Mae Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein yn rhoi cyfle i aelodau Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe weld yr wybodaeth am eu pensiwn ar unrhyw adeg.
Gall aelodau cyfredol, gohiriedig neu bensiynwyr y cynllun weld a diweddaru gwybodaeth sylfaenol, cael mynediad i ffurflenni perthnasol a derbyn yr holl gyhoeddiadau’n syth, gan gynnwys datganiadau buddion blynyddol, cylchlythyrau a ffeithlenni.
Mae’r system yn dal data cyfredol ac mae’n golygu gall aelodau’r cynllun gael y data diweddaraf sy’n cael ei ddefnyddio gan y Gronfa Bensiwn. Bydd aelodau’n gallu cyfrifo’r buddion pan fydd hi’n gyfleus iddyn nhw, i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad.
I gofrestru ar gyfer Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein, cliciwch yma a chwblhewch y manylion ‘cofrestru’.
Neu gallwch ffonio Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 01792 635566 neu e-bostiwch pensiynau@abertawe.gov.uk.
Yna bydd eich allwedd actifadu’n cael ei hanfon i’ch cyfeiriad cartref a bydd rhaid i chi fewngofnodi i ‘Fy Mhensiwn ar-lein’ drwy’r dudalen hon neu’r ddolen a ddarperir ar y llythyr hwn.
Cynhelir sesiynau gwybodaeth i aelodau ar Microsoft Teams
Bydd y sesiynau hyn yn darparu gwybodaeth am sut i wneud y canlynol:
- Mewngofnodi i Fy Mhensiwn Ar-lein
- Amcangyfrif fy mhensiwn ar ddyddiad neu oedran penodol
- Newid fy manylion personol
- Gweld fy Natganiad Buddion Blynyddol
- Deall fy Natganiad Buddion Blynyddol
Maent ar gael ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Iau 3 Ebrill 2025, 12.00pm
- Dydd Llun 2 Mehefin 2025, 4.00pm
- Dydd Mawrth 5 Awst 2025, 10.00am
- Dydd Gwener 3 Hydref 2025, 12.00pm
- Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025, 4.00pm
Bydd y sesiynau 30 munud ar Teams yn cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer sesiwn byddwch yn derbyn dolen ar gyfer y cyfarfod Teams drwy e-bost ychydig ddiwrnodau cyn i’r sesiwn gael ei chynnal.