Ymeithrio
Os ydych yn gymwys i fod yn aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS), byddwch yn dod yn aelod awtomatig ohono oni bai eich bod wedi’ch cyflogi gan gorff dynodedig neu gorff cydnabyddedig lle mae’n rhaid i chi ethol i ymuno. Gallwch adael yr LGPS ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’ch cyflogwr. Mae’r ffurflen ymeithrio ar gael o’r Adran Bensiynau neu o’r wefan hon a bydd fel arfer yn dod i rym o’r cyfnod talu nesaf sydd ar gael ar ôl i’r dewis gael ei dderbyn.
Fe’ch argymhellir i gael cyngor ariannol annibynnol cyn penderfynu ymeithrio o LGPS.
Os ydych yn ymeithrio o fewn tri mis o ymuno, cewch eich trin fel pe na baech wedi bod yn aelod o’r LGPS yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd y cyfraniadau rydych wedi’u talu yn cael eu had-dalu gan eich cyflogwr, namyn unrhyw ddidyniadau treth a chost eich prynu’n ôl i’r Ail Gynllun Pensiwn Gwladol (S2P).
Os byddwch yn ymeithrio ar ôl tri mis ond o fewn dwy flynedd ar ôl ymuno, mae hawl gennych i ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn. Os oes gennych aelodaeth o fwy na dwy flynedd neu os ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol, neu mae eisoes gennych bensiwn gohiriedig neu bensiwn i’w dalu gyda Chronfa LGPS arall yng Nghymru neu Lloegr, mae gennych hawl i fuddion gohiriedig.
Gallwch ailymuno â’r LGPS yn ddiweddarach os dymunwch.
Ad-dalu Cyfraniadau
Os ydych yn gadael, neu’n ymeithrio â llai na thri mis o aelodaeth, heb dalu am drosglwyddo i’r LGPS ac nid oes gennych bensiwn gohiriedig neu bensiwn i’w dalu eisoes gydag LGPS arall yng Nghymru a Lloegr, gallech gael ad-daliad o’ch cyfraniadau namyn unrhyw ddidyniadau treth a chost eich prynu nôl i mewn i’r Ail Gynllun Pensiwn Gwladol (S2P).
Os ydych chi o fewn 12 mis i’ch Oedran Pensiwn Arferol ac rydych chi wedi gwneud cyfraniadau i’ch pensiwn yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ydych chi’n gymwys i gael ad-daliad o gyfraniadau.
Os ydych yn ymeithrio ar ôl tri mis, mae hawl gennych i gael pensiwn gohiriedig.
Buddion Gohiriedig
Os byddwch yn gadael cyn yr oedran pensiwn arferol ac mae gennych o leiaf ddwy flynedd o aelodaeth LGPS neu rydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol, neu mae eisoes gennych bensiwn gohiriedig neu bensiwn i’w dalu gyda Chronfa LGPS arall yng Nghymru neu Lloegr, bydd hawl gennych i fuddion gohiriedig yn yr LGPS.
Trosglwyddo eich buddion
Fel arall, gallech drosglwyddo’ch buddion pensiwn i:
- Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol arall
- Os ydych yn ailymuno â’r LGPS gyda chyflogwr newydd, gallwch drosglwyddo’ch aelodaeth LGPS i’ch aelodaeth LGPS newydd.
- Dim ond 12 mis sydd gennych o ailymuno â’r LGPS i ddewis trosglwyddo aelodaeth LGPS flaenorol, oni bai bod eich cyflogwr yn caniatáu i chi gael mwy o amser
- Cynllun pensiwn eich cyflogwr newydd (os ydynt yn fodlon ac yn gallu ei dderbyn)
- Pensiwn personol.
Ymddeoliad
Os oes gennych fwy na 2 flynedd o aelodaeth LGPS neu os ydych wedi trosglwyddo unrhyw hawliau pensiwn blaenorol, pan fyddwch yn ymddeol, bydd gennych hawl i gael pensiwn mynegrifol wedi’i warantu am oes.
Cliciwch yma i weld sut y cyfrifir eich buddion.