Os ydych yn marw yn eich swydd, telir cyfandaliad grant marwolaeth cyfwerth â 3 gwaith eich tâl terfynol, ni waeth pa mor hir oedd eich aelodaeth o’r LGPS.
Enghraifft
Roedd Tom yn gweithio amser llawn a bu farw ar 1 Medi 2012. Tybiodd fod ei dâl pensiynadwy blynyddol yn £18,000. Y grant marwolaeth sy’n daladwy yw: £18,000 x 3 = £54,000
Sylwer
Os oes gennych fuddion o gyfnod cynharach o aelodaeth LGPS, bydd y grant marwolaeth a delir yn fwy na’r grant marwolaeth o ran eich cyfnod aelodaeth gweithredol, neu’r grant marwolaeth o ran eich buddion blaenorol, pa un bynnag sydd fwyaf.
Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth
Gallwch ddiweddaru eich Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth eich hun gan ddefnyddio Fy Mhensiwn Ar-lein.
Mae’r LGPS yn caniatáu i chi ddweud i bwy yr hoffech i unrhyw grant marwolaeth gael ei dalu ar eich marwolaeth drwy lenwi Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth.
Mae’r Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth yn caniatáu i chi enwebu un person neu fwy, neu sefydliad, i dderbyn y grant marwolaeth.
Os byddwch yn marw, caiff Cronfa Bensiwn DASA ei harwain gan unrhyw enwebiad ond, mae’n cadw’r disgresiwn llwyr i benderfynu i bwy y dylid talu unrhyw gyfandaliad grant marwolaeth sy’n daladwy yn ôl rheoliadau’r LGPS ac ym mha gyfrannau.
Os nad ydych wedi enwi buddiolwr, neu os hoffech ddiweddaru’r manylion sydd wedi’u cofnodi, gallwch lawrlwytho Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth. Caiff manylion y buddiolwr a enwyd gennych eu cynnwys ar eich datganiad blynyddol o fuddion ac mae’n bwysig i chi wirio’r rhain a sicrhau eu bod yn gywir ac yn gyfoes.
Efallai yr hoffech chi lenwi ffurflen enwebiad Grant Marwoleth (link to form) newydd i newid unrhyw fuddiolwyr blaenorol ar y pwynt hwn. Gallwch fynd i wefan y Gronfa Bensiwn i lawrlwytho’r ffurflen hon yn: Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol ac Yswiriant Bywyd Ychwanegol
Pan fydd aelod yn marw yn ei swydd ac roedd yn talu CGY neu’n prynu yswiriant bywyd ychwanegol gan un o ddarparwyr CGY mewnol y gronfa, bydd y gronfa’n trefnu i’r CGY sydd wedi cronni, neu swm yr yswiriant bywyd gael ei dalu, yn yr un gyfran, i’r un buddiolwyr a enwebwyd i dderbyn y grant marwolaeth a delir o’r LGPS.