pryd y caiff twf eich pensiwn ei fesur. Hyd at 2014/15, roedd y CMP yn y CPLlL yn rhedeg o 1 Ebrill tan 31 Mawrth ac roedd rheolau trosiannol arbennig mewn grym ar gyfer 2015/16. O 6 Ebrill 2016, bydd CauMP ar gyfer pob cynllun pensiwn yn cydredeg â’r flwyddyn trethi (6 Ebrill i 5 Ebrill). Am ragor o wybodaeth ar sut bydd y ‘tapro’ hyn yn gweithio, cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn.
Lwfans Blynyddol: Hawl i gael ’Budd Hyblyg’
Os oes gennych unrhyw fuddion mewn trefniant pensiwn i brynu incwm pensiynadwy (cyfraniad diffynedig) a ddaru chi dderbyn ar delerau hyblyg ar neu ar ôl 6 Ebrill 2015, yna gall rheolau Lwfans Blynyddol i Brynu Incwm Pensiynadwy (MPAA) fod yn berthnasol. Fodd bynnag, ni fydd y Trefniant MPAA ond yn berthnasol os bydd cyfanswm eich cyfraniadau i drefniant prynu incwm pensiynadwy mewn CMP dros £10,000.
Yn gyffredinol, os bydd eich cyfraniadau i gynllun prynu incwm pensiynadwy dros £10,000, bydd buddion cynilion diffiniedig eich pensiwn (CPLlL) yn cael eu profi yn erbyn LB gostyngol o £50,000 a byddwch yn talu treth mewn perthynas â’ch arbedion wrth brynu incwm pensiynadwy dros £10,000.
Os byddwch yn hawlio buddion hyblyg, byddwch yn derbyn datganiad ynghylch mynediad hyblyg; dylech ddarparu copi o’r datganiad hwn i’r Gronfa Bensiwn.
Mae mynediad hyblyg yn golygu cymryd swm o arian dros y lwmp swm di-dreth o gyfrif tynnu-i-lawr mynediad hyblyg, gan gymryd lwmp swm o gronfa bensiwn heb ei grisialu (UFPLS), prynu blwydd-dal hyblyg, cymryd pensiwn o gynllun cyfraniadau diffiniedig gyda llai na 12 o aelodau sy’n bensiynwyr, neu gymryd lwmp swm ar ei ben ei hun os oes gennych amddiffyniad sylfaenol ond nid estynedig.
Sut y byddwn i’n talu treth LB?
Mae’n rhaid i’r Gronfa Bensiwn roi gwybod i chi os yw buddion CPLlL (ynghyd â faint o Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) y gallech fod wedi eu talu) dros derfyn y LB mewn blwyddyn a hynny heb fod yn ddiweddarach na 6 Hydref yn y flwyddyn drethi ganlynol.
Os oes arnoch ddyled treth LB sy’n fwy na £2,000 a bod eich cynilion pensiwn yn y CPLlL yn unig wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn o fwy na therfyn y LB, efallai y bydd modd i chi ddewis y CPLlL i dalu rhan neu’r cyfan o’r dreth ar eich rhan. Byddai’r dreth wedyn yn cael ei chasglu o’ch buddion pensiwn.
Pe baech yn dymuno i’r CPLlL dalu rhywfaint neu’r cyfan o dreth y LB ar eich rhan, mae’n rhaid i chi hysbysu’r Gronfa Bensiwn heb fod yn ddiweddarach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y mae treth y LB yn berthnasol. Fodd bynnag, os ydych yn ymddeol (ac yn tynnu eich holl fuddion o’r CPLlL) ac yn dymuno i’r CPLlL dalu cyfran neu’r cyfan o’r dreth ar eich rhan o’ch buddion, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Gronfa cyn i chi fod â hawl i’r buddion hynny.
A fydd hyn yn effeithio arnaf i?
Os ydych yn meddwl bod y LB yn effeithio arnoch chi, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Llywodraeth:
https://www.gov.uk/tax-on-your-private-pension/annual-allowance
Sylwch fod yr wybodaeth ar y LB a geir yn y llyfryn hwn o nodiadau canllaw yn cynnig ichi drosolwg o reolau’r LB. NI ddylid ystyried yr wybodaeth hon yn ddatganiad cyflawn ac awdurdodol ar y gyfraith. Gall y rheolau sy’n rheoli’r LB fod yn gymhleth ac yn agored i gael eu newid. Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut i fynd ymlaen, cynghorir chi i chwilio am Gyngor Ariannol Annibynnol.
Er mwyn cael cymorth i ddod o hyd i Ymgynghorydd Ariannol, edrychwch ar wefan y gwasanaeth MoneyHelper: www.moneyhelper.org.uk/cy
Adran 5
Manylion Cyswllt ar gyfer Ymholiadau
Defnyddiwch y manylion hyn i gael ateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
E-bost: pensiynau@abertawe.gov.uk
01792 636655
Rhan 6
Cyfanswm Gwerth y Buddion fel yr oedd ar 31/03/2024
Os daethoch yn aelod o’r CPLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2014, bydd cyfanswm gwerth eich buddion fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 yn cynnwys buddion eich Cyfartaledd Gyrfa (A) (ar gyfer aelodaeth o 1 Ebrill 2014) a buddion eich Tâl Terfynol (B) (ar gyfer aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2014).
Mae Dewis 1, sef eich Buddion Safonol yn cynnwys cyfanswm cyfun o’ch pensiwn blynyddol (A + B) ac unrhyw hawl i lwmp swm di-dreth awtomatig sydd gennych mewn perthynas â’ch aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008.
Mae Dewis 2, sef eich Uchafswm Lwmp Swm fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 yn dangos uchafswm eich lwmp swm di-dreth a’r pensiwn blynyddol sy’n weddill.
Pan fyddwch yn ymddeol, cewch ddewis trosi rhywfaint o’ch pensiwn blynyddol er mwyn cael arian parod di-dreth, sydd yn ychwanegol at unrhyw hawl sydd gennych i gael lwmp swm awtomatig. Am bob £1 o bensiwn a ildiwch, byddwch yn derbyn £12 o lwfans ymddeol di-dreth yn ei le, yn amodol ar derfyn a osodwyd ar Werth Cyfalaf gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Sylwch NAD yw’r uchafswm lwmp swm a ddangosir yn cynnwys eich cronfa CGY fewnol (os yw hynny’n berthnasol). Bydd datganiad yn dangos gwerth eich cronfa CGY fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 yn cael ei gyhoeddi ar wahân.
A) Gwerth eich Cyfrif Pensiwn sy’n seiliedig ar Gyfartaledd eich Enillion-Wedi’u-Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024
Mae’r Pensiwn Cyfartaledd Gyrfa sydd wedi ei gredydu i’ch cyfrif pensiwn ar gyfer Blwyddyn y Cynllun o 1 Ebrill 2023 hyd at 31 Mawrth 2024, wedi ei seilio ar eich tâl pensiynadwy seiliedig ar eich Enillion-Wedi’u Hadbrisio yn ystod eich Gyrfa (fel yr eglurwyd dan Adran 2) a’r gyfradd briodol o groniad pensiwn, wedi’i chyfrifo fel a ganlyn:
Prif Adran:
1/49fed x Tâl pensiynadwy Cyfartaledd Gyrfa a dderbyniwyd wrth gyfrannu at y Brif Adran y Cynllun yn ystod y cyfnod o 01/04/2023 i 31/03/2024.
Adran 50/50:
1/98fed x Tâl pensiynadwy Cyfartaledd Gyrfa a dderbyniwyd wrth gyfrannu at yr Adran 50/50 y Cynllun yn ystod y cyfnod o 01/04/2023 i 31/03/2024.
Mae unrhyw bensiwn ychwanegol y gellwch fod wedi’i brynu yn ystod Blwyddyn y Cynllun o dan Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) neu CPY Cost a Rennir hefyd wedi cael ei gynnwys yn eich Pensiwn Cyfartaledd Gyrfa fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021, a hefyd unrhyw bensiwn ychwanegol a brynwyd drwy drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r CPLlL. Bydd eich Cyfrif Pensiwn Cyfartaledd Gyrfa yn cael ei adbrisio ar 5 Ebrill 2024 a phob mis Ebrill wedi hynny yn unol â Rheolau Adbrisio Trysorlys EM, fel bod ei werth yn aros gyfuwch â chostau byw.
B) Gwerth Buddion eich Tâl Terfynol fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2024
Os daethoch yn aelod o’r CPLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2014, mae buddion eich tâl Terfynol yn seiliedig ar eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2014 (gan gynnwys aelodaeth a ddyfarnwyd wrth drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r CPLlL ac unrhyw ‘flynyddoedd ychwanegol’ o aelodaeth a brynwyd) a’ch Tâl Terfynol a ddangosir o dan Adran 6, sef eich tâl cyfwerth llawn amser fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 o dan y diffiniad o dâl yng Nghynllun 2008 (ac eithrio goramser digontract a chan anwybyddu unrhyw ostyngiad mewn tâl oherwydd salwch neu anaf neu absenoldeb sy’n gysylltiedig â phlant neu absenoldeb yng ngwasanaeth lluoedd wrth gefn).
Mae eich aelodaeth fel yr oedd ar 31 Mawrth 2014 yn cael ei fesur mewn Blynyddoedd a Diwrnodau ac nid yw ond yn berthnasol i gyfrifo buddion eich Tâl Terfynol. Mae’r ffigwr a ddangosir wedi ei gyfrifo yn unol â’ch oriau gwaith hyd at y dyddiad hwn, ac os ydych yn gweithio’n rhan amser, bydd eich aelodaeth wedi cael ei addasu i fod yn unol â’ch oriau gweithio rhan amser. Sylwch: os ydych yn, neu wedi bod yn, gyflogedig ar sail achlysurol, efallai na fydd y buddion a ddangosir ar y datganiad yn adlewyrchiad cywir o’r buddion a delir pan fyddwch yn ymddeol. Mae hyn oherwydd, ar eich dyddiad gadael, bydd y cyfartaledd o gyfanswm yr oriau ddaru chi weithio yn ym mhob blwyddyn hyd at 31 Mawrth 2014 yn cael ei gadarnhau gan eich Cyflogwr, a bydd eich aelodaeth yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny.
NI fydd unrhyw doriad yn eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2014 yn cyfrif tuag at gyfrifo buddion eich Tâl Terfynol. Os ydych yn cyfrannu at gontract Cyfraniadau Ychwanegol Rheolaidd (CYRh), mae’r swm cymesur o bensiwn ychwanegol a brynwyd fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 wedi cael ei ychwanegu at y pensiwn blynyddol a ddangosir.
Mae gwerth eich buddion tâl terfynol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 wedi eu gyfrifo fel a ganlyn.
Pensiwn Blynyddol:
- 1/80fed x aelodaeth hyd at 31/03/2008 x Tâl Cyflog Terfynol; AC
- 1/60fed x aelodaeth o 01/04/2008 i 31/03/2014 x Tâl Terfynol.
Lwmp swm awtomatig di-dreth:
- 3/80fed x aelodaeth i 31/03/2008 x Tâl Cyflog Terfynol.
- DIM lwmp swm awtomatig di-dreth yn daladwy ar ôl 01/04/2008.
Os ydych wedi ymuno â’r CPLlL ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014, mae’r adran Buddion Tâl Terfynol ar eich datganiad wedi cael ei adael yn wag yn fwriadol.
Adran 7
Buddion Marwolaeth mewn Gwasanaeth fel yr oedd ar 31/03/2024
Lwmp Swm Grant Marwolaeth
Pe baech yn marw fel aelod actif, gallai lwmp swm grant marwolaeth di-dreth o dair gwaith eich Tâl Pensiynadwy Tybiedig (TPT) (cyfartaledd o’r tâl pensiynadwy a dderbyniwyd yn ystod y 3 mis cyflawn, neu 12 wythnos os telir yn wythnosol, cyn dyddiad eich marwolaeth) ddod yn daladwy i’ch buddiolwyr arfaethedig, sef y rhai a enwebwyd gennych yn flaenorol ar eich ffurflen Mynegiant o Ddymuniad ar gyfer Grant Marwolaeth ac a ddangosir ar eich datganiad.
Pe baech yn dymuno gwneud neu newid eich Mynegiant o Ddymuniad, cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn neu os yw ar gael, lawrlwythwch y ffurflen oddi ar wefan y Gronfa Bensiwn.
Os NAD ydych wedi gwneud Mynegiant o Ddymuniad, gallai hynny arafu’r broses o dalu’r grant marwolaeth. Sylwch fod gan yr awdurdod gweinyddu ddisgresiwn llwyr o safbwynt i bwy y mae’r taliad hwn yn cael ei wneud.
Os oes gennych hefyd bensiwn gohiriedig, pensiwn salwch Haen 3 wedi ei ohirio neu bensiwn mewn taliad o gyfnod cynharach o aelodaeth CPLlL yng Nghymru neu Loegr, lwmp swm y grant marwolaeth a fyddai’n daladwy fyddai’r mwyaf o’r rhain pe baech yn marw’n aelod actif o ran eich cyfnod o aelodaeth actif (fel y dangosir) NEU lwmp swm y grant marwolaeth a fyddai’n ddyledus o unrhyw un o’ch buddion blaenorol. Os lwmp swm y grant marwolaeth actif sydd fwyaf, ni fydd lwmp swm y grant marwolaeth yn daladwy mewn perthynas â’r buddion blaenorol. Fodd bynnag, os bydd lwmp swm y grant marwolaeth o un o’r buddion blaenorol yn uwch, NI FYDD lwmp swm y grant marwolaeth yn cael ei dalu mewn perthynas â’ch cyfnod cyfredol o aelodaeth.
Sylwch
NID yw Lwmp Swm y Grant Marwolaeth yn daladwy yn awtomatig i’ch perthynas agosaf. Mae Lwmp Swm y Grant Marwolaeth a Phensiwn Blynyddol Goroeswr yn ddau fudd ar wahân.
Yn ychwanegol at y taliad o lwmp swm y grant marwolaeth, mae Pensiwn Blynyddol Goroeswr yn daladwy’n awtomatig i’ch priod neu’ch partner sifil cofrestredig neu, yn amodol ar amodau cymhwyso penodol, eich partner sy’n cyd-fyw cymwys, sydd wedyn yn daladwy am weddill eu hoes. Mae cyd-fyw yn golygu NAD ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil gofrestredig. Gynt roedd yn ofynnol i chi enwebu partner sy’n cyd-fyw i dderbyn pensiwn goroeswr, ond nid yw hynny’n angenrheidiol mwyach ar ôl 1 Ebrill 2014.
Er mwyn i bensiwn blynyddol goroeswr fod yn daladwy i’ch partner cymwys sy’n cyd fyw,mae’n rhaid bodloni POB un o’r amodau a ganlyn am gyfnod di-dor o 2 flynedd o leiaf cyn eich marwolaeth:
- Mae’r ddau ohonoch yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil â’ch gilydd;
- Rhaid i chi fod yn byw gyda’ch gilydd fel pe baech yn ŵr a gwraig neu bartneriaid sifil;
- Bod naill na’r llall ohonoch wedi bod yn byw gyda rhywun arall fel pe baech / baent yn ŵr a gwraig neu bartner sifil;
- Yr ydych yn ddibynnol yn ariannol neu’n gyd-ddibynnol ar eich gilydd.
Mae’n bosib y bydd pensiwn goroeswr hefyd yn dod yn daladwy i blentyn cymwys, ar yr amod ei fod yn blentyn i chi, yn blentyn mabwysiedig, yn llys-blentyn neu’n blentyn a dderbynnir fel aelod o’r teulu. Bydd pensiwn plentyn yn cael ei dalu nes ei fod yn 18 oed, neu ar ôl hynny os yw mewn addysg lawn amser barhaus neu’n dilyn cwrs hyfforddi cymeradwy am o leiaf 2 flynedd, nes ei fod yn 23 oed. Rhoddir ystyriaeth arbennig os yw’r plentyn yn anabl yn gorfforol neu’n feddyliol cyn iddo fod yn 18 oed. Os felly, bydd y pensiwn plentyn yn daladwy am gyhyd ag y mae’r anabledd yn parhau.
Mae’r pensiwn goroeswr blynyddol yn cael ei seilio ar fuddion goroeswr dan gynllun Tâl Terfynol a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2014 (os yw’n berthnasol),
ac yn cynnwys unrhyw ‘flynyddoedd ychwanegol’ o aelodaeth a brynwyd neu unrhyw Gyfraniadau Ychwanegol Rheolaidd (CYRh) sy’n cael eu gwneud sy’n cynnwys buddion goroeswr a’r buddion goroeswr sy’n ddyledus o dan y cynllun Cyfartaledd Gyrfa o 1 Ebrill 2014 (gan gymryd eich bod yn parhau i fod yn aelod actif hyd at eich OPA a bod eich tâl pensiynadwy Cyfartaledd Gyrfa yn aros yn gyson tan hynny).
Bydd y Pensiwn Blynyddol Goroeswr yn cynnwys y codiadau Cyfartaledd Gyrfa:
- TPT x 1/160fed x aelodaeth o 1 Ebrill 2014 hyd at eich OPA
Mae’r buddion goroeswr sy’n daladwy i’ch priod neu’ch partner sifil sy’n goroesi yn seiliedig ar eich cyfnod cyfan o aelodaeth o’r cynllun. Fodd bynnag;
- NI FYDD buddion goroeswr sy’n daladwy i bartner cymwys sy’n cyd-fyw yn cynnwys unrhyw aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988 (oni bai eich bod, cyn 1 Ebrill 2014, wedi dewis talu am ran neu’r cyfan o’r aelodaeth);
- NI FYDD buddion goroeswr sy’n daladwy i wraig weddw yn cynnwys unrhyw aelodaeth cyn 6 Ebrill 1978 os ydych yn priodi ar ôl ymddeol;
- NI FYDD buddion goroeswr sy’n daladwy i ŵr gweddw os ydych yn priodi ar ôl ymddeol, goroeswr o’r un rhyw os ydych yn priodi ar ôl ymddeol neu bartner sifil o bartneriaeth sifil os ydych yn priodi ar ôl ymddeol yn cynnwys aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988.
Adran 8
Rhagamcan o Fuddion CPLlL hyd at eich OPA
Mae eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA) a ddangosir o dan yr adran hon yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (OPW) – o leiaf 65 mlwydd oed, ac felly gall newid yn y dyfodol. Fodd bynnag, yr ydych yn gallu ymddeol yn wirfoddol o pan ydych yn 55 oed, ond efallai y bydd eich buddion yn cael eu lleihau os cânt eu talu cyn eich OPA. NID yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn eich datganiad. Gellwch aros yn y cynllun tan 2 ddiwrnod cyn eich pen-blwydd yn 75 oed, ond mae’n rhaid i’ch buddion gael eu talu cyn i chi fod yn 75 oed. Os oeddech chi dros eich OPA ar 31 Mawrth 2021, mae’r codiad ar sail ymddeoliad hwyr wedi cael ei gynnwys yn eich datganiad.
Mae’r rhagamcan i’ch OPA wedi cael ei selio ar eich Tâl Pensiynadwy Cyfartaledd Gyrfa a’ch Tâl Cyflog Terfynol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 (os yw hynny’n berthnasol) ac NID yw’n darparu ar gyfer unrhyw newidiadau yn eich tâl pensiynadwy yn y dyfodol. Cymerir yn ganiataol y byddwch yn parhau i gyfrannu at yr un adran o’r CPLlL tan eich OPA ac y bydd eich Tâl Pensiynadwy Cyfartaledd Gyrfa a Thâl Cyflog Terfynol yn aros yn gyson.
(Sylwch: Pan fyddwch yn gadael, bydd buddion eich Tâl Terfynol cyn 2014 yn cael eu seilio ar eich tâl cyfwerth llawn amser ar y pryd, o dan y diffiniad o dâl yng Nghynllun 2008, ac NID yw’n cynnwys goramser di-gontract neu oriau ychwanegol).
Mae’r adran hon yn dangos Rhagamcan o’ch Buddion Safonol, a ddangosir fel
Dewis 1,a mae Dewis 2 yn dangos eich Uchafswm Lwmp Swm. Eich rhagamcaniad o Fuddion Safonol yw cyfanswm o ragamcan o’ch pensiwn CG a rhagamcan o’ch pensiwn Cyflog Terfynol (C).
Os daethoch yn aelod ar neu cyn 31 Mawrth 2014, ychwanegwyd cynnydd at eich Buddion Safonol i adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng eich hen OPA yng Nghynllun 2008 a’ch OPA ar hyn o bryd yng Nghynllun 2014 (os yw’n wahanol). Mae’r cynnydd hwn wedi cael ei seilio ar ffactorau a ddarparwyd gan Adran Actwari’r Llywodraeth (GAD), a all newid yn y dyfodol.
Os ydych yn cyfrannu tuag at CPY / CPYCRh neu ‘flynyddoedd ychwanegol’ / trefniant CRhY, yna mae gwerth llawn eich cytundeb wedi cael ei gynnwys yn eich rhagamcan.
Er mwyn dangos rhagamcan o bensiwn blynyddol goroeswr (D) o dan yr adran hon, mae eich statws partneriaeth wedi ei gymryd i fod yn Briod neu mewn Partneriaeth Sifil. Os ydych yn Sengl, NI fydd pensiwn blynyddol goroeswr yn daladwy pan fyddwch farw.
Mae eich Rhagamcan o Pensiwn Blynyddol Goroeswr (D) wedi’i seilio ar fuddion goroeswyr dan gynllun Tâl Terfynol a gronnwyd at 31 Mawrth 2014 (os yw’n berthnasol) a’r buddion goroeswr sy’n ddyledus o dan y Cynllun Cyfartaledd Gyrfa o 1 Ebrill 2014, gan gymryd eich bod yn parhau i fod yn aelod actif tan eich OPA.
Mae’r pensiwn blynyddol goroeswr sy’n daladwy i’ch priod neu bartner sifil yn seiliedig ar eich holl aelodaeth yn y cynllun. Fodd bynnag, NI fyddai pensiwn sy’n daladwy i Bartner Cymwys sy’n Cyd-fyw yn cynnwys unrhyw aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988 (oni bai eich bod, cyn 1 Ebrill 2014, wedi dewis prynu rhywfaint neu’r cyfan o’ch aelodaeth yn ôl, er mwyn iddo gyfrif tuag at y cyfrifiad hwn).
Adbrisio eich Cyfrif Pensiwn Cyfartaledd Gyrfa
Yn unol â Gorchmynion Ailbrisio Trysorlys EM, mae adbrisiad o 6.7% wedi’i gymhwyso i gyfrif eich pensiwn Cyfartaledd Gyrfa fel yr oedd ar 6 Ebrill 2024. Dyma oedd ffigwr Mynegrif Defnyddwyr (MD) a gyhoeddwyd yn Hydref 2023 ar gyfer Medi 2023. Fodd bynnag, sylwch nad oes DIM rhagdybiaeth wedi’i wneud ar gyfer chwyddiant dan Orchmynion Adbrisio Trysorlys EM ar gyfer cronni buddion Cyfartaledd Gyrfa yn y dyfodol.
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Pryd y byddaf yn gymwys ar gyfer buddion yn y cynllun?
Os ydych wedi ymuno â’r CPLlL ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014, heb ddim cyfnod cynharach o aelodaeth CPLlL yng Nghymru neu Loegr a heb drosglwyddo unrhyw hawliau blaenorol i’r CPLlL, bydd RHAID i chi gronni 2 flynedd o aelodaeth yn y cynllun er mwyn bod yn gymwys i gael buddion. Mae’r rhagamcanion a wnaed ar eich datganiad, felly, yn cymryd yn ganiataol y byddwch yn parhau i gyfrannu at y CPLlL neu eich OPA.
A yw fy natganiad yn ystyried unrhyw ostyngiad ymddeoliad cynnar?
Os oeddech dros 55 mlwydd oed ar 31 Mawrth 2024, NID yw eich buddion yn cynnwys unrhyw ostyngiad ymddeoliad cynnar perthnasol pe baech yn ymddeol cyn eich OPA.
A yw fy natganiad yn cynnwys cynnydd ymddeoliad hwyr?
Os ydych chi wedi mynd heibio eich OPA ar 31 Mawrth 2024, mae cyfanswm gwerth eich buddion ar 31 Mawrth 2024 yn cynnwys unrhyw gynnydd ar sail ymddeoliad hwyr sy’n daladwy yn unol â ffactorau actiwaraidd cyfredol, a allai newid yn y dyfodol. Hefyd, mae Adran 8, h.y. rhagamcan i’ch OPA, wedi cael ei adael yn wag yn fwriadol.
Beth os ydwyf yn cyfrannu at y CPLlL o dan gyflogaeth arall?
Byddwch yn derbyn datganiad ar wahân mewn perthynas â phob un o’ch cyflogaeth pensiynadwy.
Beth os gennyf fuddion gohiriedig yn y CPLlL hefyd?
Byddwch yn derbyn datganiad ar wahân ar gyfer unrhyw fuddion gohiriedig sydd gennych mewn perthynas â chyfnod cynharach o aelodaeth CPLlL.
A allai dalu mwy i gynyddu fy muddion?
Mae dau ddewis mewnol ar gael i chi. Gallwch naill ai wneud Cyfraniadau
Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) neu gallwch ddewis i brynu pensiwn ychwanegol drwy wneud Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY). Am ragor o wybodaeth am yr opsiynau hyn, cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn.
Pam dangosir ‘dim’ ar gyfer fy Lwfans Blynyddol (Swm Mewnbwn Pensiwn)?
Wrth asesu yn unol â rheoliadau CThEM, mae’r cynnydd yng ngwerth eich buddion fel yr oedd ar 5 Ebrill 2023 (wedi’i uwchraddio er mwyn bod yn gyson â’r mynegai costau byw priodol) yn fwy na’r cyfrifiad a wnaed ar 5 Ebrill 2024.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn gallu gweithio oherwydd salwch?
Os ydych wedi bod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch a’ch bod wedi derbyn llai o dâl neu ddim tâl o ganlyniad, NI chaiff hynny unrhyw effaith ar y pensiwn rydych yn ei gronni. Os yw eich cyflogaeth wedyn yn dod i ben ar sail salwch parhaol, bydd eich buddion ymddeol yn dod yn daladwy’n syth heb ostyngiad ar ôl derbyn ardystiad gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol (YMCA) a benodir gan naill ai eich Cyflogwr neu’r Gronfa Bensiwn. Am ragor o wybodaeth am y broses salwch, cysylltwch â’ch Cyflogwr.
A yw fy nidyniadau Gorchymyn Rhannu Pensiwn / Cynllun yn Talu wedi eu cynnwys?
Mae’r datganiad yn dangos gwerth cyfredol eich debyd Gorchymyn Rhannu Pensiwn (GRhP) (ysgariad) a / neu’r Cynllun Lwfans Blynyddol Yn talu debyd o dan Adran 3. Mae’r buddion a ddangosir o dan Adran 6 ac Adran 8 wedi’u haddasu i ystyried y debydau a ddangosir o dan Adran 3. Cyfeiriwch at y canllawiau ar gyfer Adran 3 am wybodaeth bellach.
Sut fydd Ddyfarniad McCloud yn effeithio ar CPLlL?
Pan newidiodd yr CPLlL o gyflog terfynol i gynllun pensiwn cyfartalog gyrfa yn 2014, cyflwynwyd amddiffyniadau i aelodau hŷn y cynllun (y cyfeirir atynt fel tanategiad). Darparwyd amddiffyniadau tebyg mewn cynlluniau pensiwn eraill yn y sector cyhoeddus. Dyfarnodd y Llys Apêl fod camwahaniaethu ar aelodau iau cynlluniau Pensiwn y Barnwyr a’r Diffoddwyr Tân oherwydd nad yw’r amddiffyniadau’n berthnasol iddynt. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau i holl brif gynlluniau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys yr CPLlL, i gael gwared ar y camwahaniaethu ar sail oedran. Yn aml, gelwir y dyfarniad hwn yn ddyfarniad McCloud.
Mae’r Llywodraeth yn dal i ystyried yn union pa newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud i gael gwared ar y camwahaniaethu o’r CPLlL. Mae hyn yn golygu NAD oedd yn bosibl adlewyrchu effaith y dyfarniad yn eich datganiad buddion blynyddol eleni. Os ydych chi’n gymwys i gael eich amddiffyn, bydd yn berthnasol yn awtomatig – nid oes angen i chi wneud cais.
I gael mwy o wybodaeth am ddyfarniad McCloud, gweler y cwestiynau cyffredin ar wefan genedlaethol CPLlL: www.lgpsmember.org/news/latest.php
Ble alla i gael arweiniad ynglŷn â’m Pensiwn?
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y CPLlL ar wefan y Gronfa, ond ni all y Gronfa Bensiwn ddarparu unrhyw gyngor ariannol i chi. Fodd bynnag, gallwch gyfeirio at y gwasanaeth MoneyHelper newydd, a sefydlwyd yn ddiweddar gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS). Mae’r gwasanaeth MoneyHelper bellach wedi cymryd drosodd o’r Gwasanaeth Cyngor Arian, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth MoneyHelper, ewch i’w gwefan: www.moneyhelper.org.uk/cy/
Mae’r dolenni ar y dudalen hon ar gyfer gwefannau allanol ac mae’n bosib nad oes fersiynau Cymraeg ar gael.

