Os oeddech yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Ebrill 2014, bydd eich buddion ymddeol o ran aelodaeth hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2014 yn seiliedig ar eich tâl terfynol (neu gyfwerth amser llawn os ydych yn gweithio rhan-amser).
Fel arfer y tâl pensiynadwy y byddwch yn ei dderbyn ym mlwyddyn olaf eich gwasanaeth neu un o’r ddau dâl o’r ddwy flynedd flaenorol os yw’n well. Fodd bynnag, gall gostyngiad/cyfyngiad i’ch cyflog neu ddiddymu unrhyw daliadau ychwanegol parhaol lle gwneir cyfraniadau olygu gostyngiad yn swm eich buddion pensiwn.
Dan reolau’r cynllun, fodd bynnag, mae’n bosib diogelu aelodau sydd wedi cael gostyngiad/cyfyngiad mewn cyflog mewn rhai amgylchiadau.
Lle mae tâl pensiynadwy aelod mewn cyfnod parhaus o gyflogaeth wedi’i leihau neu ei gyfyngu
- oherwydd bod aelod yn dewis cael ei gyflogi gan yr un cyflogwr ar radd is neu â llai o gyfrifoldeb;
- at ddibenion cyflawni cyflog cyfartal mewn perthynas â gweithiwyr eraill y cyflogwr hwnnw;
- o ganlyniad i ymarfer gwerthuso swyddi;
- oherwydd newid i gontract cyflogaeth yr aelod o ganlyniad i derfyn neu gyfyngiad, neu ostyngiad mewn taliadau neu fuddion yng nghontract cyflogaeth yr aelod fel enillion pensiynadwy; neu
- oherwydd gall cyfradd gyflog yr aelod sy’n cynyddu gael ei gyfyngu mewn ffordd sy’n debygol o effeithio ar gyfradd pensiwn ymddeoliad yr aelod, gall yr aelod ddewis cyfrifo ei gyflog terfynol ar gyfartaledd unrhyw 3 blynedd yn olynol yn y 13 mlynedd diwethaf (yn dod i ben ar 31 Mawrth).
Ni fydd hyn yn gymwys os yw’r
- aelod yn cael y gostyngiad/cyfyngiad gyda mwy na 10 mlynedd i ymddeol/gadael y cynllun;
- derbyn y gyfradd uchaf o gyflog o ran y cynnydd dros dro; neu’n
- dewis lleihau ei oriau gwaith neu gael ei gyflogi ar raddfa is, at ddibenion ymddeoliad hyblyg.