Pan fyddwch yn ymddeol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), bydd y Gronfa Bensiwn yn cyfrifo eich buddion safonol. Mae eich Buddion Safonol yn cynnwys pensiwn blynyddol, a gaiff eu talu mewn 12 taliad misol cyfartal a’u haddasu i gadw i fyny â chostau byw bob blwyddyn, ynghyd â lwmp swm arian parod awtomatig di-dreth os oeddech chi’n aelod o’r CPLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2008.
Os daethoch yn aelod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, ni fyddwch wedi cronni lwmp swm arian parod awtomatig di-dreth, ond bydd gennych yr opsiwn i gyfnewid rhywfaint o bensiwn blynyddol am lwmp swm arian parod di-dreth (hyd yn oed os bydd gennych eisoes lwmp swm arian parod awtomatig di-dreth). Cymudo yw’r enw ar hyn.
Sut mae’n gweithio?
Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n dewis ei ildio, byddwch chi’n cynyddu eich lwmp swm arian di-dreth £12. Mae rheolau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn golygu y gall y rhan fwyaf o bobl gymryd hyd at 25% o Werth Cyfalaf eu buddion pensiwn fel lwmp swm arian parod di-dreth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw lwmp swm arian parod awtomatig di-dreth a allai fod gennych os oeddech chi’n aelod ar neu cyn 31 Mawrth 2008. Eich Buddion Uchafswm yw’r enw ar hyn.
Gallwch naill ai ddewis:
- 1) cymryd eich buddion safonol (pensiwn blynyddol ac unrhyw lwmp swm arian parod awtomatig di-dreth); neu
- 2) cymryd eich buddion uchafswm (pensiwn blynyddol is a’r swm uchaf o arian parod di-dreth sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw lwmp swm arian parod awtomatig di-dreth); neu
- 3) ddewis ildio swm o bensiwn blynyddol, sydd rhwng eich buddion safonol a’ch buddion uchafswm.
Beth pe bawn i wedi talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY), Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY), Cyfraniadau Rheolaidd Ychwanegol (CRhY), neu wedi prynu blynyddoedd ychwanegol?
Os gwnaethoch dalu i mewn i CGY gan ddefnyddio darparwr/wyr CGY mewnol y Gronfa Bensiwn, bydd gwerth eich pot CGY yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo Gwerth Cyfalaf eich buddion CPLlL.
Os gwnaethoch brynu pensiwn ychwanegol trwy drefniant CPY / CRhY neu flynyddoedd ychwanegol, bydd y rhain yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo’ch pensiwn blynyddol safonol.
Sut mae Gwerth Cyfalaf eich buddion CPLlL yn cael ei gyfrifo?
Cyfrifir Gwerth Cyfalaf eich buddion CPLlL gan ddefnyddio’r camau canlynol:
Enghraifft
Pan fydd Gareth yn ymddeol, mae ei ddewisiadau Buddion Safonol a
Buddion Uchafswm fel a ganlyn:
Opsiwn 1 | Buddion Safonol | Opsiwn 2 | Buddion Uchafswm | |
Pensiwn Blynyddol: | £10,000 | Pensiwn Blynyddol Is: | £7,714.29 | |
Lwmp Swm Awtomatig: | £24,000 | Lwmp Swm Uchafswm: | £51,428.57 |
Cam 1
Cyfrifo Gwerth Cyfalaf Buddion CPLlL
120 x Pensiwn Blynyddol + 10 x Lwmp Swm Awtomatig (os oes un) ÷ 7 = Gwerth Cyfalaf Buddion CPLlL
120 x £10,000 + 10 x £24,000 ÷ 7 = £205,714.28
Gwerth Cyfalaf Buddion CPLlL Gareth yw £205,714.28
Cam 2
Cyfrifo’r Uchafswm Lwmp Swm arian parod di-dreth
Gwerth Cyfalaf x 25% = Uchafswm Lwmp Swm di-dreth
£205,714.28 x 25% = £51,428.57
Uchafswm Lwmp Swm Gareth yw £51,428.57
Cam 3
Lleihau Pensiwn Blynyddol ar gyfer Uchafswm Lwmp Swm arian parod di-dreth
Uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth – Lwmp swm arian parod di-dreth awtomatig ÷ 12 = Pensiwn Blynyddol wedi’i gyfnewid am Uchafswm Lwmp Swm *
Pensiwn Blynyddol – Cyfnewid Pensiwn Blynyddol = Pensiwn Blynyddol Is
£51,428.57 – £24,000 ÷ 12 = £2,285.71
£10,000 – £2,285.71 = £7,714.29
Pensiwn Blynyddol Is Gareth yn £7,714.29
*(Cyfradd lwmp swm o £12 am £1 o Bensiwn Blynyddol)
Fodd bynnag, gallai Gareth ddewis Opsiwn 3, lle byddai’n dewis ildio swm o bensiwn blynyddol, sydd rhwng Opsiwn 1 ac Opsiwn 2 h.y. rhwng ei fuddion safonol a’i fuddion uchaf.
Gallai hyn fod yn lwmp swm arian parod di-dreth rhwng £24,000 a £51,428.57, gyda phensiwn blynyddol sy’n gyfrannol is oherwydd y cyfnewid.
Pryd ydw i’n dewis fy lwmp swm arian parod di-dreth?
Bydd y Gronfa Bensiwn yn anfon pecyn ymddeol atoch – bydd angen i chi ei lenwi cyn gellir talu eich pensiwn i chi. Bydd hwn yn cynnwys eich ffigyrau buddion safonol a buddion uchaf. Mae angen i chi wneud eich dewis ynglŷn â’ch lwmp swm arian parod di-dreth cyn y gellir talu eich buddion CPLlL i chi. Cofiwch, pan fyddwch wedi gwneud eich dewis ni allwch ei newid unwaith y bydd eich buddion CPLlL yn cael eu talu i chi. Os ydych am ddewis swm rhwng y buddion safonol a’r buddion uchaf, dylech gysylltu â’r Gronfa Bensiwn i drafod eich dewis.
A fydd fy Muddion Goroeswyr yn cael eu lleihau?
Os dewiswch gyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn blynyddol am lwmp swm arian parod di-dreth ychwanegol, ni fydd yn lleihau unrhyw Fuddion Goroeswyr a delir i’ch priod, partner sifil, partner cyd-fyw, neu unrhyw blant cymwys pan fyddwch yn marw.
Ni all y Gronfa Bensiwn roi unrhyw gyngor ariannol i chi, felly ystyriwch ofyn am Gyngor Ariannol Annibynnol pan fyddwch yn ymddeol i sicrhau eich bod yn dewis yr opsiwn mwyaf priodol.
A allaf gymryd fy holl bot CGY mewnol fel arian parod di-dreth?
Mae’n bosib y gallwch gymryd eich holl bot CGY mewnol fel arian parod di-dreth yn y CPLlL, ochr yn ochr â’ch prif fuddion CPLlL pan fyddwch chi’n ymddeol. Bydd hyn yn dibynnu ar a fydd hyn yn mynd â chi dros y terfyn Lwfans Oes a bennir gan Gyllid a Thollau EM.
Bydd modd i chi gymryd eich holl bot CGY mewnol fel arian parod di-dreth yn y CPLlL, ar yr amod nad yw eich pot CGY mewnol, o’i ychwanegu at unrhyw lwmp swm a gymerwyd o’ch prif fuddion CPLlL:
- yn mynd dros 25% o Werth Cyfalaf eich buddion CPLlL.
- yn mynd â chi dros 25% o’r terfyn Lwfans Oes o £1,073,100 (o’r 6ed Ebrill 2021 tan 5ed Ebrill 2026). Ar gyfer y cyfnod hon, uchafswm yr arian parod di-dreth yw £268,275.
- yn mynd â chi dros 25% o’ch lwfans Oes sy’n weddill os cafodd unrhyw fuddion pensiwn eu talu i chi o’r blaen (nid yn y CPLlL yn unig).
Enghraifft
Pan fydd yn ymddeol, mae gan Gareth hefyd bot CGY mewnol o £27,000, y mae am ei gymryd fel arian parod di-dreth, os yn bosibl.
Er mwyn asesu a yw hyn yn bosibl, byddai’n rhaid ail-gyfrifo Gwerth Cyfalaf ei fuddion i ddarganfod ei uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth newydd.
Cam 1
Cyfrifo Gwerth Cyfalaf y Buddion CPLlL
120 x Pensiwn Blynyddol + 10 x Lwmp Swm Awtomatig (os oes un) + 10 x pot CGY mewnol ÷ 7 = Gwerth Cyfalaf Buddion CPLlL
120 x £10,000 + 10 x £24,000 + 10 x £27,000 ÷ 7 = £244,285.71
Mae Gwerth Cyfalaf Buddion CPLlL Gareth a’i bot CGY mewnol yn £244,285.71.
Cam 2
Cyfrifo’r Uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth
Gwerth Cyfalaf x 25% = Uchafswm Lwmp Swm di-dreth
£244,285.71 x 25% = £61,071.42
Uchafswm Lwmp Swm Di-dreth Gareth yw £61,071.42.
Cam 3
Lleihau Pensiwn Blynyddol ar gyfer Uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth
Uchafswm Lwmp Swm arian parod di-dreth –
Lwmp Swm arian parod awtomatig di-dreth –
pot CGY mewnol ÷ 12 =
Pensiwn Blynyddol wedi’i gyfnewid am y Lwmp Swm Uchaf
Pensiwn Blynyddol – Cyfnewid Pensiwn Blynyddol = Pensiwn Blynyddol Is
£61,071.42 – £24,000 – £27,000 ÷ 12 = £839.28
£10,000 – £839.28 = £9,160.72
Pensiwn Blynyddol Is Gareth yw £9,160.72.
Opsiynau ymddeol Gareth gyda’i bot CGY mewnol fyddai:
OPSIWN 1 – Buddion Safonol | |
Pensiwn Blynyddol: | £10,000 |
Lwmp Swm arian parod di-dreth (lwmp swm awtomatig o £24,000 + pot CGY mewnol o £27,000) | £51,000* |
*Gall Gareth ddewis cymryd gwerth cyfun ei lwmp swm awtomatig a’i bot CGY mewnol fel arian parod di-dreth, gan ei fod yn llai na’i opsiwn uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth sef £61,071.42. | |
OPSIWN 2 – Uchafswm Buddion | |
Pensiwn Blynyddol: (pensiwn blynyddol safonol o £10,000 – pensiwn blynyddol wedi’i gyfnewid o £839.28) | £9,160.72 |
Uchafswm Lwmp swm arian parod di-dreth (lwmp swm awtomatig o £24,000 + pot CGY mewnol o £27,000 + swm cymudo’r cynllun o £10,071.42) | £61,071.42** |
**Er mwyn cymryd y lwmp-swm arian parod di-dreth uchaf, bydd angen i Gareth ostwng ei bensiwn blynyddol o £839.28 i gynhyrchu’r arian parod di-dreth ychwanegol o £10,071.42, sef y gwahaniaeth rhwng yr arian parod di-dreth sydd ar gael o dan Opsiwn 1 (buddion safonol) a’r opsiwn hwn. |
Hefyd, byddai Gareth yn dal i allu dewis Opsiwn 3, yn lle Opsiwn 1 neu 2.
Beth os yw fy mhot CGY mewnol yn ormod i gymryd y cyfan fel arian parod di-dreth?
Weithiau, gall pot CGY mewnol aelod fod mor uchel ei werth pan gaiff ei ychwanegu at unrhyw lwmp swm awtomatig, nes ei fod yn fwy na’r lwmp swm arian parod di-dreth uchaf a ganiateir i’r aelod. Yn yr achos hwn, fe allai’r aelod gymryd ei lwmp swm arian parod di-dreth uchaf fel arian parod di-dreth, ond wedyn byddai’n rhaid iddo ddefnyddio’r gweddill i brynu pensiwn ychwanegol yn y CPLlL neu brynu blwydd-dal gyda darparwr arall.
Enghraifft
Pe bai gan Gareth bot CGY mewnol o £45,000 a lwmp swm awtomatig o £24,000 (£45,000 + £24,000 = £69,000), ar ôl ymddeol, ni fyddai’n gallu cymryd y cyfan yn ôl fel arian parod di-dreth, gan y byddai ei lwfans lwmp swm uchaf yn £67,500, sy’n golygu y byddai gormodedd o £1,500 (£69,000 – £67,500 = £1,500).
Nodwch fod Gareth yn ymddeol ar ei ben-blwydd yn 67, sef ei Oedran Pensiwn Arferol (OPA) o dan y CPLlL, ac roedd wedi dechrau ei bot CGY mewnol cyn 1 Ebrill 2014.
Cam 1
Cyfrifo Gwerth Cyfalaf y Buddion CPLlL
120 x Pensiwn Blynyddol + 10 x Lwmp Swm Awtomatig (os oes un) +
10 x pot CGY mewnol ÷ 7 = Gwerth Cyfalaf y Buddion CPLlL
120 x £10,000 + 10 x £24,000 + 10 x £45,000 ÷ 7 = £270,000
Gwerth Cyfalaf Buddion CPLlL Gareth a’i bot CGY mewnol yw £270,000.
Cam 2
Cyfrifo’r Uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth
Gwerth Cyfalaf x 25% = Uchafswm lwmp swm di-dreth
£270,000 x 25% = £67,500
Uchafswm Lwmp Swm Di-dreth Gareth yw £67,500
Cam 3
Lleihau Pensiwn Blynyddol ar gyfer Uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth
Gan fod pot CGY mewnol Gareth (£45,000), o’i ychwanegu at ei lwmp swm awtomatig (£24,000) yn rhoi cyfanswm o £69,000, nid oes unrhyw ostyngiad i’w wneud i’w bensiwn blynyddol safonol o £10,000, gan ei fod wedi mynd dros ei uchafswm lwmp swm arian parod di-dreth (£67,500).
Yr opsiynau ymddeol i Gareth ar ôl defnyddio’r gormodedd o’i bot CGY mewnol (£1,500) i brynu pensiwn CPLlL ychwanegol fyddai:
OPSIWN 2 – Uchafswm Buddion | |
Pensiwn Blynyddol: (pensiwn blynyddol safonol o £10,000 + pensiwn blynyddol ychwanegol o £88.05, a brynwyd o ormodedd ei bot CGY mewnol)*** | £10,088.05 |
Uchafswm Lwmp Swm arian parod di-dreth: (lwmp swm awtomatig o £24,000 + £43,500, sef balans pot CGY mewnol Gareth i’r uchafswm lwfans Lwmp Swm arian parod di-dreth) | £67,500 |
***Defnyddiwyd gormodedd pot CGY mewnol Gareth (£1,500) i brynu £88.05 o bensiwn blynyddol ychwanegol, a ychwanegir wedyn at ei bensiwn blynyddol safonol (£10,000). Cyfrifwyd y pensiwn blynyddol ychwanegol trwy ddefnyddio canllawiau a gyhoeddir gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD), a gaiff eu hadolygu o bryd i’w gilydd. Mae’r ffactor perthnasol yn dibynnu ar oedran yr aelod a p’un a yw’n penderfynu bod y pensiwn ychwanegol a brynwyd er budd ei oroeswr yn dilyn ei farwolaeth. Yn yr enghraifft hon, tybiwyd nad yw Gareth eisiau i’r pensiwn ychwanegol a brynwyd fod o fudd i fuddion ei oroeswr. Yr hafaliad yw: Gormodedd pot CGY mewnol ÷ 100 x ffactor GAD = pensiwn blynyddol ychwanegol £15,000 ÷ 100 x 5.87 = £88.05 pensiwn blynyddol ychwanegol |
Nodwch
Bydd y Gronfa Bensiwn yn rhoi gwybod i chi ar y cyfle cyntaf os oes gormod yn eich pot CGY mewnol a’r opsiynau sydd ar gael i chi, er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen yn y broses o dalu eich buddion.