I dderbyn buddion ymddeol LGPS, mae’n rhaid bod gennych o leiaf 2 flynedd o aelodaeth, neu wedi trosglwyddo hawliau pensiwn eraill i’r cynllun neu fod gennych fuddion gohiriedig yn yr LGPS yng Nghymru a Lloegr.
Mae eich Oedran Pensiwn Arferol yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (a’r oed ieuengaf yw 65 oed). Eich Oedran Pensiwn Arferol yw’r oed y gallwch ymddeol a chael eich pensiwn llawn.
Gallwch wirio eich Oedran Pensiwn Arferol trwy edrych am eich Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yma.
Mae yna reolau penodol ynghylch pob math o ymddeoliad, ac mae’r adran hon yn edrych ar yr opsiynau gwahanol ar gyfer ymddeol, a amlinellir isod.
*Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yr oed cynharaf y gallwch dderbyn pensiwn yn cynyddu o 55 oed i 57 oed a rhoddir hyn ar waith o 6 Ebrill 2028. Nid yw hyn yn berthnasol os oes angen i chi dderbyn eich pensiwn yn gynnar oherwydd afiechyd.
Mae’n bosib y cewch chi eich amddiffyn rhag y cynnydd hwn os ymunoch â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr cyn 4 Tachwedd 2021. Efallai cewch chi hefyd eich amddiffyn os ydych chi wedi trosglwyddo pensiwn blaenorol i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol os caiff amodau penodol eu bodloni. Fodd bynnag, byddwch ond yn gallu defnyddio’r amddiffyniad hwn pan fyddwch yn derbyn eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol os bydd rheolau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn eich caniatáu i dderbyn eich pensiwn cyn i chi fod yn 57 oed.
Mae Llywodraeth y DU yn llunio rheolau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nid ydynt wedi cadarnhau a fydd yn caniatáu i aelodau sy’n gymwys ar gyfer yr amddiffyniad dderbyn eu pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn iddynt fod yn 57 oed, o 6 Ebrill 2028.
Mae amrywiaeth eang o opsiynau ymddeol ar gael fel a ganlyn:
- Ymddeoliad Arferol
- Ymddeoliad Cynnar
- Ymddeoliad Hwyr
- Ymddeoliad Salwch
- Ymddeoliad Colli Swydd/Effeithlonrwydd
- Ymddeoliad Hyblyg
I gael manylion am sut caiff eich pensiwn ei gyfrifo, a’r opsiynau gwahanol sydd ar gael i chi, ewch i’r dudalen Cyfrifo’ch Buddion.