Gall ymddeol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) fod yn gam mawr a gall fod yn anodd gwybod a ydych chi’n barod i ymddeol. Mae ymddeoliad hyblyg yn rhoi’r opsiwn i chi symud yn raddol i ymddeoliad trwy leihau eich oriau neu symud i raddfa cyflog is.
Beth yw Ymddeoliad Hyblyg?
Gyda chytundeb eich Cyflogwr, gallwch chi gymryd y buddion pensiwn rydych chi wedi’u cronni hyd yn hyn, a pharhau i weithio i’r un Cyflogwr, ond gan weithio llai o oriau neu mewn graddfa gyflog is.
Beth yw’r meini prawf ar gyfer Ymddeoliad Hyblyg?
Gallwch wneud cais am Ymddeoliad Hyblyg os ydych:
- Yn 55 oed neu’n hŷn.
- Gyda 2 flynedd neu fwy o aelodaeth yn y cynllun neu wedi dod a throsglwyddiad i mewn o gynllun arall. Os ydych wedi ymuno â’r cynllun ar neu cyn 31 Mawrth 2014, dim ond 3 mis o aelodaeth sydd ei angen arnoch i fod yn gymwys.
- wedi cael caniatâd eich Cyflogwr i leihau eich oriau gwaith neu radd ac ymddeol o dan reolau Ymddeoliad Hyblyg.
Beth yw ystyr Caniatâd Cyflogwr?
Mae rheoliadau’r cynllun yn nodi y dylai fod gan bob Cyflogwr bolisi sy’n cadarnhau a fyddant yn ystyried ceisiadau am Ymddeoliad Hyblyg. Rhaid i’r Cyflogwr ystyried pob cais a’r effaith ar gyflwyno gwasanaeth ac unrhyw gostau posib, cyn gwneud penderfyniad. I ddarganfod rhagor am eu polisi, cysylltwch â’ch Cyflogwr.
Pa fuddion fydd yn daladwy os cymeraf Ymddeoliad Hyblyg?
- Byddwch yn derbyn eich pensiwn blynyddol; hefyd
- Mae gennych yr opsiwn i gyfnewid rhan o’ch pensiwn am lwmp swm di-dreth (gelwir y broses hon yn Cymudiad).
Os oeddech yn aelod o’r CPLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2008, byddai gennych hawl i gyfandaliad awtomatig di-dreth fel rhan o’r buddion y gwnaethoch chi eu hadeiladu hyd at y dyddiad hwn.
I ddarganfod rhagor am eich opsiynau ar ôl ymddeol, cyfeiriwch at y daflen ffeithlen Cymudiad.
A fydd fy mhensiwn yn cael ei leihau os byddaf yn ymddeol cyn Oedran Pensiwn Arferol (OPA)?
Mae eich OPA o dan y Cynllun yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gydag isafswm oedran o 65. Fodd bynnag, y cynharaf y gallwch ymddeol yw 55 oed. Os ydych yn cytuno i’ch buddion gael eu talu cyn eich OPA, bydd gostyngiad er mwyn ystyried y taliad cynnar.
Fodd bynnag, os gwnaethoch ymuno â’r Cynllun ar 30 Medi 2006 neu cyn hynny ac wedi cael Ymddeoliad Hyblyg rhwng 55 a 60 oed, bydd gennych hawl i amddiffyniad y Rheol 85 Mlynedd. Mae hyn yn golygu na fydd y buddion rydych chi wedi’u cronni cyn 1 Ebrill 2008 yn cael eu lleihau oherwydd taliad cynnar.
Os gwnaethoch ymuno â’r Cynllun ar 1 Hydref 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd y Rheol 85 mlynedd yn berthnasol, a bydd eich buddion yn cael eu lleihau oherwydd taliad cynnar. Fodd bynnag, yr agosaf yr ydych at eich OPA pan fyddwch yn ymddeol, yr isaf fydd y gostyngiad i’ch buddion.
Mae gan eich Cyflogwr y disgresiwn i benderfynu a yw’n cymhwyso’r Rheol 85 mlynedd rhwng 55 a 60 oed. Bydd angen i chi gysylltu â nhw i ddarganfod eu polisi ar y mater hwn.
Os hoffech ddarganfod rhagor am y Rheol 85 mlynedd a’r gostyngiadau a allai fod yn berthnasol, cyfeiriwch at y ffeithlen Rheol 85 mlynedd.
A fyddaf yn dal i allu cyfrannu at y Cynllun?
Unwaith byddwch wedi hawlio eich buddion ymddeol, byddwch chi’n gallu ail-ymuno â’r CPLlL a dechrau adeiladu buddion pensiwn pellach.
Fodd bynnag, pe bai’r Rheol 85 mlynedd yn berthnasol i’ch cyfnod aelodaeth gyfredol, ni fydd yn berthnasol i unrhyw fuddion pensiwn newydd y byddwch yn eu cronni yn y dyfodol.
Nodyn atgoffa
Os bydd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn newid yn y dyfodol, cofiwch y bydd eich OPA yn yr CPLlL hefyd yn newid.
Gostyngiadau
Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu peidio â thalu cost y gostyngiad caiff eich buddion eu gostwng fel a ganlyn:
Blynyddoedd a Dalwyd yn Gynnar | Gostyngiad Pensiwn % | Gostyngiad yn y Cyfandaliad % |
0 | 0 | 0 |
1 | 4.9 | 1.7 |
2 | 9.3 | 3.3 |
3 | 13.5 | 4.9 |
4 | 17.4 | 6.5 |
5 | 20.9 | 8.1 |
6 | 24.3 | 9.6 |
7 | 27.4 | 11.1 |
8 | 30.3 | 12.6 |
9 | 33.0 | 14.1 |
10 | 35.6 | 15.5 |
11 | 39.5 | Dd/b |
12 | 41.8 | Dd/b |
13 | 43.9 | Dd/b |