Gallwch ddewis i ymddeol yn wirfoddol ar unrhyw adeg o 55 oed tan 75 oed a derbyn eich buddion LGPS; fodd bynnag, efallai cânt eu gostwng i ystyried taliad cynnar cyn eich oedran pensiwn arferol (sy’n gyfartal â’ch oedran pensiwn y wladwriaeth, neu o leiaf 65 oed).
*Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yr oedran isaf arferol ar gyfer pensiwn yn cynyddu i 57 oed o 6 Ebrill 2028.
Ymddeoliad Gwirfoddol cyn 60 oed
Dylid nodi os ydych yn ymddeol yn wirfoddol ac yn derbyn eich buddion LGPS cyn 60 oed, ni fydd unrhyw ddiogelu ar sail y ‘Rheol 85 Mlynedd’ yn gymwys, a bydd eich buddion pensiwn yn cael eu gostwng i ystyried taliad cynnar cyn eich oedran pensiwn arferol.
Mae gan eich cyflogwr ddisgresiwn ynghylch a ddylid cymhwyso diogelwch ‘Rheol 85 Mlynedd’ sydd efallai’n berthnasol i’ch amgylchiadau, ac yn yr achos hwn, byddai angen ei ganiatâd i ymddeol a derbyn eich buddion pensiwn.
Ymddeoliad Gwirfoddol o 60 oed
Os ydych yn ymddeol yn wirfoddol o 60 oed ond cyn oedran pensiwn arferol, bydd eich buddion pensiwn yn cael eu gostwng i ystyried y ffaith eu bod yn cael eu talu’n rhy gynnar, ond cymhwysir unrhyw ddiogelwch ‘Rheol 85 Mlynedd’ sydd efallai gennych. Caiff y gostyngiad ei gyfrifo yn unol â’r arweiniad a roddir gan Adran Actiwari’r Llywodraeth.
Fel canllaw, dangosir y gostyngiadau canrannol ar gyfer ymddeoliad cynnar yn y tabl isod. Lle nad yw nifer y blynyddoedd yn union, caiff canrannau’r gostyngiadau eu haddasu’n unol â hyn. (Daeth y Ffactorau Gostyngiad hyn i rym ar 03/07/2023).
Blynyddoedd a Dalwyd yn Gynnar | Gostyngiad Pensiwn % | Gostyngiad yn y Cyfandaliad % |
0 | 0 | 0 |
1 | 4.9 | 1.7 |
2 | 9.3 | 3.3 |
3 | 13.5 | 4.9 |
4 | 17.4 | 6.5 |
5 | 20.9 | 8.1 |
6 | 24.3 | 9.6 |
7 | 27.4 | 11.1 |
8 | 30.3 | 12.6 |
9 | 33.0 | 14.1 |
10 | 35.6 | 15.5 |
11 | 39.5 | Dd/b |
12 | 41.8 | Dd/b |
13 | 43.9 | Dd/b |
’85 Year Rule’ Protection
If you joined the LGPS before 1st October 2006, you may have some protection from the early retirement reduction if your age and LGPS membership, in whole years add up to 85, at retirement. Further information is available from the Pension Section.