- Cyflwyniad
- Rhan 1. Y CPLlL
- A ydych chi’n ystyried Ymddeol o’r CPLlL?
- A fydd fy muddion yn cael eu lleihau pe byddwn yn penderfynu ymddeol cyn fy Oed Pensiwn Arferol (OPA)?
- Alla i barhau i weithio ar ôl fy OPA?
- Alla i barhau i weithio gan symud tuag at ymddeoliad yn raddol?
- Sut y cyfrifir fy muddion?
- Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
- Aelodaeth o 1 Ebrill 2014
- Enghraifft 1 – Cyfrifo buddion CPLlL
- Tabl 1: Buddion a gronnwyd yn y cynllun cyfartaledd gyrfa o 1 Ebrill 2014
- Dewis cyfnewid rhan o’ch pensiwn am gyfandaliad di-dreth
- Sut bydd fy nghyfandaliad yn cael ei dalu?
- Ailgylchu
- Cynyddu fy mhensiwn
- Cyfraniadau pensiwn ychwanegol (CPY)
- Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY) mewnol
- Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol rhydd (CGYRh)
- Pensiynau personol neu bensiynau rhanddeiliaid
- Dulliau rheoli treth a’ch pensiwn
- Beth os ydwyf yn ymddeol oherwydd salwch?
- Beth os caf fy ngwneud yn ddi-waith neu mae fy swydd bresennol yn dod i ben oherwydd effeithlonrwydd?
- Cymryd eich pensiwn CPLlL – y broses
- A allaf fforddio ymddeol?
- Eich Pensiwn CPLlL
- Faint o rybudd y bydd angen i mi ei roi?
- A allaf gael amcangyfrif o’m buddion?
- Cael cymorth pellach
- A ydw i wedi cysylltu â’m holl ddarparwyr pensiwn eraill?
- Ar ôl eich Ymddeoliad
- Sut a phryd bydd fy mhensiwn yn cael ei dalu?
- Beth os ydwyf yn penderfynu byw dramor?
- Beth os yw fy manylion yn newid?
- Treth Incwm
- Ailbrisio’ch Pensiwn
- Slip tâl pensiwn
- Hysbysiad P60
- Cyflogaeth arall
- Marwolaeth mewn Ymddeoliad
- Buddion Goroeswr
- Cymorth os oes gennych ymholiad neu gŵyn
- Rhan 2 – Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall
- Cynlluniwr Cyllideb
- Sut i ddarganfod mwy
- Diogelu Data
- Ymwadiad
Cyflwyniad
Mae’r canllaw hwn yn egluro mewn termau syml, y trefniadau ar gyfer taliad eich buddion pensiwn ar eich ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) dan eich cyflogaeth gyfredol.
Mae rhan un y canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y CPLlL. Mae’n cwmpasu’r amddiffyniad ariannol y mae’r CPLlL yn ei gynnig i chi a’ch teulu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ymddeol a’r penderfyniadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud.
Mae rhan dau yn edrych yn ehangach ar faterion a allai effeithio arnoch chi ar ôl ymddeol. Rydym wedi cynnwys gwybodaeth am drethiant a Phensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i ddolenni a manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau a all eich cefnogi.
Pwrpas y canllaw hwn yw cynorthwyo aelodau gyda’u cynllunio ymddeol. Ni ddylid ei ddefnyddio yn lle cyngor ariannol. Os oes angen cyngor ariannol arnoch, dylech benodi cynghorydd ariannol annibynnol.
Rhan 1. Y CPLlL
A ydych chi’n ystyried Ymddeol o’r CPLlL?
Fel aelod o’r CPLlL mae gennych nifer o ddewisiadau wrth ymddeol. Tra bod eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA) yn y Cynllun yn gyfartal â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (OPW), mae gennych hyblygrwydd i ymddeol yn wirfoddol o 55 oed, ond gallwch hefyd barhau yn y Cynllun ar ôl eich OPA, ar yr amod bod eich buddion yn daladwy cyn 75 oed. Mae gennych hefyd yr opsiwn o ymddeol yn hyblyg gyda disgresiwn eich Cyflogwr o 55 oed. Sylwer y bydd unrhyw gynnydd i’ch OPW yn y dyfodol yn golygu cynnydd i’ch OPA.
*Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yr oedran isaf arferol ar gyfer pensiwn yn cynyddu i 57 oed o 6 Ebrill 2028.
Ar ôl ymddeol byddwch yn derbyn pensiwn blynyddol mynegrifol sy’n daladwy am oes, cyfandaliad di-dreth awtomatig (os daethoch yn aelod ar neu cyn 31 Mawrth 2008), a’r dewis i gyfnewid pensiwn am arian parod di-dreth.
A fydd fy muddion yn cael eu lleihau pe byddwn yn penderfynu ymddeol cyn fy Oed Pensiwn Arferol (OPA)?
Gall eich buddion gael eu lleihau er mwyn ystyried taliad cynnar. Fodd bynnag os oeddech yn aelod o’r Cynllun ar neu cyn 30 Medi 2006, gallai cyfran neu’r cyfan o’ch buddion gael eu diogelu rhag unrhyw leihad. Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch at daflen wybodaeth y rheol 85 mlynedd sydd ar gael gan y Gronfa Bensiwn.
Sylwer, dan reoliadau cyfredol, NID yw’r lleihad yn berthnasol o 55 oed os ydych yn colli’ch swydd neu’n gorfod ymddeol yn gynnar ar sail effeithiolrwydd ar gais eich cyflogwr.
Dangosir lefel y lleihad a gymhwysir ar daliadau buddion cynnar sydd ar waith ar hyn o bryd drosodd.
Nifer y blyn. y’i talwyd yn gynnar | Lleihad Pensiwn Blynyddol | Lleihad cyfandaliad Awtomatig |
1 | 4.9% | 1.7% |
2 | 9.3% | 3.3% |
3 | 13.5% | 4.9% |
4 | 17.4% | 6.5% |
5 | 20.9% | 8.1% |
6 | 24.3% | 9.6% |
7 | 27.4% | 11.1% |
8 | 30.3% | 12.6% |
9 | 33.0% | 14.1% |
10 | 35.6% | 15.5% |
11 | 39.5% | DB |
12 | 41.8% | DB |
13 | 43.9% | DB |
Alla i barhau i weithio ar ôl fy OPA?
Os ydych yn parhau i weithio ar ôl eich OPA, gallwch barhau i gyfrannu i’r CPLlL a chronni buddion pellach hyd nes y byddwch yn dewis ymddeol neu’n cyrraedd 75 oed. Telir eich pensiwn ar raddfa gynyddol i adlewyrchu y caiff ei dalu dros gyfnod llai. Dylech siarad â’ch cyflogwr ynglŷn â gweithio y tu hwnt i’ch OPA.
Alla i barhau i weithio gan symud tuag at ymddeoliad yn raddol?
Mae’n bosibl i chi dderbyn yr holl fuddion pensiwn rydych wedi’u casglu hyd yma a pharhau i weithio, ar yr amod eich bod un ai’n lleihau’r oriau rydych yn eu gweithio neu’n symud i swydd ar raddfa is, cyhyd ag yr ydych yn 55 oed neu’n hŷn a bod gennych ganiatâd eich cyflogwr i wneud hynny. Adnabyddir hyn fel ymddeoliad hyblyg.
Dylech sylwi hefyd y gellir lleihau eich buddion i adlewyrchu taliad ymddeoliad cynnar (ar ddisgresiwn eich cyflogwr).
Sut y cyfrifir fy muddion?
Ni fydd y buddion pensiwn rydych wedi’u cronni ers 1 Ebrill 2014 bellach yn gysylltiedig â’ch cyflog terfynol. Yn hytrach bydd y buddion o’r dyddiad hwn yn cael eu cyfrifo ar Gyfartaledd eich Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio (Cyfartaledd Gyrfa). Fodd bynnag, os oes gennych aelodaeth yn y cynllun ar neu cyn 31 Mawrth 2014, bydd eich buddion cyflog terfynol yn cael eu diogelu a byddent yn parhau i gael eu cyfrifo gan gyfeirio at eich cyflog pensiynadwy pan fyddwch yn ymddeol.
Cyfrifir yr elfen Cyflog Terfynol a GOFAL o’ch buddion ar wahân pan fyddwch yn ymddeol. Fodd bynnag, bydd cyfanswm cyfunol y ddau yn creu cyfanswm gwerth eich buddion CPLlL.
Mae amddiffyniad pellach wedi’i roi i aelodau a oedd o fewn 10 mlynedd o’u Hoedran Ymddeol Arferol (65 oed fel rheol) ar 1 Ebrill 2012 h.y. y rheini dros 55 oed ar 1 Ebrill 2012. Os ydych yn y categori hwn, bydd eich buddion pensiwn pan fyddwch yn ymddeol yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau nad ydych ar eich colled ar ôl cyflwyno’r CPLlL 2014 o 1 Ebrill 2014.
Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau’n cael eu gwneud i’r holl brif gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys y CPLlL, i gael gwared ar y gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail oedran a nodwyd yn nyfarniad McCloud.
Yn y CPLlL, mae’r Llywodraeth yn cynnig rhoi amddiffyniad sy’n gyfartal â’r amddiffyniad a ddarperir i aelodau hŷn i aelodau iau cymwys pan newidiwyd y Cynllun yn 2014. Os ydych chi’n gymwys i gael eich amddiffyn, caiff ei gymhwyso’n awtomatig – does dim angen i chi gyflwyno cais.
Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
Ar gyfer aelodaeth a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2008, byddwch yn derbyn pensiwn sy’n gyfartal ag 1/80 o’ch cyflog terfynol, yn ogystal â chyfandaliad di-dreth awtomatig o 3 gwaith gwerth y pensiwn hwn. Mae’r cyfrifiad hwn hefyd yn seiliedig ar eich aelodaeth o’r cynllun, sy’n cael ei addasu os oeddech yn gweithio’n rhan amser. Ar gyfer aelodaeth a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014, byddwch yn derbyn pensiwn sy’n gyfartal ag 1/60 o’ch cyflog terfynol, ond does DIM hawl i gyfandaliad awtomatig. Fodd bynnag, cewch y dewis i gyfnewid rhan o’ch pensiwn am gyfandaliad di-dreth pan fyddwch yn ymddeol.
Aelodaeth o 1 Ebrill 2014
Bob blwyddyn o’ch aelodaeth, byddwch yn cronni pensiwn sy’n gyfwerth â 1/49 o’r cyflog pensiynadwy a gawsoch yn y flwyddyn honno (o 1 Ebrill hyd 31 Mawrth). Eich tâl pensiynadwy yw swm y tâl rydych yn talu cyfraniadau pensiwn arno. Os ydych wedi dewis ymuno ag adran 50/50 y cynllun, bydd y gyfradd y mae eich pensiwn yn cronni yn hanner y gyfradd hon, h.y. 1/98 o’ch cyflog pensiynadwy. Bydd y pensiwn rydych yn ei gronni o 1 Ebrill – 31 Mawrth wedyn yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn ac yn cael ei ailbrisio’n unol â chostau mynegai byw priodol bob mis Ebrill.
Mae’r enghraifft isod yn dangos sut caiff eich buddion pensiwn eu cyfrifo, os oes gennych aelodaeth cyn ac ar ôl 1 Ebrill 2014.
Enghraifft 1 – Cyfrifo buddion CPLlL
Buddion yn seiliedig ar 27 mlynedd o aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008:
Pensiwn: 27/80 x £22,000 = £7,425
Cyfandaliad: 3 x 27/80 x £22,000 = £22,275
Buddion yn seiliedig ar chwe blynedd o aelodaeth o 1 Ebrill 2008 i 31 Mawrth 2014:
Pensiwn: 6/60 x £22,000 = £2,200
Tabl 1: Buddion a gronnwyd yn y cynllun cyfartaledd gyrfa o 1 Ebrill 2014
Blwyddyn Cynllun | Balans agoriadol | Pensiwn wedi’i gronni ym mlwyddyn y Cynllun | Cyfanswm y Cyfrif 31 Mawrth | Addasiad costau byw (CPI) | Cyfanswm y cyfrif wedi’i ddiweddaru |
2014/15 | £0.00 | £18,500 / 49 = £377.55 | £377.55 | £4.53 (1.2%) | £382.08 |
2015/16 | £382.08 | £19,000 / 49 = £387.76 | £769.84 | -£0.77 (-0.1%) | £769.07 |
2016/17 | £769.07 | £20,000 / 49 = £408.16 | £1,177.23 | £11.77 (1.0%) | £1,189.00 |
2017/18 | £1,189.00 | £21,000 / 49 = £428.57 | £1,617.57 | £48.53 (3.0%) | £1,666.10 |
2018/19 | £1,666.10 | £22,000 / 49 = £448.98 | £2,115.08 | £50.76 (2.4%) | £2,165.84 |
2019/20 | £2,165.84 | £22,000 / 49 = £448.98 | £2,614.82 | £44.45 (1.7%) | £2,659.27 |
Mae gan yr aelod hawl i Bensiwn Blynyddol o £12,284.27, sy’n cynnwys pensiwn wedi’i gronni fel a ganlyn:
- cyn 1 Ebrill 2008: £7,425.00
- rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014: £2,200.00
- ar ôl 31 March 2014: £2,659.27
A hefyd hawl i gyfandaliad di-dreth o £22,275.
Dewis cyfnewid rhan o’ch pensiwn am gyfandaliad di-dreth
Am bob £1 o bensiwn rydych yn ei ildio, gallwch dderbyn £12 o gyfandaliad ychwanegol; wedi ei gyfyngu i 25% o’r Gwerth Cyfalaf o’ch buddion pensiwn, fel y gosodwyd gan CThEM, sy’n cynnwys eich cyfandaliad di-dreth awtomatig sydd wedi ei seilio ar eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008. Cofiwch, mae hyn ddewisol ac nid yw’n orfodol. Nid oes rhaid i chi gyfnewid yr uchafswm, gallwch ddewis swm is. Efallai yr effeithir ar swm y cyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd o’r CPLlL os bydd gwerth eich buddion yn uwch na’r lwfans oes.
Byddwn yn gofyn ichi am fanylion unrhyw bensiynau sydd eisoes yn cael eu talu neu heb eu cymryd pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn.
Mae cymryd cyfandaliad mwy yn lleihau eich pensiwn ond nid yw’n lleihau unrhyw bensiwn goroeswr a delir ar ôl i chi farw i’ch priod, eich partner sifil, eich partner cyd-fyw cymwys neu’ch plentyn.
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n meddwl yn ofalus am yr opsiwn hwn cyn i chi gymryd eich pensiwn. Ni fydd yn bosibl gwrthdroi eich penderfyniad ar ôl i’ch pensiwn gael ei dalu. Efallai y byddwch am geisio Cyngor Ariannol Annibynnol ar y mater.
Sut bydd fy nghyfandaliad yn cael ei dalu?
Telir eich cyfandaliad yn syth i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu o’ch dewis. Gallwch ddewis i’ch cyfandaliad a’ch pensiwn gael eu talu i gyfrifon gwahanol os ydych yn dymuno hynny. Gwneir y taliad yn fuan ar ôl diwrnod diwethaf eich cyflogaeth ar yr amod eich bod wedi dychwelyd yr holl ffurflenni a thystysgrifau angenrheidiol.
Fe’ch cynghorir yn gryf i geisio Cyngor Ariannol Annibynnol ynglŷn â buddsoddi’ch cyfandaliad.
Ailgylchu
Os ydych yn defnyddio’ch cyfandaliad di-dreth i gynyddu’n sylweddol y cyfraniadau rydych yn eu talu i gynllun pensiwn, gelwir hyn yn ‘ailgylchu’. Mae hwn yn faes cymhleth a bydd Cyllid a Thollau EM ond yn ystyried bod ailgylchu wedi digwydd os yw’r holl amodau perthnasol yn cael eu bodloni. Os yw Cyllid a Thollau EM o’r farn bod ailgylchu wedi digwydd, yna bydd yn rhaid i chi dalu treth ychwanegol.
Gallwch ddarganfod mwy am ailgylchu cyfandaliad gan Gyllid a Thollau EM. Efallai yr hoffech ofyn am gyngor ariannol rheoledig os ydych chi’n credu y gallai ailgylchu fod yn berthnasol i chi.
Cynyddu fy mhensiwn
Bydd y cynlluniwr cyllideb ar ddiwedd y canllaw hwn yn eich helpu i gyfrifo pa incwm y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn rhoi’r gorau i weithio. Yn yr adran hon, edrychwn ar ffyrdd y gallech gynyddu’r incwm hwnnw.
Gallwch dalu cyfraniadau ychwanegol i gynyddu eich pensiwn trwy dalu:
- Cyfraniadau pensiynau ychwanegol (CPY)
- Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY) mewnol
- CGY rhydd
- I mewn i bensiynau personol neu bensiynau rhanddeiliaid
Cyfraniadau pensiwn ychwanegol (CPY)
Os ydych chi ym mhrif adran y Cynllun, gallwch dalu cyfraniadau ychwanegol i brynu hyd at £7,352 o bensiwn blynyddol. Mae unrhyw bensiwn ychwanegol rydych chi’n ei brynu yn cael ei ychwanegu at eich pensiwn CPLlL. Gallwch dalu am y pensiwn ychwanegol hwn trwy gyfraniadau rheolaidd o’ch cyflog neu drwy dalu cyfandaliad unwaith.
Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY) mewnol
Mae cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY) yn caniatáu ichi dalu mwy i gronni cynilion ychwanegol ar gyfer eich ymddeoliad. Buddsoddir CGY mewnol ar wahân mewn cronfeydd a reolir gan ein darparwr CGY mewnol, Prudential.
Pan fyddwch yn cynryd eich pensiwn CPLlL, gallwch ddefnyddio’ch cronfa CGY i brynu incwm gwarantedig am oes (blwydd-dal) neu brynu pensiwn CGY atodol. Yn amodol ar derfynau Cyllid a Thollau EM, efallai y gallech gymryd hyd at 100% o’ch cronfa CGY fel cyfandaliad di-dreth. Gallwch drosglwyddo’ch cronfa CGY i gynllun pensiwn neu drefniant arall ar unrhyw adeg cyn i chi gymryd eich pensiwn CPLlL.
Am ragor o wybodaeth edrychwch ar: CGY
Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol rhydd (CGYRh)
Mae’r rhain yn debyg i CGY mewnol ond nid ydynt yn gysylltiedig â’r CPLlL mewn unrhyw ffordd. Gyda CGYRh, rydych chi’n dewis darparwr, fel arfer cwmni yswiriant. Efallai yr hoffech ystyried eu gwahanol fuddsoddiadau amgen a’u perfformiad yn y gorffennol.
Pensiynau personol neu bensiynau rhanddeiliaid
Gallwch dalu i mewn i gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn rhanddeiliaid ar yr un pryd â thalu i mewn i’r CPLlL. Mae angen i chi ystyried taliadau, buddsoddiadau amgen a pherfformiad yn y gorffennol pan fyddwch chi’n dewis darparwr.
Fe’ch cynghorir i gael cyngor ariannol cyn cymryd unrhyw fath o gynilion pensiwn ychwanegol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu mwy i gynyddu’ch pensiwn ar wefan aelod CPLlL. Gallwch hefyd wylio’r fideos ‘Pensions made simple’, gan gynnwys ‘Gofalu am eich pensiwn’.
Sylwer os gwelwch yn dda
O dan ddeddfau cyfredol CThEM, mae’n bosib cymryd holl werth eich cronfa CGY fel arian di-dreth (yn amodol ar gyfyngiad Gwerth Cyfalaf uchod). Fodd bynnag, os eir yn uwch na’r cyfyngiad hwn, efallai na fyddwch yn gallu cymryd eich holl gronfa CGY fel arian di-dreth. Cysylltwch â’ch Cronfa Bensiwn am ragor o fanylion.
Dulliau rheoli treth a’ch pensiwn
Un o fuddion cynilo pensiwn gyda’r CPLlL yw eich bod yn derbyn gostyngiad ar treth ar y cyfraniadau rydych chi’n eu talu. Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn cyfyngu ar faint o ostyngiad ar dreth pensiwn y gallwch ei dderbyn. Bydd y mwyafrif o bobl yn gallu cynilo cymaint ag y dymunant oherwydd bydd eu cynilion pensiwn yn llai na’r terfynau.
Os ydych chi’n ystyried talu swm ychwanegol, mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’r terfynau hyn. Nid oes cyfyngiad ar swm y cyfraniadau y gallwch eu talu. Cewch ostyngiad ar dreth dim ond ar gyfraniadau o hyd at 100% o’ch enillion trethadwy mewn blwyddyn dreth
Lwfans blynyddol
Mae’r lwfans blynyddol yn derfyn ar faint y gall eich buddion pensiwn gynyddu mewn blwyddyn heb i chi orfod talu tâl treth.
Yn y CPLlL, swm y lwfans blynyddol a ddefnyddir yw’r cynnydd yng ngwerth eich buddion pensiwn dros y flwyddyn dreth.
Ar gyfer trefniadau prynu arian, fel cynlluniau CGY, y lwfans blynyddol rydych chi’n ei ddefnyddio yw cyfanswm y cyfraniadau a dalwyd gennych chi, ac ar eich rhan, dros y flwyddyn dreth.
Byddwn yn eich hysbysu os yw’ch cynilion pensiwn CPLlL yn fwy na’r lwfans blynyddol safonol o £ 40,000 trwy anfon datganiad cynilion pensiwn atoch. Rhaid anfon y datganiad atoch erbyn 6 Hydref yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.
Pwysig – efallai eich bod chi’n talu i mewn i fwy nag un cynllun pensiwn. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio nad yw cyfanswm eich cynilion pensiwn ar draws pob cynllun yn fwy na therfyn y lwfans blynyddol.
Gwybodaeth bellach
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am lwfans blynyddol gan gynnwys offer i wirio’ch lwfans, ar wefan aelodau’r CPLlL. Gallwch hefyd wylio’r fideo ‘Pensions made simple’, ‘Eich lwfans blynyddol’.
Beth os ydwyf yn ymddeol oherwydd salwch?
I fod yn gymwys am bensiwn ymddeoliad cynnar oherwydd salwch, rhaid i chi fod yn barhaol analluog i gyflawni dyletswyddau’ch cyflogaeth bresennol yn effeithlon a bod llai o debygolrwydd y byddwch yn ymgymryd ag unrhyw waith cyflogedig* cyn eich OPA.
Cyfeirir achosion i Ymarferwr Meddygol Cofrestredig Annibynnol, a fydd yn asesu’ch gallu yn seiliedig ar y dystiolaeth feddygol a gyflwynir.
Gan ddibynnu ar ganlyniad yr asesiad, efallai y bydd gennych hawl i daliad yn syth o’ch buddion pensiwn heb eu lleihau, a all hefyd gael eu cynyddu a bod yn daladwy am oes, gan ddibynnu ar eich afiechyd.
*Mae Gwaith Cyflogedig yn golygu gwaith cyflogedig am ddim llai na 30 awr yr wythnos am gyfnod o ddim llai na 12 mis.
Beth os caf fy ngwneud yn ddi-waith neu mae fy swydd bresennol yn dod i ben oherwydd effeithlonrwydd?
Cyhyd ag yr ydych yn 55 oed neu’n hŷn, bydd y buddion pensiwn rydych wedi’u cronni hyd at y dyddiad gadael yn dod yn daladwy yn syth, heb eu lleihau ac wedyn yn daladwy am oes. Sylwer y bydd gan eich Cyflogwr bolisi sy’n nodi’i safiad ar lefel yr iawndal y mae’n gallu’i gynnig.
Sylwer y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynigion i fynd i’r afael â thaliadau ymadael na ellir eu cyfiawnhau. Fe’i gelwir yn gap ymadael y sector cyhoeddus. Bydd y cap yn cyfyngu ar faint o arian y gall cyflogwr yn y sector cyhoeddus ei dalu pan fydd gweithiwr yn gadael ei gyflogaeth. Nid yw’r Llywodraeth wedi cadarnhau eto pryd y bydd y cap ymadael neu fesurau pellach yn cael eu cyflwyno.
Am ragor o wybodaeth am y mater hwn cysylltwch â’ch Cyflogwr.
Cymryd eich pensiwn CPLlL – y broses
A allaf fforddio ymddeol?
Mae’n bwysig eich bod chi’n meddwl am incwm ymddeoliad cyn i chi adael eich swydd. Bydd rhai costau’n lleihau ar ôl i chi roi’r gorau i weithio. Efallai bydd eich costau teithio’n gostwng, rydych yn debygol o dalu llai o dreth ac ni fyddwch yn talu yswiriant gwladol. Efallai bydd costau eraill fel biliau cartref yn cynyddu pan fyddwch chi’n rhoi’r gorau i weithio.
Gan ddibynnu ar eich oedran pan fyddwch chi’n rhoi’r gorau i weithio, efallai y gallwch gymryd eich Pensiwn Gwladwriaethol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth yn Rhan dau o’r canllaw hwn.
Rydym wedi darparu cynlluniwr cyllideb sylfaenol ar ddiwedd y canllaw hwn i’ch helpu chi.
Mae rhai cyflogwyr yn cynnig cyrsiau i’w gweithwyr sy’n agosáu at ymddeoliad. Bydd y pynciau dan sylw’n amrywio gan ddibynnu ar bwy sy’n cyflwyno’r cwrs. Gall mynychu’r math hwn o sesiwn roi:
- gwybodaeth ddefnyddiol i chi am yr hyn y dylech ei ystyried cyn ymddeol
- y cyfle i chi gael arbenigwr i ateb eich cwestiynau
- fforwm i rannu’ch barn a’ch profiadau â chydweithwyr sydd hefyd yn agosáu at ymddeoliad.
Cysylltwch â’ch cyflogwr i ddarganfod pa hyfforddiant y mae’n ei gynnig.
Eich Pensiwn CPLlL
Bob blwyddyn rydym yn cynhyrchu datganiad buddion blynyddol a fydd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am faint o bensiwn ac arian di-dreth y gallwch ddisgwyl eu cael pan fyddwch yn ymddeol.
Mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod faint bydd eich buddion pensiwn ar y dyddiad ymddeol o’ch dewis cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol. Efallai na fydd y ffigurau yn eich datganiad yn dweud wrthych:
- Y buddion is a fyddai’n cael eu talu os byddwch chi’n ymddeol yn gynnar
- Y buddion a fyddai’n cael eu talu pe bai’ch cyflog neu’ch oriau gwaith wedi newid yn ddiweddar neu a fydd yn newid cyn i chi gymryd eich pensiwn
- Effaith gorchymyn rhannu pensiwn (os dyfarnwyd rhan o’ch pensiwn i’ch cyn-bartner yn dilyn ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil)
- Beth yw’ch opsiynau os oes gennych CGY mewnol
- Os bydd cyfyngiadau Cyllid a Thollau EM ar gynilion pensiwn yn effeithio arnoch chi.
Faint o rybudd y bydd angen i mi ei roi?
Awgrymwn y dylech drafod eich dyddiad ymddeol a natur yr ymddeoliad â’ch cyflogwr ar y cyfle cyntaf er mwyn sicrhau taliad amserol o’ch buddion pensiwn.
Bydd eich Cyflogwr wedyn yn hysbysu’r Gronfa Bensiwn a bydd eich pecyn pensiwn yn cael ei anfon atoch yn syth.
A allaf gael amcangyfrif o’m buddion?
Gallwch gael amcangyfrif o’r buddion CPLlL sy’n daladwy ar ddyddiad penodol trwy ysgrifennu neu anfon e-bost atom neu drwy eich cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein.
Bydd angen i’ch cyflogwr ofyn am amcangyfrif pensiwn ar eich rhan os ydych chi:
- yn ystyried ymddeoliad hyblyg
- mewn perygl o golli swydd/effeithiolrwydd y gwasanaeth dros 55 oed
Mae’r crynodeb isod yn dangos amlinelliad sylfaenol o’r broses a ddilynir ar ôl i chi wneud penderfyniad terfynol i gymryd eich pensiwn CPLlL.
Cam 1
Siaradwch â’ch cyflogwr a chytunwch ar eich dyddiad ymddeol.
Cam 2
Mae eich cyflogwr yn rhoi gwybodaeth i ni am eich cyflog, eich dyddiad gadael a’r rheswm dros adael.
Cam 3
Rydym yn cyfrifo ac yn amcangyfrif eich buddion pensiwn. Rydym yn anfon hwn atoch gyda ffurflenni i chi eu cwblhau er mwyn cadarnhau:
- Eich bod yn dymuno cymryd eich pensiwn (os yw’n berthnasol)
ac, os ydych chi’n cymryd eich pensiwn:
- Eich opsiwn i gyfnewid pensiwn am gyfandaliad
- Opsiynau talu CGY, os oes gennych CGY mewnol
Gofynnir i chi hefyd am fanylion banc a chopi o’ch tystysgrif geni neu basbort.
Cam 4
Rydych chi’n dychwelyd y ffurflenni hawlio pensiwn ac unrhyw dystysgrifau perthnasol rydyn ni wedi gofyn amdanyn nhw.
Cofiwch – ar ôl i chi wneud penderfyniad ar:
- a ddylid cyfnewid pensiwn am gyfandaliad a
- sut rydych chi am i’ch CGY mewnol gael ei dalu
mae’r penderfyniadau hyn yn derfynol ac ni ellir eu gwrthdroi yn nes ymlaen.
Gofynnir i chi hefyd ddarparu manylion unrhyw fuddion pensiwn eraill y mae gennych hawl i’w derbyn (neu yr ydych eisoes yn eu derbyn), fel y gellir cynnal prawf yn erbyn eich Lwfans Oes.
Sylwer NA fydd eich buddion yn cael eu rhyddhau nes bod y datganiad hwn wedi’i gwblhau a’i ddychwelyd i’r Gronfa Bensiwn.
Cam 5
Rydym yn trefnu talu’ch pensiwn ac unrhyw gyfandaliad di-dreth ar ôl eich dyddiad ymddeol. Bydd hyn yn digwydd cyhyd ag y mae eich cyflogwr wedi rhoi’r rhybudd terfynu i ni, a gall hyn ddigwydd dim ond ar ôl i daliad terfynol eich cyflog/tâl gael ei wneud, a/neu i’ch ffigurau tâl pensiynadwy terfynol gael eu cyfrif.
Cael cymorth pellach
Bydd y penderfyniadau a wnewch pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn yn effeithio ar eich incwm yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud y penderfyniadau cywir. Mae llawer o sefydliadau’n darparu cefnogaeth, arweiniad a gwybodaeth. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyswllt ar gyfer sefydliadau cymorth yn Rhan dau o’r canllaw hwn.
A ydw i wedi cysylltu â’m holl ddarparwyr pensiwn eraill?
Dylech gysylltu â’ch darparwr/wyr pensiwn eraill i ddweud wrthynt am agosrwydd eich ymddeoliad a chasglu gwybodaeth am werth eich cronfeydd pensiwn.
Os ydych yn cyfrannu at drefniant Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) efallai y byddwch yn dymuno gofyn i Adran Cyflogres eich cyflogwr atal eich taliadau CGY yn ystod y mis cyn eich ymddeoliad, neu fel arall mae’n bosib y bydd oedi o ran talu’ch buddion CPLlL.
Ar ôl eich Ymddeoliad
Sut a phryd bydd fy mhensiwn yn cael ei dalu?
Telir eich pensiwn blynyddol fesul mis calendr fel ôl-daliadau, fel arfer tua diwedd y mis. Caiff ei dalu’n uniongyrchol i Fanc neu Gymdeithas Adeiladu o’ch dewis chi. Bydd y Gronfa’n cadarnhau eich dyddiadau taliad maes o law. Mae felly’n bwysig iawn eich bod yn rhoi Rhif Cyfrif a Chôd Didoli cywir.
Bydd taliad cyntaf eich pensiwn yn berthnasol i’r cyfnod o ddyddiad eich ymddeoliad hyd at ddiwedd y mis, ac weithiau’r mis dilynol cyfan, gan ddibynnu ar bryd rydych yn ymddeol. Sylwer na all y Gronfa dalu eich pensiwn i Gyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post.
Beth os ydwyf yn penderfynu byw dramor?
Os ydych yn penderfynu ymfudo, parheir i dalu’ch pensiwn i’ch cyfrif banc/cymdeithas adeiladu gyfredol oni bai eich bod yn dymuno iddo gael ei dalu i gyfrif tramor. Sylwer y gall gweithrediad tramor olygu cost fechan ar gyfer cyfnewid arian cyfred a throsglwyddiad taliad.
Beth os yw fy manylion yn newid?
Os ydych yn newid eich cyfeiriad neu eich cyfrif banc/cymdeithas adeiladu rhaid i chi hysbysu’r Gronfa’n ysgrifenedig yn syth fel y gellir diweddaru’ch cofnod.
Dylid trosglwyddo gwybodaeth am newidiadau i fanylion cyfrifon banc/cymdeithas adeiladu cyn canol y mis rydych eisiau i’r newid ddigwydd; neu gall eich pensiwn gael ei dalu i’ch cyfrif blaenorol. Sylwer bod yn rhaid i’r cyfrif banc/cymdeithas adeiladu fod yn eich enw chi neu enwau ar y cyd.
I newid eich cyfeiriad neu fanylion cyfrif banc/cymdeithas adeiladu, cysylltwch â’ch Cronfa Bensiwn.
Treth Incwm
Mae eich pensiwn CPLlL yn drethadwy, ond telir eich cyfandaliad yn ddi-dreth. Mae p’un a ydych yn talu treth wrth ymddeol yn dibynnu ar swm eich pensiwn a’ch amgylchiadau personol*.
Pan fyddwch yn ymddeol, dylech dderbyn copi o’ch P45. Mae’n rhaid i’ch Cyflogwr anfon P45 ymlaen yn uniongyrchol i’ch Cronfa Bensiwn lle bydd y côd treth priodol yn cael ei roi yn erbyn eich pensiwn dan drefniant dros dro arbennig.
Bydd y Gronfa wedyn yn hysbysu’r CThEM eich bod yn derbyn eich pensiwn a chaiff côd treth newydd ei roi. Os na fydd eich côd treth yn hysbys ar unwaith, defnyddir côd dros dro hyd nes y rhoddir côd priodol.
Os ydych yn dymuno gwneud ymholiad ynglŷn â’ch côd treth cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol.
*Sylwer bod y lwfans blynyddol ar gyfer cynilion pensiwn treth freintiedig wedi’i ei gosod ar £40,000 o fis Ebrill 2014. Cysylltwch â’ch is-adran pensiynau am fanylion pellach.
Ailbrisio’ch Pensiwn
Mae eich pensiwn blynyddol wedi ei ddiogelu’n llawn yn erbyn chwyddiant a chaiff ei ailbrisio bob mis Ebrill yn unol â’r mynegai costau byw priodol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’ch Cronfa Bensiwn.
Slip tâl pensiwn
Ni fydd y Gronfa’n anfon slip tâl pensiwn atoch yn fisol, oni bai fod gwerth eich pensiwn net yn amrywio. Byddwch yn derbyn slip tâl pensiwn pan fyddwch yn ymddeol gyntaf, ond wedi hynny byddwch yn derbyn un dim ond ym mis Ebrill ac o bosib fis Mai bob blwyddyn, yn rhoi manylion unrhyw gynnydd yn eich buddion pensiwn.
Hysbysiad P60
Bob blwyddyn bydd eich Cronfa’n rhoi datganiad i chi a elwir yn P60. Mae hwn yn rhoi manylion eich enillion CPLlL a’r dreth a dalwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol o Ebrill i Fawrth. Mae angen i chi gadw hwn yn ddiogel oherwydd mae cyrff eraill yn aml yn gofyn amdano fel tystiolaeth o enillion.
Cyflogaeth arall
Os ydych yn cael swydd arall gyda Chyflogwr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gall hyn effeithio ar eich pensiwn. Mae gan y Gronfa bolisi sefydlog ar y mater hwn, a gall eich pensiwn gael ei leihau neu ei ohirio.
Am ragor o wybodaeth am y mater hwn, cysylltwch â’ch Cronfa Bensiwn. Ni fydd cael swydd gydag unrhyw gyflogwr y tu allan i CPLlL yn effeithio ar daliad eich pensiwn.
Os cewch eich ailgyflogi gan Gyflogwr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rhaid i chi ddweud wrth eich Cronfa Bensiwn gyfredol a blaenorol yn ysgrifenedig, fel y gellir gwneud yr asesiad angenrheidiol.
Marwolaeth mewn Ymddeoliad
Os ydych yn marw wrth dderbyn eich pensiwn, ni fydd eich buddion yn daladwy bellach. Mae’n rhaid i’ch priod, eich partner sifil cofrestredig, eich partner cyd-fyw cymwys, eich perthynas agosaf, neu’r person sy’n ymdrin â’ch ystâd hysbysu’r Gronfa Pensiwn yn syth am eich marwolaeth i osgoi unrhyw ordaliad o’ch pensiwn.
Fodd bynnag, bydd cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy os yw marwolaeth yn digwydd yn ystod 10 mlynedd gyntaf eich ymddeoliad a’ch bod dan 75 oed. Y grant marwolaeth sy’n daladwy yw’r swm y mae’r pensiwn blynyddol wedi’i luosi â 10 yn fwy na’r pensiwn a dalwyd hyd at ddyddiad y farwolaeth (10 gwaith gwerth y pensiwn namyn unrhyw beth a dalwyd eisoes a chaiff ei addasu os gwnaethoch gyfnewid pensiwn ar gyfer cyfandaliad di-dreth)
Bydd grant marwolaeth yn daladwy dim ond os ydych dan 75 oed ar ddyddiad y farwolaeth. Dylech sicrhau eich bod wedi cwblhau ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth fel y gall y Gronfa ystyried eich dymuniad wrth wneud y taliad hwn.
I gael ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth, cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn.
Sylwer
Os oedd eich buddion pensiwn wedi’u gohirio ar 31 Mawrth 2008, neu cyn hynny, ac yna wedi dechrau cael eu talu ar 1 Ebrill 2008, neu ar ôl hynny, y grant marwolaeth a delir os digwydd ichi farw fel aelod sy’n bensiynwr yw 5 gwaith gwerth y pensiwn namyn unrhyw arian a dalwyd eisoes. Yr unig bryd y telir grant marwolaeth yw os ydych yn marw’n iau na 75 oed.
Buddion Goroeswr
Yn dilyn eich marwolaeth, bydd pensiwn goroeswr yn daladwy i’ch priod, eich partner sifil cofrestredig neu’ch partner cyd-fyw cymwys. Mae pensiwn y goroeswr wedyn yn daladwy trwy gydol ei oes.
Os gwnaethoch adael y cynllun ar 1 Ebrill 2014 neu ar ôl hynny, mae’r pensiwn sy’n daladwy’n gyfartal ag:
- 1/160ain o’ch tâl pensiynadwy x eich aelodaeth hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2014 (oni bai eich bod yn priodi ar ôl eich ymddeoliad ac os felly gallai fod yn llai); a
- 49/160ain o swm unrhyw bensiwn a gredydwyd i’ch cyfrif pensiwn ers 1 Ebrill 2014.
Os gwnaethoch adael y cynllun cyn 1 Ebrill 2014, mae’r pensiwn sy’n daladwy’n gyfartal ag:
- 1/160ain o’ch tâl terfynol x eich aelodaeth yn y cynllun hyd at 31 Mawrth 2014 (oni bai eich bod yn priodi ar ôl eich ymddeoliad, ac os felly gallai fod yn llai).
Efallai y bydd gan eich plentyn / plant cymwys hawl i bensiwn goroeswr hefyd, ar yr amod ei fod / eu bod dan 18 oed. Gellir ymestyn hyn hyd at 23 oed os yw’n aros mewn addysg barhaus amser llawn neu’n ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol.
Os oes gennych blentyn sydd ag anallu corfforol neu feddyliol, gellir rhoi ystyriaeth arbennig, a gellir talu’r pensiwn cyhyd ag y bo’r anabledd yn parhau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn neu gallwch ddarganfod mwy am fuddion marwolaeth yn y CPLlL ar wefan aelodau’r CPLlL. Gallwch hefyd wylio’r fideos ‘Pensions made simple’, gan gynnwys ‘Amddiffyniad i chi a’ch teulu’.
Cymorth os oes gennych ymholiad neu gŵyn
Dylech gysylltu â ni:
- os ydych yn ansicr ynghylch eich pensiwn CPLlL
- os oes gennych gwestiwn am eich aelodaeth neu fudd-daliadau CPLlL
- os ydych wedi profi unrhyw broblem sy’n gysylltiedig â’r CPLlL.
Byddwn yn ceisio mynd i’r afael â’r mater rydych wedi’i godi mor gyflym ac mor effeithlon â phosib trwy:
- ddarparu gwybodaeth goll i chi
- cywiro unrhyw anghywirdeb, a
- chymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i unioni’r broblem rydych chi wedi’i phrofi.
Os ydych yn dal yn anfodlon ar unrhyw benderfyniad a wnaed ynghylch y CPLlL, gallwch gymryd camau pellach.
- Gallwch ofyn i’ch cwyn gael ei hadolygu o dan y Weithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (GDAM). Mae’r GDAM yn adolygiad ffurfiol o’r penderfyniad, y weithred neu’r hepgoriad rydych yn cwyno amdano. I ddarganfod mwy am yr GDAM a’r terfynau amser sy’n berthnasol, cysylltwch â ni neu edrychwch y canllaw ar ein gwefan. Gallwch ddod o hyd i’n manylion cyswllt ar ddiwedd y canllaw hwn.
- Os oes gennych gŵyn am weinyddu neu reoli cynllun pensiwn, gallwch gysylltu â’r Ombwdsman Pensiynau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chyflwyno ffurflen gŵyn ar-lein ar wefan yr Ombwdsman Pensiynau.
Rhan 2 – Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall
Pensiwn Gwladol
Yn ogystal â’ch buddion CPLlL, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael pensiwn ymddeol y wladwriaeth a delir gan y Llywodraeth.
Mae faint o bensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei dderbyn yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Ewch i wefan y Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth am dderbyn eich Pensiwn Gwladol a sut i’w hawlio.
Gallwch hefyd ofyn am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein.
Treth a’ch pensiwn
Y Lwfans Personol yw swm yr incwm y gallwch ei ennill cyn talu treth. Y Lwfans Personol safonol ar gyfer 2023/2024 yw £12,570.
Os yw cyfanswm eich incwm trethadwy yn fwy na’ch Lwfans Personol yna byddwch yn talu treth. Ni fydd cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael eu tynnu o’ch taliadau Pensiwn Llywodraeth Leol.
Bob blwyddyn bydd eich cyflogwr neu’ch cynllun pensiwn (os oes gennych bensiwn sy’n cael ei dalu) yn rhoi P60 i chi. Mae eich P60 yn dangos yr hyn a dalwyd i chi, a faint o dreth sydd wedi’i didynnu. Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw’ch P60 mewn lle diogel.
I gael rhagor o wybodaeth am dreth incwm, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM: 0300 200 1900 neu ewch i’w gwefan: www.hmrc.gov.uk/incometax
Olrhain hawliau pensiwn blaenorol
Ar hyn o bryd amcangyfrifir bod £400 miliwn mewn cynilion pensiwn heb eu hawlio. Mae pobl wedi cynilo’r arian hwn ar gyfer eu hymddeoliad.
I gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad, mae angen i chi wybod faint o incwm y byddwch chi’n ei gael. Mae hyn yn cynnwys incwm o weithle neu gynlluniau pensiwn personol a Phensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych wedi dilyn hynt pensiwn, mae gwasanaeth gan y Llywodraeth y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer:
- eich gweithle neu gynllun pensiwn personol eich hun
- cynllun rhywun arall os oes gennych ei ganiatâd.
Gallwch gyrchu’r gwasanaeth trwy wefan y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn.
Cofiwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch darparwyr pensiwn am unrhyw newid yn eich cyfeiriad cartref.
Sgamiau pensiwn
Rydych chi wedi gweithio’n galed i adeiladu’ch pensiwn CPLlL. Efallai y bydd twyllwyr yn ceisio cael gafael ar eich cynilion pensiwn.
Gall unrhyw un ddioddef sgam pensiwn, ni waeth pa mor wybodus ydyn nhw. Mae’n bwysig eich bod chi’n gallu gweld yr arwyddion rhybudd.
Ffynhonnell: www.thepensionregulator.gov.uk/pension-scams
Mae twyllwyr yn ceisio perswadio cynilwyr pensiwn i drosglwyddo eu pensiwn cyfan, neu i ryddhau arian ohono. Maent yn gwneud addewidion sy’n swnio’n ddeniadol nad oes ganddynt unrhyw fwriad i’w cadw.
I gael rhagor o wybodaeth am sgamiau pensiwn a sut i’w hadnabod, ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiwn.
Ble i fynd am gymorth
Mae Pension Wise yn wasanaeth diduedd am ddim a gynigir gan y Llywodraeth i ddarparu arweiniad, ar ôl ichi gyrraedd 50 oed, i’ch helpu i ddeall eich opsiynau pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Darganfyddwch fwy ar wefan Pensiwn Wise neu trwy ffonio 0800 138 3944.
Mae’r Helpwr Arian yn cynnig cyngor diduedd ar arian, a hynny am ddim, gan gynnwys pensiynau a gwybodaeth ymddeol.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn cynnig arweiniad a gwybodaeth ddiduedd am ddim am bensiynau. Ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau i gael rhagor o wybodaeth, i ddefnyddio’u hoffer cynllunio neu i ofyn cwestiwn, neu ffoniwch nhw 0300 123 1047.
Which? Dyma gorff defnyddwyr annibynnol mwyaf yn y DU. Maent yn darparu cyngor diduedd ac yn cyhoeddi canllawiau i ddefnyddwyr, gan gynnwys ar faterion pensiwn.
Unbiased – dyma wefan sy’n rhestru cynghorwyr ariannol rheoledig ac annibynnol, broceriaid morgeisi, cyfreithwyr a chyfrifwyr. Mae’n gwirio bod pawb wedi cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yw’r corff rheoleiddio ar gyfer cynghorwyr ariannol annibynnol. Gall yr FCA eich cynorthwyo i adnabod arwyddion sgamiau buddsoddi a phensiwn.
MaeCyngor ar Bopeth yn rhwydwaith o 316 o elusennau annibynnol ledled y Deyrnas Unedig sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim i gynorthwyo pobl ag arian, problemau cyfreithiol, defnyddwyr a phroblemau eraill.
Mae Age UK yn darparu gwybodaeth a chyngor ar arian a materion cyfreithiol, iechyd a lles, gofal a chefnogaeth a llawer mwy.
Mae Independent Age yn elusen i bobl hŷn yn y DU. Mae’n darparu amrywiaeth o wybodaeth megis cymorth gyda threth y cyngor, credyd pensiwn, lwfans presenoldeb a llawer mwy. Gallwch weld yr holl gefnogaeth sydd ar gael ganddi ar wefan Independent Age neu gallwch ei ffonio ar 0800 3196789.
Cynlluniwr Cyllideb
Mae’n bwysig deall lle’r ydych chi’n gwario’ch incwm. Bydd hyn yn eich helpu i ddarganfod faint o incwm y bydd ei angen arnoch ar ôl ymddeol. Gallwch ddefnyddio’r cynlluniwr cyllideb hwn fel man cychwyn.
Incwm (wythnosol / misol)
Cyflog | £ |
Cyflog (Partner) | £ |
Budd-dal | £ |
Arall 1 | £ |
Arall 2 | £ |
Arall 3 | £ |
Cyfanswm Incwm | £ |
Gwariant (wythnosol / misol) | |
Morgais / rhent | £ |
Benthyciad/au, cerdyn credyd | £ |
Rhent tir / tâl gwasanaeth | £ |
Yswiriant | £ |
Treth Cyngor | £ |
Nwy | £ |
Trydan | £ |
Dŵr | £ |
Bwyd/Cadw tŷ | £ |
Teithio | £ |
Ffôn / ffôn symudol | £ |
Trwydded deledu / Tanysgrifiadau teledu | £ |
Rhyngrwyd | £ |
Dillad | £ |
Presgripsiynau / costau iechyd | £ |
Argyfyngau | £ |
Arall 1 | £ |
Arall 2 | £ |
Arall 3 | £ |
Cyfanswm gwariant | £ |
Cyfanswm Incwm | £ | |
Cyfanswm gwariant | £ | |
Incwm ar gael | £ |
Sut i ddarganfod mwy
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o wefan aelodau’r CPLlL.
Gallwch ymweld â’n gwefan yn: www.swanseapensionfund.org.uk/cy/
Gallwch hefyd gysylltu â ni:
Dros y ffôn: 01792 636655 rhwng 9am a 5pm
Trwy e-bost: pensiynau@abertawe.gov.uk
Yn ysgrifenedig:
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Y Ganolfan Ddinesig
Oystermouth Road
Abertawe
SA1 3SN
Diogelu Data
Cyngor Abertawe yw gweinyddwr Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ac rydym yn defnyddio’ch data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch data, â phwy rydym yn ei rhannu, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â’ch gwybodaeth, ewch i’r Hysbysiad Preifatrwydd ar wefan y Gronfa Bensiwn: www.swanseapensionfund.org.uk/cy/hysbysiad-preifatrwydd/
Ymwadiad
Pwrpas y canllaw hwn yw cynorthwyo aelodau â’u cynllunio ar gyfer ymddeoliad. Mae at ddefnydd cyffredinol ac ni all gwmpasu pob amgylchiad personol. Nid yw’r canllaw’n ymdrin yn llawn â lwfans a lwfans blynyddol a lwfans oes na’r goblygiadau treth i aelodau sy’n mynd y tu hwnt i’r terfynau hyn. Nid yw’r canllaw hwn yn rhoi unrhyw hawliau cytundebol neu statudol ac fe’i darperir at ddibenion gwybodaeth yn unig. Os bydd unrhyw anghydfod ynghylch eich buddion pensiwn, y ddeddfwriaeth briodol fydd drechaf. Roedd y ddogfen hon yn gywir ar y dyddiad y cafodd ei hysgrifennu. Gall ffactorau a gwybodaeth newid; ewch i’r gwefannau perthnasol os oes angen.