Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn aelod o’r LGPS am 2 flynedd i gael hawl i bensiwn, oni bai eich bod wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol iddo, neu fod gennych eisoes bensiwn gohiriedig neu bensiwn i’w dalu gyda Chronfa LGPS arall yng Nghymru neu Loegr.
Aelodaeth o 1 Ebrill 2014
O 1 Ebrill 2014, byddwch yn adeiladu pensiwn, wedi’i gyfrifo’n 1/49 o’r tâl pensiynadwy rydych wedi’i dderbyn ac wedi talu cyfraniadau pensiwn arno, ar gyfer pob blwyddyn o’r cynllun (o 1 Ebrill tan 31 Mawrth).
Eich tâl pensiynadwy yw swm y tâl rydych yn talu’ch cyfraniadau pensiwn arno.
Mae’r pensiwn rydych yn ei gronni bob blwyddyn (1 ebrill tan 31 Mawrth) yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn a chaiff ei ailbrisio yn unol â’r mynegai cost byw priodol bob mis Ebrill. Mae’r enghraifft isod yn dangos sut cyfrifir pensiwn, gan dybio bod tâl yn cynyddu 1% a chwyddiant yn cynyddu 2.2% bob blwyddyn.
Ailbrisiad | Balans Agoriadol | Tâl Pensiynadwy | Pensiwn a Enillwyd | Balans Terfynol | |
Blwyddyn 1 | £0.00 | £0.00 | (£21,000 x 1/49) | £428.57 | £428.57 |
Blwyddyn 2 | £9.43 | £438.00 | (£21,210 x 1/49) | £432.86 | £870.86 |
Blwyddyn 3 | £19.16 | £890.02 | (£21,422 x 1/49) | £437.18 | £1,327.20 |
Blwyddyn 4 | £29.20 | £1,356.40 | (£21,636 x 1/49) | £441.55 | £1,797.95 |
Blwyddyn 5 | £39.55 | £1,837.50 | (£21,852 x 1/49) | £445.96 | £2,283.46 |
Os ydych wedi dewis ymuno ag adran 50/50 y cynllun, bydd cyfradd ddatblygu’ch pensiwn yn 1/98 o’ch tâl pensiynadwy ar gyfer y cyfnod rydych ynddo yn yr adran 50/50.
Mae’r enghraifft isod yn seiliedig ar yr un wybodaeth ag uchod, ond dewisodd yr aelod ymuno â’r adran 50/50 am 6 mis yn ystod blwyddyn 3.
Ailbrisiad | Balans Agoriadol | Tâl Pensiynadwy | Pensiwn a Enillwyd | Balans Terfynol | |
Blwyddyn 1 | £0.00 | £0.00 | (£21,000 x 1/49) | £428.57 | £428.57 |
Blwyddyn 2 | £9.43 | £438.00 | (£21,210 x 1/49) | £432.86 | £870.86 |
Blwyddyn 3 | £19.16 | £890.02 | (£10,711 x 1/49) | £218.59 | |
(£10,711 x 1/98) | £109.30 | £1217.91 | |||
Blwyddyn 4 | £26.79 | £1,244.70 | (£21,636 x 1/49) | £441.55 | £1,686.25 |
Blwyddyn 5 | £37.10 | £1,723.35 | (£21,852 x 1/49) | £445.96 | £2,169.31 |
Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
Os ydych wedi bod yn aelod ers cyn 1 Ebrill 2014, bydd eich pensiwn ar gyfer y cyfnod hwn yn seiliedig ar gyfanswm yr aelodaeth yn y cynllun a’ch Tâl Terfynol – y tâl pensiynadwy y byddwch yn ei dderbyn ym mlwyddyn olaf eich gwasanaeth, neu dâl un o’r ddwy flynedd flaenorol os yw’n well.Os caiff eich tâl ei leihau neu ei gyfyngu o fewn 10 mlynedd i ymddeol, mae gennych hefyd yr opsiwn i seilio’ch buddion tâl terfynol ar gyfartaledd tâl unrhyw 3 blynedd olynol yn y 13 blynedd diwethaf (gan orffen ar 31 Mawrth).
Os ydych yn gweithio rhan-amser, bydd aelodaeth y cynllun yn cyfrif o ran ei hyd rhan-amser wrth gyfrifo’ch pensiwn, a chyfrifir eich tâl terfynol ar sail y tâl y byddech wedi’i dderbyn pe baech wedi bod yn gweithio amser llawn.
Ar gyfer aelodaeth a gronnwyd ar ôl 31 Mawrth 2008, byddwch yn derbyn pensiwn blynyddol yn seiliedig ar 1/60 o’ch tâl terfynol.
Enghraifft
Os oes gan aelod o’r cynllun 6 blynedd o aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014 a Thâl Terfynol o £15,000. Dyma fyddai ei bensiwn blynyddol:
1/60 x 6 x £15,000 = £1,500
Pe bai’r un gweithiwr wedi gweithio hanner yr amser am 2 o’r blynyddoedd hynny, dyma fyddai ei bensiwn blynyddol:
4 mlynedd amser llawn
1 mlynedd (2 flynedd am hanner yr amser)
5
1/60 x 5 x £15,000 = £1,250
Os oeddech wedi ymuno â’r LGPS cyn 1 Ebrill 2008, ar gyfer aelodaeth a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2008, byddech yn derbyn pensiwn blynyddol yn seiliedig ar 1/80 o’ch tâl terfynol a chyfandaliad di-dreth awtomatig sydd dair gwaith swm eich pensiwn.
Gallwch hefyd ymwrthod â rhywfaint o’ch pensiwn i dderbyn cyfandaliad pan fyddwch yn ymddeol (neu gynyddu’r cyfandaliad os ydych wedi bod yn aelod ers cyn 1 Ebrill 2008). Darllenwch y dudalen Cymudiad am fwy o fanylion.