Os ydych yn ymddeol am fod eich cyflogwr wedi dileu’ch swydd neu am resymau sicrhau effeithlonrwydd y gwasanaeth, ar yr amod eich bod o leiaf 55 oed ac rydych wedi bod yn aelod o’r LGPS am o leiaf 2 flynedd, bydd gennych hawl i dderbyn eich buddion LGPS ar unwaith.
O dan yr amgylchiadau hyn, ni chaiff y buddion eu lleihau fel y byddent gydag Ymddeoliad Cynnar.
Os ydych o dan 55 oed, ac rydych wedi bod yn aelod o’r LGPS am fwy na 2 flynedd, ni fydd eich buddion LGPS yn cael eu talu’n syth.Rhoddir buddion gohiriedig i chi.
I gael mwy o wybodaeth, darllenwch bolisi eich cyflogwr ar ymddeol yn gynnar a cholli swydd.