Cafwyd newidiadau i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer gweithwyr yng Nghymru a Lloegr o 1 Ebrill 2014.
Os oeddech eisoes yn talu i mewn i’r LGPS ar 31 Mawrth 2014, cawsoch eich trosglwyddo’n awtomatig i’r cynllun newydd ar 1 Ebrill 2014.
Mae’r prif wahaniaethau rhwng cynlluniau 2014 a 2008 wedi’u rhestru isod.
LGPS 2014 | LGPS 2008 | |
Sail y pensiwn | Ailbrisio Enillion Cyfartalog Gyrfa (CARE) | Cyflog Terfynol |
Cyfradd Gronnus | 1/49 | 1/60 |
Cyfradd Ailbrisiad | Gorchymyn Ailbrisio’r Trysorlys (CPI) | Seiliedig ar Gyflog Terfynol |
Tâl Pensiynadwy | Tâl yn cynnwys goramser nad yw dan gontract oriau ychwanegol a weithiwyd | Tâl heb goramser nad yw dan gontract oriau ychwanegol amhensiynadwy |
Cyfraddau Cyfraniadau | 9 band cyfraniadau | 7 band cyfraniadau |
Hyblygrwydd Cyfraniadau | Adran 50/50 | Dim byd |
Oedran Pensiwn Arferol | Yn gyfwerth ag oedran pensiwn y wladwriaeth | 65 oed |
Oedran Ymddeol yn Wirfoddol Cynharaf | 55 oed | 60 oed |
Cyfnod Breinio | 2 flynedd | 3 mis |
Newidiodd y cynllun hefyd yn 2008. Os oeddech yn aelod o’r LGPS ar 31 Mawrth 2008, byddwch yn cael eich trsoglwyddo’n awtomatig i’r cynllun newydd ar 1 Ebrill 2008. I gymharu cynlluniau 1997 a 2008, cliciwch yma.