Cofrestru gam wrth gam
Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i gofrestru ar gyfer y Porth Pensiwn Hunanwasanaeth i Aelodau. Mae’n berthnasol os oes gennym eich cyfeiriad e-bost ar ôl ymdrech flaenorol i gofrestru.
✅ Yr hyn y bydd ei angen arnoch cyn i chi ddechrau
Dylai’r canlynol fod wrth law:
- Eich cyfenw (fel y mae’n ymddangos yn ein cofnodion)
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol
- Eich dyddiad geni (fformat DD/MM/BBBB)
- Porwr gwe modern (e.e. Chrome, Edge, Firefox, Safari)
- Mynediad at eich mewnflwch e-bost
📌 Awgrym: I gael y profiad gorau, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur neu ffôn clyfar modern.
🖥️ Cofrestru Gam wrth Gam
🔹 Cam 1: Ewch i’r dudalen Mewngofnodi
Ewch i:
👉 Mewngofnodi i’r Hunanwasanaeth i Aelodau
Cliciwch ar yr adran “Creu cyfrif” islaw’r blychau mewngofnodi

🔹 Cam 2: Derbyn Telerau Defnyddio Data
Sgroliwch i lawr i ddod o hyd i’r adran “Defnydd o ddata personol”.
- Ticiwch y blwch: “Rwy’n deall bod y wefan hon yn defnyddio fy nata personol.”
- Cliciwch ar “Gadewch i ni ddechrau”

🔹 Cam 3: Cadarnhau eich manylion personol
Nodwch eich:
- Cyfenw
- Dyddiad geni (DD/MM/BBBB)
- Rhif Yswiriant Gwladol
Cliciwch ar “Cyflwyno”

🔍 Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae’r system yn gwirio a yw eich manylion yn cyfateb i’n cofnodion. Bydd un o ddau beth yn digwydd:
- ✅ Os yw eich cyfeiriad e-bost gennym → parhewch i greu cyfrinair
- ❌ Os nad yw eich cyfeiriad e-bost gennym → nid yw’r arweiniad hwn yn berthnasol. Cysylltwch â ni (gweler Manylion Cymorth isod).
✅ Parhewch â’r broses gofrestru (e-bost ar gael)
🔹 Cam 4: Gwiriwch eich mewnflwch
Byddwch yn cael e-bost sy’n cynnwys:
- Dolen i greu cyfrinair newydd
📌 Dim e-bost?
- Gwiriwch eich ffolder sbwriel/sbam
- Os na allwch ddod o hyd iddo o hyd, rhowch gynnig arall arni neu cysylltwch â ni

🔹 Cam 5: Gosod cyfrinair diogel
Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost. Byddwch yn cyrraedd y dudalen “Creu cyfrinair newydd”.
Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys y canlynol:
- O leiaf 8 nod
- 1 briflythyren (A–Z)
- 1 lythyren fach (a–z)
- 1 rhif (0–9)
- 1 nod arbennig (e.e. !, %, $, &)
✅ Awgrym: Defnyddiwch gyfrinair cryf, fel RiverBlue!Apple92.

🔹 Cam 6: Dilysu Dau Gam
- A wnewch chi gadarnhau’r rhif ffôn symudol yr hoffech ei ddefnyddio at ddibenion cadarnhau.
- Byddwch yn derbyn côd 6 digid drwy neges destun.
- Nodwch y côd ar y sgrin
- Cliciwch i ddilysu neu barhau

🔹 Cam 7: Rydych wedi llwyddo!
Ar ôl cadarnhau’r côd, byddwch yn cyrraedd dangosfwrdd eich cyfrif.

📞 Manylion Cymorth
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau, rydym yma i helpu.
Cysylltu â’r Tîm Pensiynau:
- 📧 E-bost: pensiynau@abertawe.gov.uk
- 📞 Ffôn: 01792 636655
- 🕒 Oriau: Dydd Llun – dydd Gwener, 9.00 AM – 4.00 PM
Rhesymau cyffredin dros gysylltu â ni:
- Nid oes gennych fynediad at y cyfrif e-bost sydd gennym
- Rydych yn cael negeseuon gwallwrth gofrestru
- Nid ydych yn derbyn y ddolen ailosod
🔍 Awgrymiadau ynghylch Hygyrchedd
- A ydych yn defnyddio rhaglen darllen sgrin? Mae’r porth hwn yn addas ar gyfer rhaglenni darllen sgrin.
- A oes gennych fysellfwrdd yn unig? Mae modd defnyddio’r holl feysydd a botymau drwy ddefnyddio’r fysell Tab.
- A yw’r testun yn rhy fach? Chwyddwch y testun gan ddefnyddio Ctrl + (Windows) neu Cmd + (Mac).
- Cyferbynnedd uchel? Mae’r porth yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o estyniadau pori mewn modd tywyll neu gyferbynnedd uchel.
📱 A yw’n addas i ffonau symudol?
Ydy! Mae’r porth yn gweithio ar y rhan fwyaf o ffonau clyfar a thabledi.
⚠️ Sylwer: Efallai y bydd golwg gwell ar rai sgriniau ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.
Er hwylustod gwe-lywio, newidiwch osodiadau eich ffôn i Landscape.
💡 Awgrymiadau olaf
- Ewch ati i ysgrifennu eich cyfrinair a’i gadw mewn man diogel.
- Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr.
- Rhowch nod tudalen ar y dudalen Mewngofnodi i gael mynediad cyflym y tro nesaf.
- Gosodwch hidlyddion eich cyfrif e-bost i sicrhau bod negeseuon y porth yn cyrraedd eich mewnflwch.

